Mae gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal neu wedi profi gofal yn un o'n tri maes blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gwelliant yng Nghymru
Pwy yw plant sy’n derbyn gofal?
Dyw plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ddim yn byw gyda’u rhieni, naill ai dros dro neu’n barhaol, oherwydd am sawl rheswm dydyn nhw ddim yn gallu gofalu amdanynt yn ddiogel.
Ar 31 Mawrth 2018, bu 6000 o blant yng Nghymru yn derbyn gofal oddi cartref, gyda’r rhan fwyaf yn byw gyda:
- theulu estynedig neu ffrindiau
- gofalwyr maeth
- mewn gofal preswyl i blant (gan gynnwys ysgol breswyl)
- mabwysiadwyr
- yn byw yn annibynnol.
Mae nifer ohonynt yn profi symud cartref (roedd 10 y cant wedi byw mewn tri chartref neu fwy yn 2016/17), yn aml yn bell oddi cartref.
Ar y cyfan mae plant yn derbyn gofal oherwydd cael eu camdrin, profi trawma a/neu gael eu hesgeuluso. Mae angen gofal ansawdd uchel arnynt, a’r help priodol ar yr amser priodol. Rydym yn gwybod bod plant ar eu gorau pan fo ganddynt berthnasoedd cyson, sefydlog ac maen nhw’n byw mewn cartref diogel. Felly rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r bobl sy’n gofalu am y plant hyn.
Rydym yn gwybod bod rhaid i ni wella gofal cymdeithasol ar gyfer plant sy’n profi gofal, gan gynnwys eu cefnogi i fod yn gorfforol a meddyliol iach, i gyrraedd eu nodau, a defnyddio’r iaith Gymraeg os ydyn nhw’n dewis.
Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant
Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant
Adnodd ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i blant sy'n cefnogi ymarfer da drwy roi mynediad i wybodaeth hanfodol, astudiaethau achos, data, ac ymchwil.
Sut rydyn ni’n helpu gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal?
Rydyn ni’n gweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant i:
- ostwng yn ddiogel y nifer o blant sydd angen gofal arnynt
- cael nifer ddigonol o leoliadau ansawdd uchel
- cefnogi plant i gael y teithiau gorau posibl drwy ofal ac i ddatblygu’n oedolion
- datblygu gweithlu cynaliadwy ac ymarfer proffesiynol da i gefnogi plant sy’n derbyn gofal.
Rydym yn gweithio gyda darparwyr gofal preswyl i blant i’w cefnogi nhw i ddatblygu eu gweithwyr a gwella ansawdd y gofal i blant sy’n byw mewn cartrefi preswyl.
Rhaglen gwella canlyniadau i blant
Dysgwch fwy am waith a gweithgareddau yng Nghymru i wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal neu sydd ar ymyl gofal.
Rydym hefyd yn cofrestru gweithwyr a rheolwyr mewn cartrefi plant a gallwch chwilio ein cofrestr i ddysgu mwy amdanynt.
Mae rhai o’n gwaith i gefnogi plant sy’n derbyn gofal yn cynnwys:
- datblygu adnoddau dysgu am ddiogelu
- datblygu cymwysterau i sicrhau bod y gweithlu plant sy’n derbyn gofal yn ddiogel a chymwys i ymarfer
- lansio ymgyrch recriwtio ym Mawrth 2019, gan cynnwys pobl sy’n cefnogi plant sy’n byw mewn gofal preswyl i blant a gofal maeth
- mapio ymchwil am y gwaith mae pobl eisoes yn ei wneud i gefnogi plant sy’ wedi profi gofal, i astudio ymarfer da mewn gofal plant ledled Cymru ac i edrych ar sut y gallem rannu’r ddysg hon gyda’n gweithlu.
Profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc o Gymru sy’n derbyn Gorchmynion Llety Diogel
Comisiynom ni adroddiad ymchwil gan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n edrych ar brofiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc sy’n derbyn Gorchmynion Llety Diogel yng Nghymru, ynghyd â fersiwn cryno o’r adroddiad. Clywodd yr adroddiad hwn yn uniongyrchol wrth blant a phobl ifanc am eu profiadau, a gwnaeth nifer o argymhellion i wella’r system o lety diogel.
Profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc o Gymru sy’n derbyn Gorchmynion Llety Diogel
Cynhadledd gofal preswyl i blant, mis Chwefror 2020
Pwrpas y gynhadledd oedd herio'r canfyddiad negyddol bod gofal preswyl i blant yn gyrchfan olaf, ac i rannu arfer da ar draws y sector a dathlu llwyddiannau gofal preswyl i blant.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.