Jump to content
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau 2024
Newyddion

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau 2024

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae menter gymdeithasol yng Nghaernarfon sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu, gweithiwr gofal o Lanbedr Pont Steffan a phartneriaeth arloesol rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardo’s ymhlith enillwyr y Gwobrau eleni.

Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Cyflwynwyd gwobrau i chwe enillydd yn y seremoni eleni a gynhaliwyd yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ddydd Iau, 25 Ebrill.

Cafodd y gwobrau, a noddwyd gan Hugh James, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a BASW Cymru, eu cyflwyno gan y darlledwr adnabyddus Garry Owen a Phrif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans.

Roedd dros 90 o brosiectau a gweithwyr gofal o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan neu wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Yna, fe wnaeth panel o feirniaid arbenigol eu cwtogi i restr fer derfynol o wyth prosiect a deg gweithiwr neu dîm.

Roedd y beirniaid yn cynnwys aelodau o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws y meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Dywedodd Mick Giannasi CBE, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’r bobl a’r sefydliadau sy’n darparu gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn wirioneddol amhrisiadwy. Rydyn ni’n gwybod, er gwaethaf yr heriau sylweddol maen nhw’n eu hwynebu, eu bod yn parhau i ddarparu gofal a chymorth rhagorol.

“Mae’r bobl a’r prosiectau rydyn ni’n eu dathlu yn rhoi cipolwg i ni ar rai o lwyddiannau anhygoel y sectorau.”

Ychwanegodd Sue Evans: “Eleni, roeddem yn falch iawn o dderbyn yr ail nifer fwyaf o geisiadau ac enwebiadau erioed ers sefydlu’r gwobrau 19 o flynyddoedd yn ôl!

“Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cofrestru neu enwebu timau neu weithwyr oherwydd mae’n golygu y gallwn ni barhau â’r gwaith hynod bwysig hwn o gydnabod, dathlu a rhannu rhagoriaeth mewn gofal. Dim ond drwy godi proffil y sector ac arddangos y bobl wych sy’n gweithio ynddo y gallwn obeithio denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym maes gofal.

“Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr haeddiannol. Mae mor bwysig ein bod ni’n cymryd yr amser hwn i gydnabod, dathlu a rhannu eich llwyddiannau, ac yn hollbwysig – i ddiolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud. Felly diolch yn fawr!”

Enillwyr Gwobrau 2024

Gwobr Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd

Enillydd: Prosiect ‘Born into Care’, Cyngor Abertawe

Gwobr Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu

Enillydd: Antur Waunfawr

Gwobr Gweithio mewn partneriaeth

Enillydd: Partneriaeth Strategol Casnewydd

Gwobr Arweinyddiaeth effeithiol

Enillydd: Sandra Stacey, Rheolwr Cartref Gofal Preswyl yng Nghyngor Sir y Fflint

Gwobr Gweithio’n unol ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau

Enillydd: Becky Evans, Arweinydd Tîm Powys yn Credu

Gwobr Gofalwn Cymru

Enillydd: Linda Campbell, Gweithiwr Gofal ar gyfer Cerecare N&DS Cyf. yn Llanbedr Pont Steffan

Noddwyr Gwobrau 2024

Hugh James

Prif noddwr

Mae Hugh James yn un o’r 100 cwmni cyfreithiol gorau yn y DU sy’n cynnig gwasanaeth llawn, ac mae ei bencadlys yng Nghaerdydd.

Mae eu tîm bellach yn cynnwys dros 700 o gyfreithwyr a staff cymorth, a dros 90 o bartneriaid, sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o arbenigeddau cyfreithiol, ond maen nhw’n dal yn weithgar iawn yn y sector gofal yng Nghymru.

Mae gwaith y cwmni yn y sector yn cynnwys:

  • darparu cyngor a chynrychiolaeth i awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru mewn achosion yn y Llys Gwarchod ac achosion sy’n ymwneud â’r Ddeddf Plant
  • cynghori awdurdodau cyhoeddus, cyrff chwaraeon a llawer o sefydliadau eraill ar ddiogelu
  • gweithredu ar ran darparwyr gofal mewn materion corfforaethol, masnachol, rheoleiddiol ac eiddo
  • gweithredu ar ran rheoleiddwyr y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru.

BASW Cymru

Noddwr y categori ‘Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu’

Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol Prydain (Cymru), yw’r brif gymdeithas broffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

Fel sefydliad aelodaeth, ei rôl yw cefnogi aelodau yn eu hymarfer o ddydd i ddydd, ymgyrchu ar faterion allweddol sy’n ymwneud â gwaith cymdeithasol a dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth ar hyd a lled Cymru. BASW Cymru yw’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Noddwr y categori ‘Gweithio mewn partneriaeth’

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy’n sbarduno’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Maen nhw’n gweithredu fel rhyngwyneb deinamig, gan gysylltu arloeswyr gwyddorau bywyd â phartneriaid ymchwil, cyfleoedd cyllido ac, yn y pen draw ag iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, sef y defnyddwyr. Ac oherwydd eu bod mewn deialog barhaus â’r holl grwpiau hyn, maen nhw’n gallu gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr effaith fwyaf drwy gefnogi arloesi sy’n mynd i’r afael â’r anghenion mwyaf hanfodol.

Yn y pen draw, mae eu gwaith yn helpu gyda llesiant meddyliol a chorfforol pobl sy’n byw yng Nghymru ac yn rhoi hwb i ddefnyddio arloesedd newydd yn y brif ffrwd, yn ogystal â sbarduno twf, swyddi a ffyniant ledled ein gwlad.