Nod Gofal Cymdeithasol Cymru yw gwneud gwahaniaeth positif i ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
Mae gennym fframwaith cymwysterau, sef rhestr gynhwysfawr o’r cymwysterau cyfredol, sy’n cael eu cydnabod yng Nghymru, ar gyfer pob swydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gallwch gael gwybod mwy am y fframwaith cymwysterau drwy ddefnyddio'r teclyn dod o hyd i gymhwyster ar ein gwefan.
Nid yw’r fframwaith yn rhestr gyflawn. Mae cymaint o gymwysterau ar gael ledled y byd na fyddai’n bosib eu cynnwys i gyd, ac nid ydym am greu rhwystrau i unrhyw un y tu allan i Gymru a hoffai weithio yma.
Rydyn ni wedi datblygu’r asesiad cyfwerthedd cymwysterau ar gyfer pobl sy’n dymuno gweithio yng Nghymru mewn rolau lle mae cymwysterau wedi’u nodi yn ein fframwaith cymwysterau fel rhai yr argymhellir neu sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer a/neu gofrestru.
Rydyn ni wedi cynllunio’r broses fel bod proses gadarn, gyson, dryloyw a theg ar waith i adolygu ceisiadau’n unigol. Mae proses ar wahân ar gyfer ceisiadau gwaith cymdeithasol.
Rydyn ni’n cofnodi penderfyniadau ynglŷn â chywerthedd cymwysterau ar ddogfen a elwir yn rhestr flaenoriaeth.
Dylai ymgeiswyr newydd wirio nad yw eu cymhwyster eisoes wedi'i restru naill ai ar y fframwaith cymhwyster neu'r rhestr flaenoriaeth cyn iddynt gyflwyno cais am Asesiad Cywerthedd Cymwysterau.