Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed.
Beth sy'n digwydd yn ystod wythnos ddysgu y blynyddoedd cynnar a gofal plant?
Yn ystod yr wythnos, rydyn ni'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein, trwy Microsoft Teams. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim i'w mynychu ac maen nhw ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Byddwn ni'n ymdrin ag ystod o bynciau, sy'n canolbwyntio ar ein tair prif thema:
- llesiant ac arweinyddiaeth dosturiol yn y gweithle
- tegwch, iaith a hunaniaeth
- twf proffesiynol.
Ar gyfer pwy mae'r wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant?
Mae'r wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer unrhywun sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae hyn yn cynnwys:
- rheolwyr
- ymarferyddion
- tiwtoriaid/aseswyr
- dysgwyr
- llunwyr polisi
- arolygwyr
- sefydliadau partner.
Ein digwyddiadau
Ymgyrch symudiad
Ar-lein
Ymunwch â Leo Holmes wrth iddo gyflwyno ymgyrch 'hyrwyddwr symudiad' Blynyddoedd Cynnar Cymru. Byddwn yn clywed sut mae'n helpu plant ledled Cymru i gael manteision datblygiadol o symud yn rheolaidd.
Bydd y cyflwyniad yn ymdrin â realiti sut, fel cymdeithas, rydyn ni'n dod yn fwy segur ac yn dibynnu mwy ar dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cael effaith negyddol sylweddol ar ddatblygiad plant, gan gyfrannu at bryderon iechyd corfforol a meddwl cynyddol, megis cynnydd sylweddol mewn plant sy'n cael diagnosis o myopia ac yn cyflwyno fel plentyn di-eiriau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Bydd y sesiwn yn trafod sut y gall oedolion ddod yn fodelau rôl symudiad i'r plant yn eu gofal. Mae hyn yn golygu symud yn fwy rheolaidd yn eu bywydau eu hunain a rhoi cyfle i blant symud a chwarae yn ystod y dydd.
Siaradwr
Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru
Mae gan Leo gefndir o weithio yn y sector elusennol a gwleidyddiaeth, a'n angerddol am bwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Mae gan Leo radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd, ac ar ôl gyrfa fer mewn gwleidyddiaeth, trosglwyddodd i'r trydydd sector, lle dilynodd ei angerdd am waith elusennol.
Mae cysylltiad Leo â'r blynyddoedd cynnar yn deillio o'i dad, a oedd yn rhedeg canolfan plant yn ei dref enedigol. Cafodd Leo ei ysbrydoli gan y gefnogaeth a'r ymdeimlad o gymuned sy'n gysylltiedig â gwaith ei dad. Roedd e'n siomedig tu hwnt pan dorrwyd cyllid y ganolfan.
Cymraeg o gwmpas - Addewid Cymru a throchi effeithiol
Arlein
Ymunwch â ni i archwilio sut y gall Addewid Cymru eich cefnogi i gynyddu faint o Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio yn eich lleoliad. Byddwn ni'n edrych ar sut trwy ddadansoddi pethau i lawr i adrannau bach y gellir eu rheoli, y gallwch chi ddangos eich bod yn gweithio tuag at y Cynnig Actif.
P'un a yw'ch lleoliad yn dechrau o'r dechrau neu os ydych chi eisoes yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg, bydd y lefelau efydd, arian ac aur yn caniatáu i'ch lleoliad ddefnyddio'r Gymraeg mewn ffordd sy'n briodol i chi. Byddwn ni hefyd yn rhoi trosolwg o pam mae 'trochi' plant yn yr iaith Gymraeg, neu rhoi profiadau ystyrlon gan ddefnyddio Cymraeg yn unig, yn ffordd effeithiol o helpu plant i ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg
Siaradwyr
Lou Stevens Jones
Lou Stevens Jones yw rheolwr cenedlaethol ‘Croesi’r Bont’, cynllun trochi iaith Mudiad Meithrin, a ‘Clebran’, sef cynllun cefnogaeth iaith Mudiad Meithrin ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Saesneg.
Mae rôl Lou yn cynnwys rheoli tîm cenedlaethol o swyddogion iaith, a chydlynu cyfleoedd hyfforddi ar y dull trochi iaith ar gyfer y Cylchoedd Meithrin ac ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.
Yn wreiddiol â gradd busnes, ail hyfforddodd Lou mewn gofal plant a gweithiodd fel ymarferydd blynyddoedd cynnar am saith mlynedd. Mae Lou wedi gweithio i Mudiad Meithrin mewn amrywiaeth o rolau ers 2006.
Sian James
Sian yw Swyddog Arweiniol Cymraeg Datblygu Busnes Gofal Plant ar gyfer Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Ar hyn o bryd mae hi'n arwain prosiectau CYMell a Chymraeg Gwaith y sefydliad gyda thîm o swyddogion datblygu busnesau gofal plant Cymraeg sy'n cefnogi'r gweithlu gofal plant all-ysgol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae.
Mae Sian wedi gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae am yr 17 mlynedd diwethaf. Dechreuodd hyn fel gwaith rhan-amser o amgylch ei hastudiaethau a drodd wedyn yn yrfa llawn amser yn cefnogi gweithwyr gofal-plant eraill. Yn athrawes gymwysedig, mae gan Sian hefyd radd mewn Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol ac mae ganddi gymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae.
O werthoedd i effaith: Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant
Arlein
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut mae dulliau sy'n seiliedig ar werthoedd a chryfderau yn siapio ein harfer bob dydd yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Trwy fyfyrio a thrafodaeth, byddwn ni'n edrych ar sut mae gwerthoedd personol a sefydliadol yn dylanwadu ar ein gwaith, beth yw 'sgiliau meddal', a sut y gall y mewnwelediadau hyn gefnogi hunanwerthuso ystyrlon - yn enwedig wrth baratoi ar gyfer adolygiad Ansawdd Gofal Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2026.
Siaradwr
Jay Goulding, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Jay yn swyddog ymgysylltu a datblygu yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, lle mae'n helpu sefydliadau i fabwysiadu ac ymgorffori arferion sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gynnwys y rhaglen cyfathrebu cydweithredol.
Ers cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yn 2003 a hyfforddiant diweddarach mewn therapi teulu systemig, mae Jay wedi dal rolau fel gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol a rheolwr perfformiad a datblygu ar gyfer timau amlddisgyblaethol, gan gynnwys tîm cymorth teulu integredig.
Yn ei rôl bresennol, mae Jay yn hyrwyddo gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd ymarfer tosturiol, cydweithredol, gan sicrhau bod gan ddinasyddion "llais, dewis a rheolaeth." Trwy hyrwyddo dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau ac arweinyddiaeth dosturiol, mae'n cefnogi sefydliadau i feithrin diwylliannau cadarnhaol sy'n gwella lles y gweithlu ac yn gwella canlyniadau i bawb.
Ymddygiadau craidd – arweinyddiaeth dosturiol
Arlein
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar bwysigrwydd tosturi i wella canlyniadau, llesiant staff a diwylliant sefydliadol.
Beth fyddwn ni'n ei drafod?
Yn y sesiwn byddwn ni'n:
- dysgu am y pedwar ymddygiad o arweinyddiaeth dosturiol
- deall y gwahaniaeth y gall arweinyddiaeth dosturiol ei wneud
- trafod ffyrdd ymarferol y gallwch ddefnyddio egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol i chi'ch hun.
Siaradwr
Bex Steen, Swyddog Datblygu Arweinyddiaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru
Gyda dros 22 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth rheng flaen mewn gofal cymdeithasol, mae Bex yn dod ag arbenigedd ac angerdd i'w rôl. Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, mae'n arwain mentrau i ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol ar draws y sector.
Bex yw'r grym y tu ôl i raglen sydd wedi'i chynllunio i feithrin diwylliant o dosturi; helpu gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol i deimlo'n effeithiol, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cymell yn effeithiol. Mae ei gwaith nid yn unig yn cryfhau'r gweithlu ond hefyd yn gwella ansawdd gofal i'r rhai maen nhw'n eu cefnogi.
Y tu allan i'w chyflawniadau proffesiynol, mae Bex yn adnabyddus am ei hymrwymiad gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau pobl.
Gyrfaoedd mewn gofal plant blynyddoedd cynnar
Arlein
Bydd y sesiwn yn edrych ar yrfaoedd yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Byddwn ni'n edrych ar y llwybrau presennol sydd ar gael i'r gweithlu, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd dilyniant a datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwn ni'n clywed straeon am ddilyniant ac yn rhoi blas o'r amrywiaeth o rolau sydd ar gael yn y sector.
Siaradwyr
Sam Greatbanks, Swyddog Ymgysylltu a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Sam yn swyddog ymgysylltu a datblygu yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys y rhaglen Llwybrau i ofal plant, rhan annatod o hyn yw hyrwyddo ac annog gyrfaoedd yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae Sam wedi gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth teuluoedd am dros 25 mlynedd. Mae hi'n ymarferydd a'n rheolwr blynyddoedd cynnar cymwys a phrofiadol ac mae ganddi brofiad mewn nifer o rolau yn y sector. Mae Sam yn angerddol am yrfaoedd blynyddoedd cynnar a gofal plant a rôl hanfodol, gwerth chweil a gwerthfawr y gweithlu gofal plant.
Sam Thomas, Swyddog Arweiniol Ymgysylltu a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Sam yn arwain mentrau i ddenu a chefnogi staff newydd i'r sector gofal cymdeithasol trwy hyfforddiant, datblygu adnoddau, ac ymgysylltu â'r sector.
Gyda chefndir mewn plismona, yn arbenigo mewn cam-drin domestig ac amddiffyn plant, symudodd Sam i ofal cymdeithasol dros 22 mlynedd yn ôl. Mae hi'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda phrofiad mewn iechyd meddwl oedolion ac amddiffyn plant.
Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys cam-drin domestig, caethwasiaeth fodern, anffurfio organau cenhedlu benywaidd, a diogelu.
Mae Sam hefyd yn gwasanaethu fel Person Diogelu Dynodedig (DSP) ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Sam wrth ei bodd yn teithio ac mae'n awdur cyhoeddedig.
Gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar
Arlein
Yn y sesiwn hon, byddwn ni'n archwilio gwrth-hiliaeth yn y sector gofal plant, gan dynnu ar brofiadau personol a phroffesiynol. Byddwn ni'n edrych ar sut y gall gwahaniaethu ymddangos mewn ffyrdd cynnil ac amlwg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, a sut y gallwn ni greu amgylcheddau lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, yn ddiogel ac yn gynhwysol.
Mae'r Egwyddorion Gwaith Chwarae a'r Gwerthoedd Craidd yn pwysleisio'r angen i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad trwy gynnal hawl pob plentyn i chwarae a gwerthfawrogi amrywiaeth diwylliannau, cefndiroedd a phrofiadau plant. Byddwn ni'n rhannu enghreifftiau bywyd go iawn, strategaethau ymarferol, a syniadau creadigol y gallwch chi addasu ar gyfer eich lleoliad gofal plant eich hun. Byddwn ni'n trafod heriau, myfyrio ar ein harfer, a gweithio ar hyrwyddo tegwch, parch a pherthyn i bob plentyn a theulu.
Trwy greu mannau cynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i gynrychioli, mae gweithwyr chwarae yn herio agweddau ac arferion gwahaniaethol, gan sicrhau bod amgylcheddau chwarae yn deg, croesawgar ac yn ddiogel i bawb.
Siaradwyr
Sarah Sharpe
Mae Sarah yn warchodwr plant ymroddedig sydd wedi'i lleoli ym Mro Morgannwg, gydag angerdd cryf dros greu amgylcheddau cynhwysol, meithrin i blant ifanc. Mae gan Sarah radd Sylfaen mewn Dysgu a Datblygiad Gofal Plant ac mae'n falch o fod yn achrededig Schema Play a Hygge yn y blynyddoedd cynnar. Ym mis Mai 2025, cafodd Sarah yr anrhydedd o dderbyn gwobr Anrhydeddau Gofalwn Cymru, sy'n cydnabod effaith ei gwaith mewn addysg blynyddoedd cynnar.
Yn briod gyda dau o blant sy'n oedolion, mae Sarah'n dod â phrofiad personol a phroffesiynol i'w rôl. Ar ôl cwblhau'r gyfres arweinyddiaeth uwch DARPL (Diversity and Anti-Racist Professional Learning), cymerodd Sarah gamau ystyrlon i wella ei lleoliad. Cyflwynodd Sarah Tirion, tedi bêr niwtral o ran rhywedd gyda mewnblaniad cochlear, i helpu plant i ddathlu gwahaniaethau. Roedd hi hefyd yn rhoi pwyslais cryfach ar deimladau a lles. Cafodd y newidiadau hyn eu cydnabod yn ystod arolygiad AGC, lle cafodd Sarah ei disgrifio fel "gwarchodwr plant sy'n trawsnewid addysg blynyddoedd cynnar" a'i chydnabod fel arfer sy'n werth ei rannu ar eu gwefan.
Mae Sarah yn gobeithio rhoi ysbrydoliaeth a syniadau ymarferol i gefnogi eraill i ddatblygu dull gwrth-hiliol yn eu lleoliadau eu hunain, gan helpu i adeiladu dyfodol tecach i bob plentyn.
Dawn Bunn, Rheolwr Hyfforddiant Cenedlaethol, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
Mae Dawn wedi gweithio gyda phlant ers ei bod yn 16 oed, gan ennill profiad ar draws ystod eang o rolau gyda phlant rhwng dim a 12 oed. Er nad gwaith chwarae oedd ei llwybr gyrfa gwreiddiol, ar ôl gweithio mewn clwb gwyliau lle roedd ei mam yn gweithio, gan helpu i gwrdd â chymarebau staffio, nid yw hi erioed wedi edrych yn ôl.
Yn ei rôl bresennol, mae'n canolbwyntio ar hyrwyddo ac arwain hyfforddiant gwaith chwarae ledled Cymru. Mae hi hefyd yn cyfrannu at hyfforddiant gwrth-hiliol yn y sector, fel rhan o waith partneriaid CWLWM. Mae hi'n angerddol am adeiladu Cymru fwy cynhwysol ac yn deall ei bwysigrwydd nid yn unig i blant a gweithwyr chwarae, ond i'r gymuned ehangach hefyd.
"Pan nad yw'n teimlo'n iawn: deall anaf moesol yn y blynyddoedd cynnar"
Arlein
Ydych chi erioed wedi mynd adref o'r gwaith gyda theimlad trwm yn eich brest, nid oherwydd yr hyn a ddigwyddodd, ond oherwydd yr hyn a ddylai fod wedi digwydd, ac na wnaeth? Efallai eich bod wedi dilyn y rheolau, ond nid oedd yn teimlo'n iawn. Mae gan y teimlad tawel, ansefydlog hwnnw enw - anaf moesol.
Yn y sesiwn ddifyr a myfyriol hon, byddwn yn archwilio beth yw anaf moesol a pham bod ei gydnabod yn bwysig i bawb sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar. P'un a ydych chi'n fyfyriwr sy'n paratoi ar gyfer eich lleoliad cyntaf, yn ymarferydd sy'n jyglo heriau bywyd go iawn, neu'n arweinydd sy'n gyfrifol am lesiant tîm, mae'r sesiwn hon yn cynnig rhywbeth i chi.
Byddwn ni'n edrych ar sut mae anaf moesol yn ymddangos yn ymarferol a pham y gall amharu ar ein gwytnwch, tosturi a chysylltiad os caiff ei adael yn dawel. Yn bwysicaf oll, byddwn ni'n rhannu ffyrdd o sylwi arno'n gynnar, siarad amdano yn ddiogel, a'ch cefnogi chi ac eraill drwyddo. Byddwn ni hefyd yn archwilio pam mae ymgorffori'r arferion hyn yn floc adeiladu pwysig ar gyfer cryfhau llesiant a gwytnwch yn ein sector.
Byddwn ni'n gadael gyda mwy o eglurder, tosturi, ac offer ymarferol i chi'ch hun, eich tîm, a'r teuluoedd rydych chi'n eu gwasanaethu.
Siaradwr
Kat Applewhite, Prif Swyddog Gweithredol Here2There
Gyda gyrfa sy'n ymroddedig i ddatblygu pobl a chefnogi ymarfer sy'n cael ei yrru gan werthoedd, mae Kat yn Hyfforddwr Gweithredol Lefel 7 a'n ymgynghorydd profiadol sy'n arbenigo mewn datblygu'r gweithlu, hyfforddi ac ymarfer myfyriol. Mae ei gwaith mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar yng Nghymru wedi canolbwyntio ar rymuso gweithwyr proffesiynol i ymdrin â heriau emosiynol a moesegol anodd yn eu rolau.
Fel Prif Swyddog Gweithredol Here2There (H2T), mae'n arwain sefydliad sy'n dylunio technoleg sy'n canolbwyntio ar bobl a'n rhoi ymgynghoriaeth arbenigol i helpu pobl a sefydliadau i gysylltu, symud ymlaen a ffynnu. Wrth wraidd ei gwaith mae ymrwymiad dwfn i lesiant, cysylltiad dilys a dangos lleisiau'r rhai sy'n aml heb eu clywed.
Mae hi hefyd yn sylfaenydd WellNuts Parents, cymuned sy'n cefnogi teuluoedd a gweithwyr proffesiynol trwy ddealltwriaeth a rhannu ac adeiladu gwytnwch. Mae ei dull yn cyfuno mewnwelediad, empathi ac arloesedd, gan wneud lle i fyfyrio gonest am yr hyn y mae'n ei olygu i garu, gofalu, addysgu a chadw'n iach wrth gefnogi plant ag anghenion ychwanegol a chefndir trawma.
Caniatâd i flaenoriaethu eich hun – pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl sy'n gweithio mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant
Arlein
'Mae eich llesiant yn bwysig' - Caniatâd i flaenoriaethu eich hun.
Dyma gyflwyniad i'r syniad o flaenoriaethu ein hunain fel y gallwn fod yn effeithiol yn ein rolau gwaith. Byddwch chi'n clywed am ymchwil a wnaed yn 2025 sy'n denu sylw at gyflwr iechyd meddwl pobl sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Yn y sesiwn byddwn yn rhoi 'pecyn cymorth' o dechnegau i chi sy'n canolbwyntio ar leihau straen a phryder, codi eich hwyliau a chynyddu eich gwytnwch, ymdopi a llesiant. Bydd cyfle i rannu eich profiadau a'ch syniadau eich hun gydag eraill.
Siaradwyr
Kate Newman, Rheolwr Llesiant y Gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru
Kate yw Rheolwr Datblygu Iechyd a Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae rôl Kate yn cynnwys rhannu gwybodaeth am beth mae llesiant yn y gwaith yn ei olygu, pam ei fod yn bwysig a sut y gallwn wneud gwahaniaeth i gefnogi llesiant yn y gwaith.
Cyn gweithio i Gofal Cymdeithasol Cymru, gweithiodd Kate ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector mewn rolau sy'n cwmpasu datblygu iechyd cymunedol, comisiynu iechyd cyhoeddus, partneriaethau a pherthnasoedd.
Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru
Mae gan Leo gefndir o weithio yn y sector elusennol a gwleidyddiaeth, a'n angerddol am bwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Mae gan Leo radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd, ac ar ôl gyrfa fer mewn gwleidyddiaeth, trosglwyddodd i'r trydydd sector, lle dilynodd ei angerdd am waith elusennol.
Mae cysylltiad Leo â'r blynyddoedd cynnar yn deillio o'i dad, a oedd yn rhedeg canolfan plant yn ei dref enedigol. Cafodd Leo ei ysbrydoli gan y gefnogaeth a'r ymdeimlad o gymuned sy'n gysylltiedig â gwaith ei dad. Roedd e'n siomedig tu hwnt pan dorrwyd cyllid y ganolfan.
Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella
Arlein
Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno gwefan Y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ganolbwyntio ar yr Adnodd Sgiliau Ymchwil, Arloesi a Gwella (RII). Wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad sgiliau RII ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol, mae'r adnodd yn helpu i leihau rhwystrau cyffredin fel amser, cyllid, a llywio tirwedd gymhleth.
Bydd mynychwyr yn archwilio sut y gellir cymhwyso'r adnodd sgiliau RII i'w hymarfer eu hunain, gydag enghreifftiau ymarferol ac arweiniad.
Siaradwyr
Dr Kate Howson, Rheolwr Partneriaethau Ymchwil, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Kate yn arwain ymdrechion i gryfhau'r defnydd o ymchwil mewn ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol. Gyda chefndir mewn ymchwil gymdeithasol a PhD sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd rhwng cenedlaethau mewn cartrefi gofal, mae Kate yn dod â dealltwriaeth ddofn o sut y gall cysylltiadau ystyrlon a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth wella canlyniadau ar draws oedrannau.
Mae Kate yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr, sefydliadau ac ymarferwyr ledled Cymru i gefnogi'r defnydd o ymchwil, nodi cyfleoedd i weithio gyda'i gilydd, a meithrin sgiliau ymchwil yn y gweithlu. Mae ei gwaith yn sicrhau bod ymchwil yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion y rhai sy'n darparu ac yn derbyn gofal.
Mae Kate yn angerddol am gysylltu pobl o bob oed a'n credu bod perthnasoedd cryf yn allweddol i ddysgu a gwella. Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n mwynhau'r awyr agored, cerddoriaeth, ymarfer corff, a threulio amser gyda ffrindiau a theulu.
Alison Kulkowski, Rheolwr Partneriaethau Arloesi, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Alison yn arwain mentrau i gefnogi arloesedd mewn ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ar draws gofal cymdeithasol ac addysg uwch, mae Alison wedi arwain yn llwyddiannus i ddatblygu a chyflwyno strategaethau, polisïau a phrosiectau sy'n cefnogi gwelliant ac arloesi.
Mae Alison yn angerddol am weithio ar y cyd i greu newid cadarnhaol ac yn credu bod perthnasoedd cryf, ymddiriedol wrth wraidd timau a phrosiectau llwyddiannus.
Barn a safbwyntiau’r siaradwyr yw’r safbwyntiau a’r barn a fynegir yn y sesiynau hyn ac nid ydyn nhw o reidrwydd yn adlewyrchu barn y sefydliad y maen nhw'n cynrychioli, na safbwyntiau a barn Gofal Cymdeithasol Cymru.