Bydd eich atebion yn cael eu defnyddio ar gyfer ymchwil sy’n helpu gofal cymdeithasol ac i gynhyrchu ystadegau am y gweithlu. Ni fyddan nhw'n cael eu defnyddio i’ch adnabod chi.
- Mae’r arolwg hwn yn ddienw ac yn wirfoddol.
- Nid oes angen i chi roi’ch enw na dim o’ch manylion personol.
- Gallwch hepgor cwestiynau nad ydych am eu hateb.
- Mae eich ymatebion personol yn gyfrinachol – ni fyddan nhw byth yn cael eu rhannu ag unrhyw gyflogwyr, asiantaethau, na asiantaethau fel mewnfudo, nawdd cymdeithasol neu awdurdodau treth.
Os byddwch yn dewis darparu’ch cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg i gymryd rhan yn y raffl, bydd y manylion hyn yn cael eu storio ar wahân i’ch atebion arolwg.
Gallwch hefyd ddewis rhannu eich data personol ar gyfer dibenion ymchwil data cysylltiedig ar ddiwedd yr arolwg. Bydd hyn yn galluogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i roi cod dienw unigryw i’ch ymatebion i’r arolwg Dweud Eich Dweud. Unwaith i'r cod cael ei neilltuo, bydd eich manylion personol yn cael eu tynnu o’ch ymatebion.
Gallai eich data wedyn fod ar gael ar gyfer ymchwil data cysylltiedig o fewn cronfa ddata SAIL ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hyn yn golygu y byddai ymchwilwyr cymeradwy’n gallu cysylltu’ch ymatebion dienw i’r arolwg Dweud Eich Dweud ag unrhyw ddata dienw arall sydd ganddyn nhw amdanoch, fel data sy’n ymwneud â’ch iechyd, tai neu incwm. Bydd cysylltu data yn y modd hwn yn helpu ymchwilwyr i ddeall anghenion y gweithlu gofal cymdeithasol yn fanylach.
Mae rhannu’ch manylion personol ar gyfer y gystadleuaeth neu ar gyfer ymchwil data cysylltiedig yn ddewisol. Nid oes rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol.
Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol y Gwyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi rhoi cymeradwyaeth foesegol i’r prosiect.
Bydd y data sy'n cael ei casglu yn cael ei cadw’n ddiogel mewn ffolder wedi’i hamgryptio. Bydd data dienw yn cael ei roi i ni a’i storio yn ein porth data ac Archif Data y DU pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Mae’r astudiaeth yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r rheolydd data, a Phrifysgol Caerdydd yw’r prosesydd data.
Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Ni fydd hyn yn cynnwys eich enw na’ch manylion cyswllt, ac ni fydd unrhyw unigolyn yn adnabyddadwy.