Llwyth gwaith (39 y cant), gwaith papur neu lwyth gweinyddol (33 y cant), a phoeni am bethau y tu allan i'r gwaith (25 y cant) oedd prif achosion straen y gweithlu.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith hanfodol ar draws ein cymunedau bob dydd. Unwaith eto eleni, y prif reswm dros ymuno â’r proffesiwn yw gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
“Mae’n wych clywed fod mwyafrif y gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwyr a gan y bobl maen nhw’n ei gefnogi. Ond mae’n bryder fod llesiant yn isel.
“Gall weithio yng ngofal cymdeithasol fod yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn heriol. Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, hoffwn ni atgoffa cyflogwyr am yr adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael i gefnogi eich timoedd. Fe welwch wybodaeth am lawer o’r adnoddau hyn ar ein gwefan.
“Mae’n bwysig fod cyflogwyr yn cefnogi llesiant eu timoedd, nid yn unig oherwydd bod llesiant ei hun yn bwysig, ond hefyd oherwydd y cysylltiad rhwng llesiant a chadw’r gweithlu.
“Gall gwella llesiant yn y gweithle olygu fod pobl yn fwy tebygol o aros yn eu gwaith. Gall hyn ei wneud yn haws i dimoedd gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel.
“Rydyn ni’n gwybod bod angen gwneud mwy i gefnogi llesiant. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i archwilio'r hyn sydd ei angen. Yn ogystal, byddwn ni’n parhau â'n gwaith i sicrhau bod y gweithlu'n cael eu cydnabod a'u gwobrwyo'n deg am y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud.”
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: "Mae ymroddiad a gwaith caled ein gweithlu gofal cymdeithasol wedi cael sylw amlwg yn yr arolwg hwn. Mae'n galonogol gweld bod mwy o'n gweithlu, o'i gymharu â'r llynedd, yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod am y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gefnogi unigolion a chymunedau ledled Cymru.
"Ar yr un pryd, mae'r arolwg yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer mwy i'w wneud o hyd i wella lles ein gweithlu a sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu.
"Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â'r sector i fynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys gwella telerau ac amodau a lles cyffredinol."