Jump to content
Sut i adnewyddu eich cofrestriad

Mae eich cofrestriad yn para am hyd at dair blynedd. Dysgwch bryd a sut i adnewyddu eich cofrestriad.

Pryd i adnewyddu eich cofrestriad

Mae eich cofrestriad yn para am hyd at dair blynedd.

Er mwyn sicrhau y gallwn ni adnewyddu eich cofrestriad cyn iddo ddod i ben, bydd angen i chi wneud cais i adnewyddu tua thri mis cyn i'ch cyfnod cofrestru tair blynedd ddod i ben. 

Byddwn ni’n cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd mae'n amser gwneud cais.

Os na fyddwch chi’n adnewyddu eich cofrestriad cyn diwedd y tair blynedd, bydd eich cofrestriad yn dod i ben. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi ar ein Cofrestr mwyach, ac ni fyddwch chi’n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru sydd angen cofrestru ar ei chyfer.

Rhaid i chi gyflwyno'ch cais o leiaf 21 diwrnod cyn diwedd eich cyfnod cofrestru tair blynedd.

Os na wnewch hynny, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a'ch cyflogwr diwethaf y byddwn ni’n eich tynnu chi oddi ar y Gofrestr unwaith bydd eich cofrestriad wedi dod i ben.

Ni allwn ni warantu y gallwn ni brosesu ceisiadau adnewyddu hwyr, ond byddwn ni’n ceisio ein gorau.

Sut i adnewyddu eich cofrestriad

  • Cam 1: Mewngofnodwch i'ch cyfrif GCCarlein.
  • Cam 2: Ewch i'r adran 'Adnewyddu'.
  • Cam 3: Cwblhewch a chyflwynwch eich cais. 
  • Cam 4: Os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol, mae angen i'ch llofnodwr gymeradwyo'ch cais.

Talu am eich adnewyddiad

Bydd angen i chi dalu ffi i adnewyddu eich cofrestriad. Dyma wybodaeth am ein ffioedd presennol.

Cymeradwyo'ch cais adnewyddu

Gweithwyr gofal cymdeithasol

Os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol, bydd angen i'ch cais gael ei gefnogi gan rywun yn eich sefydliad.  Gelwir hyn yn gymeradwyo.

Rhaid i'r person hwn:

  • fod mewn swydd uwch na chi yn eich sefydliad
  • ni ddylai fod yn perthyn i chi
  • ni ddylai fod mewn perthynas bersonol â chi.

Pan fyddwch chi'n gwneud cais trwy eich cyfrif GCCarlein, bydd angen i chi ddewis rhywun o'r rhestr o bobl yn eich sefydliad a all gefnogi'ch cais. Mae'r bobl hyn yn cael eu hadnabod fel llofnodwyr. 

Rheolwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol

Os ydych chi'n rheolwr gofal cymdeithasol neu'n weithiwr cymdeithasol, mae'n annhebygol y bydd angen rhywun arnoch i gymeradwyo'ch cais, ond os bydd, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch chi’n gwneud cais.

Gweithwyr hunangyflogedig

Os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol hunangyflogedig, neu'n cael eich cyflogi gan aelod o'r teulu, bydd angen dau gymeradwyaeth arnoch chi. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses hon yn ein canllawiau cymeradwyo.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, cysylltwch â ni.