Jump to content
Eich cyfrifoldebau fel person cofrestredig

Gwybodaeth am eich cyfrifoldebau fel person cofrestredig

Eich cyfrifoldebau o dan y Cod Ymarfer Proffesiynol

Trwy gofrestru gyda ni, rydych chi'n cytuno i weithio’n unol â safonau'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Mae'r Cod Gweithwyr yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, i helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.  

Rhaid i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni weithio’n unol â safonau'r Cod Gweithwyr. 

Rhaid i chi: 

  • helpu'r bobl maen nhw'n gofalu amdanynt i ddweud a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw 
  • parchu barn, hawliau a dymuniadau unigolion 
  • cefnogi llesiant unigolion a'u cadw'n ddiogel 
  • bod yn onest, yn ddibynadwy ac yn rhywun y gellir ymddiried ynddo 
  • fod yn gymwys i wneud eu gwaith yn iawn.

Mwy o wybodaeth am y Codau Ymarfer Proffesiynol a'r canllawiau

Sut rydyn ni'n defnyddio'r Cod o ran rheoleiddio

Fel rhan o'n cyfrifoldeb i sicrhau bod gan weithwyr gofal cymdeithasol ar ein Cofrestr y sgiliau, y wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol, byddwn yn defnyddio'r Cod wrth ddelio â phryderon a godir am bersonau cofrestredig. 

Os nad ydych yn dilyn y Cod, efallai y bydd rhywun yn rhoi gwybod i ni. Os ydych chi'n gweld pobl yn gwneud pethau yn y gwaith rydych chi'n meddwl sy'n anniogel, neu bethau na fyddech chi'n eu disgwyl gan weithiwr gofal cymdeithasol da, dylech roi gwybod i ni.

Datblygiad proffesiynol parhaus

Rhaid i bawb ar ein Cofrestr gymryd rhan mewn hyfforddiant neu ddysgu fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Mwy o wybodaeth am DPP

Rhoi gwybod i ni am newidiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau i'r wybodaeth ganlynol: 

  • enw 
  • teitl 
  • cyflogaeth 
  • cyfeiriad cartref 
  • cofrestru gyda chorff rheoleiddio arall
  • cofnod troseddol 
  • cofnod iechyd 
  • cofnod disgyblu 
  • manylion cyswllt. 

Dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl. Os na wnewch hyn, efallai y cewch eich cyfeirio at banel addasrwydd i ymarfer. 

Os ydych chi'n gweithio mewn mwy nag un grŵp a reoleiddir neu os ydych chi'n newid y grŵp rydych chi'n gweithio ynddo, bydd angen i chi newid eich cofrestriad. 

Gallwch weld a diweddaru eich manylion ar unrhyw adeg yn eich cyfrif GCCarlein yn yr adran 'Fy Mhroffil'.

Darparu tystiolaeth o'ch cofrestriad

Byddwn ni'n anfon e-bost atoch chi i gadarnhau eich cofrestriad unwaith y bydd wedi'i ganiatáu.  

Os oes angen prawf arnoch eich bod chi wedi cofrestru gyda ni, mewngofnodwch i'ch GCCarlein ac ewch i 'Prawf o gofrestru'. 

Gallwch chi hefyd wirio eich enw ar y Gofrestr.

Y rhaglen gadarnhau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol

Os gwnaethoch chi gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ar ôl 1 Ebrill 2016, rhaid i chi gwblhau'r rhaglen gadarnhau o fewn y tair blynedd gyntaf o gael eich cofrestru.

Mwy o wybodaeth am y rhaglen gadarnhau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol