Byddwn ni'n cyhoeddi canlyniadau'r arolwg ar ein gwefan yn ddiweddarach eleni.
Mae ein harolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer 2024 bellach wedi cau.
Diolch i’r mwy na 5,000 o bobl a gymerodd ran.
Yn union fel yn 2023, fe wnaethon ni ofyn i weithwyr gofal cymdeithasol ateb cwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw'n ei hoffi am weithio yn y sector.
Rydyn ni’n cynnal yr ymchwil hwn eto fel y gallwn ni ddechrau monitro tueddiadau o ran beth mae pobl yn ei feddwl am weithio ym maes gofal cymdeithasol.
Byddwn ni'n cyhoeddi’r canlyniadau ar ein gwefan yn ddiweddarach eleni a byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau i lunio’r cymorth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig, ac i dynnu sylw llunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru at faterion pwysig.
Gweithio gyda phartneriaid
Mae Prifysgol Bath Spa a Chymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) yn gweithio gyda ni i gynnal yr ymchwil hwn.
Bydd eich holl atebion yn ddienw a byddwn ni’n rhannu'r canfyddiadau ar ein gwefan ar ôl dadansoddi'r canlyniadau.
Beth oedd canlyniadau arolwg 2023?
Ym mis Hydref, fe wnaethon ni cyhoeddi canlyniadau arolwg peilot 2023, a ddangosodd fod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a'r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi. Ond maen nhw hefyd yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol gan y cyhoedd ac nad ydyn nhw'n cael digon o dâl am y gwaith maen nhw’n yn ei wneud.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am arolwg y gweithlu 2023, gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am arolwg Dweud Eich Dweud 2024, mae rhai atebion ar gael ar ein tudalen cwestiynau cyffredin.
Gallwch chi hefyd gysylltu trwy e-bostio SCWsurvey@bathspa.ac.uk.