Jump to content
Dweud Eich Dweud 2025: llesiant gweithlu gofal cymdeithasol yn cynyddu, ond pwysau yn parhau
Newyddion

Dweud Eich Dweud 2025: llesiant gweithlu gofal cymdeithasol yn cynyddu, ond pwysau yn parhau

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae lefelau llesiant wedi cynyddu ymhlith y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond mae pryder hefyd yn uwch – dyma rai o ganfyddiadau arolwg Dweud Eich Dweud 2025.

Cafodd arolwg Dweud Eich Dweud 2025 ei gynnal rhwng Ionawr a Mawrth 2025. Ymatebodd cyfanswm o 5,707 o weithwyr gofal cymdeithasol i’r arolwg blynyddol, o ystod eang o rolau – cynnydd o bron i 14 y cant o'i gymharu â'r llynedd.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn ei wneud oherwydd eu bod am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Adroddiad arolwg Dweud Eich Dweud 2025

Darllenwch yr adroddiad llawn yma

Y llynedd, dangosodd yr arolwg fod llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU. Dangosodd yr un arolwg eleni fod boddhad â bywyd, hapusrwydd y diwrnod cynt a’r teimlad fod bywyd yn werth chweil i gyd wedi codi, ac bellach yn uwch na chyfartaledd y DU.

Gall diwylliant y gweithle fod yn ffactor sy'n cyfrannu at gynnydd llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu'r sector, dangosodd yr arolwg fod morâl yn dda (83 y cant) a bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw'n eu cefnogi (81 y cant). Roedd canran y gweithwyr sy'n teimlo eu bod wedi'u cefnogi gan eu cydweithwyr (81 y cant) a’u rheolwyr (73 y cant) hefyd yn uwch eleni nag yn 2024.

Yn anffodus, adroddodd y gweithlu hefyd lefelau uwch o orbryder o’i gymharu â’r llynedd, gan ddangos lefelau uwch na chyfartaledd y DU. Rydyn ni’n mesur y ffactorau hyn gan ddefnyddio pedwar mesur y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gweithwyr cymdeithasol adroddodd y lefel uchaf o orbryder yn y sector. Llwyth gwaith (35 y cant), gwaith papur (27 y cant) a phoeni am bethau y tu allan i'r gwaith (24 y cant) oedd prif achosion straen y gweithlu.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Hoffwn ddweud ‘diolch’ enfawr i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau’r arolwg. Mae eich cyfraniad chi wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni o sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru heddiw.

“Mae canlyniadau’r arolwg hwn unwaith eto yn dangos ymrwymiad y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

“Mae'n wych gweld fod lefelau llesiant wedi cynyddu, a bod y mwyafrif o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr a'u rheolwyr. Ond, mae lefelau gorbryder uchel ar draws y sector yn bryder mawr.

“Hoffwn atgoffa pawb sy'n gweithio yn y sector bod adnoddau ar gael i'ch cefnogi chi a'ch gwaith. Mae ein canllaw diwylliannau cadarnhaol, ynghyd ag ystod o adnoddau llesiant ar gael ar ein gwefan.

“Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r arolwg i arwain y cymorth a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig, yn ogystal â dylanwadu gwaith sefydliadau partner, er mwyn gwneud yn siŵr bod llais y sector yn cael ei glywed.”

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS: “Mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at ymroddiad ein gweithlu gofal cymdeithasol ac mae'n galonogol gweld gwelliannau mewn meysydd fel llesiant, boddhad â bywyd a hapusrwydd. Mae'r adroddiad yn dangos yn glir bod pobl yn dewis gweithio mewn gofal oherwydd yr awydd dwfn i helpu eraill, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni barhau i'w hyrwyddo.

“Mae yna bwysau parhaus ac rydym yn cymryd y cynnydd mewn lefelau gorbryder a adroddwyd o ddifrif. Mae cymorth ar gael drwy Canopi - ein gwasanaeth iechyd meddwl rhad ac am ddim ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol - ac rydym yn annog unrhyw un sydd ei angen i estyn allan.

“Mae'r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein gwaith i wella cyflog, telerau ac amodau. Rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r gwelliannau hyn oherwydd mae gweithlu sydd wedi ei gefnogi a’i werthfawrogi yn hanfodol i ddarparu gofal o ansawdd uchel.”

I ddarllen adroddiad llawn arolwg Dweud Eich Dweud 2025, yn ogystal â chrynodeb o ymatebion, ewch i'n gwefan Grŵp Gwybodaeth.

Ar y Grŵp Gwybodaeth, fe welwch hefyd adroddiadau ar gyfer y grwpiau swyddi canlynol:

Cafodd arolwg eleni ei gynnal ar ein rhan gan ymchwilwyr yn Buckinghamshire New University, Bath Spa University a Chymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW).

Prif ganfyddiadau arolwg Dweud Eich Dweud 2025

Tâl ac amodau

Mae cyflog yn dal i fod yn bryder ac yn chwarae rhan yn rhai eisiau gadael y sector.

Mae’r arolwg yn dangos fod:

  • 38 y cant yn fodlon â'u cyflog (42 y cant yn anfodlon)
  • llai na hanner (48 y cant) o'r ymatebwyr yn dweud ei fod yn ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd i ymdopi'n ariannol na blwyddyn yn ôl – i lawr o 59 y cant yn 2024 ac 82 y cant yn 2023
  • 22 y cant yn dal i ddweud eu bod yn ei chael yn ‘eithaf’ neu’n ‘anodd iawn’ i ymdopi’n ariannol
  • 38 y cant gyda mynediad at dâl salwch y tu hwnt i statudol
  • 24 y cant gyda mynediad at bolisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd, fel gweithio hyblyg, absenoldeb gofalwyr ac absenoldeb rhiant.
Prif ganfyddiadau arolwg Dweud Eich Dweud 2025

Mae’r canfyddiadau eraill yn cynnwys:

  • Teimlai 78 y cant eu bod yn gallu cwrdd ag anghenion y bobl maen nhw'n gofalu amdano
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda (86 y cant), ond mae bron i hanner (47 y cant) yn teimlo eu bod angen mwy i ddatblygu eu gyrfa
  • Dywedodd 37 y cant eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg o leiaf, tra dywedodd 20 y cant eu bod yn gallu defnyddio eu Cymraeg yn y gwaith naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser
  • 62 y cant yn teimlo'n ddiogel yn y gwaith - mae hyn i lawr o 66 y cant yn 2024
  • Dywedodd 66 y cant fod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau, i fyny o 57 y cant yn 2024.

Adnoddau i gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol

Cofiwch fod ystod eang o adnoddau ar gael i gefnogi llesiant y gweithlu. Mae'r rhain yn cynnwys:

Gwybodaeth am arolwg Dweud Eich Dweud

Mae arolwg Dweud Eich Dweud yn gofyn cwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau am bethau fel bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau gweithwyr.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn cael eu defnyddio fel rhan o Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu - offeryn sy’n helpu i fonitro profiad pobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.