Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud na’r llynedd, ond mae eu llesiant yn waeth na chyfartaledd y DU yn ôl ein hail arolwg blynyddol o'r gweithlu.
Fel yn 2023, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn ei wneud oherwydd eu bod am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Ond mae tâl yn dal i fod yn bryder ac yn arwain rhai i ystyried gadael y sector.
Fe wnaethon ni gynnal yr arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ rhwng Ionawr a Chwefror 2024. Ymatebodd cyfanswm o 5,024 o weithwyr gofal cymdeithasol, o ystod eang o rolau. Roedd hyn yn gynnydd o bron i 2,000 ar y nifer a ymatebodd y llynedd.
Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector. Eleni, fe wnaethon ni hefyd ofyn mwy o gwestiynau am bethau fel bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau gweithwyr.
Dangosodd yr ymchwil fod canran y gweithwyr sy’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr (80 y cant), y bobl maen nhw’n eu cefnogi (80 y cant), rheolwyr (70 y cant), asiantaethau partner (57 y cant) a’r cyhoedd (51 y cant) i gyd yn uwch eleni nag yn 2023. Mae'r ffigurau ar gyfer asiantaethau partner a'r cyhoedd wedi codi o 48 y cant a 44 y cant yn y drefn honno.
Ond fe wnaethon ni ddarganfod hefyd fod sgoriau llesiant y gweithlu yn waeth na chyfartaledd y DU, gan ddefnyddio pedwar mesur a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).