Jump to content
Asesiad aeddfedrwydd a llythrennedd digidol

Rydyn ni’n gweithio gyda sefydliad o’r enw Basis i edrych ar sut allwn ni asesu aeddfedrwydd a llythrennedd digidol yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni eisiau cefnogaeth pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddatblygu teclyn a fydd yn ein helpu i ddeall mwy am sgiliau digidol cyfredol y gweithlu a sut allan nhw wneud y gorau o’r sgiliau hynny.

Beth yw ystyr ‘aeddfedrwydd a llythrennedd digidol’?

Mae ‘aeddfedrwydd a llythrennedd digidol’ yn golygu gallu a hyder sefydliad a’i bobl i ddefnyddio technoleg yn effeithiol a darparu gwerth.

Pam ydyn ni’n archwilio opsiynau ar gyfer asesiad aeddfedrwydd a llythrennedd digidol?

Yn 2023, gweithion ni gyda Basis i adolygu ein hopsiynau ar gyfer cefnogi arloesedd digidol mewn gofal cymdeithasol.

Fe wnaethon ni darganfod bod bylchau yn y sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu i gefnogi arloesedd digidol yn y sector.

Un o themâu ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yw adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol, ac un gall sicrhau canlyniadau gwell i bobl a chynyddu hyder y cyhoedd yn y sector gofal cymdeithasol.

Er mwyn gallu gwneud hyn, mae angen i ni helpu’r sector gofal cymdeithasol i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder digidol i wneud y gorau o’r arloesiadau digidol sydd ar gael.

Un o’r cyfleoedd wnaethon ni ganfod gyda’n gilydd oedd hybu cynhwysiant a chau’r ‘bwlch digidol’ drwy weithio gyda phartneriaid i lunio asesiad sylfaenol o aeddfedrwydd a llythrennedd digidol mewn gofal cymdeithasol.

Bydd ‘asesiad sylfaenol’ yn helpu ni deall beth yw’r sefyllfa’n bresennol ac yn rhoi gwell syniad i ni o ble i dargedu cymorth.

Sut ydyn ni'n archwilio ein hopsiynau?

Gyda Basis, rydyn ni’n canolbwyntio ar weithio gyda’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall sut allwn ni ddatblygu dull ystyrlon o wella ein dealltwriaeth o bethau fel:

  • sut mae adnoddau a thechnoleg ddigidol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i ychwanegu gwerth at ofal a chymorth pobl
  • sgiliau a hyder digidol y gweithlu i ddefnyddio'r adnoddau a'r technolegau digidol hyn
  • beth arall sydd ei angen i gefnogi'r gweithlu i ddefnyddio'r adnoddau digidol hyn.

I wneud hyn, rydyn ni angen eich help chi i ddatblygu asesiad neu declyn a fydd o fudd i’r sector gofal cymdeithasol a fydd yn helpu sicrhau canlyniadau gwell i bobl.

Sut allwch chi helpu

Hoffen ni glywed eich profiadau chi o ddefnyddio technoleg ddigidol i ddiwallu anghenion y bobl rydych chi’n eu cefnogi.

Os ydych chi’n hapus i rannu eich profiadau a gweithio gyda ni i ddatblygu teclyn asesu, anfonwch e-bost at strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru a byddwn ni'n cysylltu i drefnu sgwrs.

Mae Basis hefyd wedi creu arolwg byr i'n helpu ni i ddysgu mwy am sut allwn ni ddatblygu teclyn sy'n gweithio orau i chi a'ch sefydliad.

Mae'r arolwg dienw yn cymryd tua chwe munud i'w gwblhau.

Gyda’ch cefnogaeth chi o’r dechrau, gallwn ni ddylunio asesiad aeddfedrwydd a llythrennedd digidol a all helpu wella:

  • gallu arweinwyr i wneud penderfyniadau strategol a dyrannu adnoddau yn fwy effeithiol
  • ein dealltwriaeth o anghenion datblygu a’r bylchau sgiliau yn y gweithlu
  • recriwtio a chadw pobl wych
  • gallu sefydliadau i brofi datrysiadau digidol arloesol
  • cydweithio a chefnogaeth gyfannol
  • mynediad cyfartal i gyfleoedd a chymorth gan ddefnyddio adnoddau digidol
  • gallu'r gweithlu i ymarfer gofal mwy personol dan bwysau a disgwyliadau cynyddol.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'aeddfedrwydd digidol' ac 'aeddfedrwydd data'?

Fel rhan o brosiect arall, rydyn ni hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddysgu mwy am eu haeddfedrwydd data.

Mae ‘aeddfedrwydd data’ yn cyfeirio at barodrwydd sefydliad i wneud y defnydd gorau o’r data sydd ganddo.

Ewch i'n tudalen asesiad aeddfedrwydd data i ddarganfod mwy am y prosiect hwnnw.

Darganfod mwy

I gael gwybod mwy am y gwaith aeddfedrwydd a llythrennedd digidol, e-bostiwch strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 4 Ebrill 2024
Diweddariad olaf: 4 Ebrill 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch