Pwy oedd enillwyr y Gwobrau 2024 a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol? Dysgwch yma, a gwyliwch y seremoni wobrwyo 2024
Gwyliwch y seremoni wobrwyo
Cafodd seremoni wobrwyo Gwobrau 2024 ei gynnal yng Ngwesty Mercure Cardiff Holland House.
Cafodd y seremoni ei gyflwyno gan y darlledwr Garry Owen a’n Prif Weithredwr Sue Evans, a’i ffrydio’n fyw dros YouTube.
Cafodd y seremoni ei gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain a’n cyfieithwyr ar gyfer y seremoni oedd Adrian Bailey a Stephen Brattan-Wilson.
Gwyliwch seremoni worbwyo’r Gwobrau 2024 ar YouTube.
Yr enillwyr a’r rhai a gyrrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau 2024
Roedd ein beirniaid wedi dewis wyth prosiect a 10 unigolyn neu dîm ar gyfer rownd derfynol Gwobrau 2024, ar draws chwe chategori.
Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
Enillydd:
Prosiect ‘Born into Care’, Cyngor Abertawe
Mae’r prosiect amlasiantaeth hwn, sy’n cael ei gynnal gan Wasanaeth Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe, yn cefnogi rhieni y mae perygl y bydd eu plentyn yn cael ei roi mewn gofal, o gamau cynnar beichiogrwydd hyd at enedigaeth y plentyn a’r tu hwnt. Mae gofal cyn geni estynedig, cymorth â magu plant a help ymarferol yn cael eu cynnig i’r rhieni, ynghyd ag ymweliadau dwys â’r cartref a chymorth grŵp. Mae’r prosiect yn defnyddio dull seiliedig ar gryfderau sy’n canolbwyntio ar atebion, ac mae’n gosod lleisiau a phrofiadau teuluoedd wrth wraidd ei waith.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Tîm Plentyn i Oedolyn, Cyngor Sir y Fflint
Mae’r prosiect hwn gan wasanaethau cymdeithasol oedolion Sir y Fflint yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu, rhwng 0 a 25 oed, eu brodyr/chwiorydd a’u teulu a gofalwyr i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig yn amrywio o gymorth emosiynol i rieni, addasiadau i’r cartref a help i ddelio ag ymddygiadau heriol, i gynorthwyo pobl ifanc yn eu harddegau hwyr ag addysg bellach, byw â chymorth a chyflogaeth. Mae’r prosiect yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys y gwasanaethau plant, Barnardo’s a Theatr Clwyd.
Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
Enillydd:
Sandra Stacey, rheolwr cartref gofal preswyl yng Nghyngor Sir y Fflint
Enwebwyd gan Janet Bellis, Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion yng Nghyngor Sir y Fflint.
Mae’r rheolwr cartref gofal preswyl, Sandra, wedi cael ei henwebu am ei hymrwymiad i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau mai llesiant preswylwyr y cartref gofal sy’n flaenllaw wrth iddi wneud penderfyniadau. Dywed Janet fod gwerthoedd Sandra yn cyfleu gwerthoedd yr awdurdod lleol i’r dim a bod ei harddull arwain dosturiol yn berthnasol i bawb y daw i gysylltiad â nhw – o staff y cartref gofal i’w breswylwyr a’u teuluoedd.
Dywed Janet fod Sandra yn mynd at ei gwaith fel rheolwr mewn ffordd benigamp, gan fynd ati’n gadarnhaol bob amser, ac mae wedi adeiladu tîm cynhyrchiol sydd wedi’i ymrymuso ac sy’n ymfalchïo yn ei waith. Ar ôl ennill dyfarniad arian Cynnydd i Ddarparwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ym mis Ebrill 2023, dyfarnwyd achrediad aur i’r cartref cwta bedair wythnos yn ddiweddarach.
Dywed Janet fod Sandra “wedi meithrin enw da am allu ymateb i unrhyw her yn gadarnhaol ac yn gyson, gan ysbrydoli aelodau tîm ar bob lefel i gyflawni eu gorau”. Ychwanegodd Janet: “Gallwch ymddiried yn llwyr yn Sandra ac mae bob amser yn cyflawni’r canlyniadau gorau i’w phreswylwyr a staff, ac mae’n esiampl wych o arweinyddiaeth dosturiol.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Julie Reed, Rheolwr Gwasanaethau Dydd, a Thîm Gwasanaethau Dydd Anghenion Cymhleth Cyngor Caerdydd
Enwebwyd gan Eve Williams, Rheolwr Newid Gweithredol Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Enwebwyd Julie am ei gwaith yn arwain tîm sy’n darparu amrywiaeth o gyfleoedd dydd i bobl 18 oed a hŷn sydd ag anabledd dysgu ac anghenion cymhleth ychwanegol yng Nghaerdydd. Mae Julie a’i thîm wedi cael effaith sylweddol ar y bobl maen nhw’n eu cefnogi trwy eu hagwedd a’u dull ‘gallu gwneud’, yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Dywed Eve fod arweinyddiaeth Julie wedi cael effaith gadarnhaol ar y bobl ifanc y mae’r tîm yn eu cefnogi, a’u teuluoedd, trwy eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus a rheoli unrhyw bryderon wrth i’r bobl ifanc gyrraedd oedolaeth. Hefyd, mae wedi cael effaith gadarnhaol ar ysgolion trwy ddangos i staff y posibiliadau sydd ar gael i bobl ifanc.
Dywed Eve fod Julie wedi dylanwadu hefyd ar uwch reolwyr, sydd wedi gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar ran pobl ag anableddau dysgu ar sail y canlyniadau a gyflwynwyd gan Julie, ac ar bartneriaid rhanbarthol sydd wedi dysgu o ddulliau Julie ac sydd wedi dechrau cymhwyso ei hegwyddorion a’i dulliau yn eu meysydd nhw.
Yn ôl Eve, mae Julie yn “wirioneddol ysbrydoledig” a dywed bod “ei harweinyddiaeth, ei hymrwymiad a’i hangerdd yn heintus”. Mae Eve yn ychwanegu bod Julie a’i thîm “wedi newid agweddau ar draws y gweithlu a theuluoedd, ac wedi cyflawni newid gweddnewidiol eithriadol”.
Lauren Lincez, Cyfarwyddwr Gwasanaeth ac Unigolyn Cyfrifol yn Partnerships for Progress Ltd ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Enwebwyd gan Wendy Edwards a Danielle Lewis, Swyddog Adnoddau Dynol ac Uwch Weithiwr Cymorth i Deuluoedd yn Partnerships for Progress Ltd.
Mae Lauren yn gweithio i ganolfan breswyl i deuluoedd, sy’n monitro ac yn asesu gallu rhieni i ofalu am eu plant.
Ymunodd Lauren â’r ganolfan ym mis Gorffennaf, pan oedd ar gau ar ôl i Arolygiaeth Gofal Cymru gyhoeddi hysbysiad gwella iddo. Ymatebodd Lauren i’r her a helpodd y ganolfan i adeiladu sylfeini cadarn a rhoi diwylliant a gwerthoedd newydd yn eu lle. Ers i’r ganolfan ailagor ym mis Rhagfyr 2021, mae’r hysbysiad gwella wedi cael ei ddileu ac mae’r ganolfan wedi derbyn dau arolygiad cadarnhaol.
Dywed Wendy a Danielle fod Lauren yn gwneud yn siŵr bod rhieni’n cael cymaint o reolaeth â phosibl dros y ffordd y mae’r rhaglen magu plant yn cael ei darparu iddyn nhw i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn bodloni eu hanghenion.
Mae Wendy yn dweud bod Lauren yn “esiampl ysbrydoledig” sydd “wedi creu diwylliant agored, gonest a thryloyw, sy’n canolbwyntio ar yr ungiolyn... [ac] amgylchedd lle mae staff a thrigolion yn teimlo’n ddiogel”. Mae Wendy yn ychwanegu “bod gan Lauren safonau... uchel tu hwnt” ac “ei bod hi’n canolbwyntio’n sylweddol ar fod yn bartner gyda’r rhieni rydyn ni’n eu cefnogi”.
Dywed Wendy a Danielle fod Lauren “yn unigolyn caredig, meddylgar, pendant, angerddol, a bod ei hymrwymiad i blant, teuluoedd a staff yn gwbl eithriadol ac ysbrydoledig. Mae hi’n esiampl ragorol...ac mae hi’n llwyr haeddu’r enwebiad hwn i gydnabod yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni ers ailagor ym mis Rhagfyr 2021.”
Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
Noddir gan BASW Cymru
Enillydd:
Antur Waunfawr
Mae'r fenter gymdeithasol hon yng Nghaernarfon yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, ac iechyd a llesiant i bobl ag anableddau dysgu. Mae iechyd a llesiant staff yn flaenoriaeth. Mae pob aelod o’i dîm adnoddau dynol wedi cael eu hyfforddi fel hwyluswyr llesiant, gall staff gael mynediad at gwnsela, ffisiotherapi, rheoli dyledion a chymorth maethol, a gallant gymryd rhan hefyd mewn gweithgareddau llesiant rheolaidd fel cerdded a pilates. Mae pob aelod o staff yn cael cynnig pecyn salwch, waeth beth fo math neu hyd eu cyflogaeth. Gan gydnabod y gall straen ariannol ac ansicrwydd swydd effeithio ar lesiant staff, mae'r cynllun hefyd wedi rhoi llwybr gyrfa ar waith i'w helpu i ddatblygu a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Seibiannau Byr y Fro – Tŷ Robin Goch, Action for Children
Pan ddeallodd rheolwyr gwasanaeth Seibiannau Byr y Fro – Tŷ Robin Goch, Action for Children fod rhai staff yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw, penderfynodd y sefydliad fod angen iddo gynnig cymorth ymarferol ochr yn ochr â'r cynlluniau a’r rhwydweithiau cymorth y caiff staff eu cyfeirio atynt. Felly, cyflwynodd bantri staff yn llawn hanfodion y gallai staff eu defnyddio, sy'n cael ei ail-stocio'n fisol, bythefnos cyn diwrnod cyflog. Mae'r sefydliad hefyd yn cydnabod ei weithwyr drwy ofyn i staff enwebu eu cydweithwyr yn ddienw am ei wobr 'aelod staff y mis'. Mae'r aelod o staff sydd â'r nifer fwyaf o enwebiadau bob mis yn derbyn taleb.
Gwasanaethau Plant Powys
Yn bryderus am effaith pandemig Covid-19 ar lesiant staff, yn haf 2022 anfonodd Gwasanaethau Plant Powys arolwg at staff i ddarganfod beth oedd barn staff am gefnogaeth y sefydliad ar gyfer eu llesiant. Mae canlyniadau'r arolwg wedi dylanwadu ar gynlluniau newydd i gefnogi llesiant staff, megis sesiynau trafod gwaith un i un mewn amgylchedd diogel i gefnogi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a sesiynau dibriffio ar gyfer staff a gofalwyr sydd wedi dod i gysylltiad â gwybodaeth ofidus neu wedi profi digwyddiadau trawmatig. Cynhaliodd y sefydliad ei ddigwyddiad llesiant staff cyntaf ym mis Hydref, lle cafodd staff gyfle i roi cynnig ar ddulliau ac adnoddau newydd i gefnogi eu llesiant.
Gwobr Gofalwn Cymru
Noddir gan Gofalwn Cymru
Enillydd:
Linda Campbell, Gweithiwr Gofal Cerecare N&DS Ltd yn Llanbedr Pont Steffan
Enwebwyd gan Cynthia Golder, Swyddfa a Rheolwr Cyllid Cerecare N&DS.
Mae Linda wedi gweithio i Cerecare ers bron i bedair blynedd ac yn y cyfnod hwnnw mae wedi bod yn amhrisiadwy i'r bobl y mae'n darparu gofal a chymorth iddynt, eu teuluoedd a'r sefydliad. Dywed Cynthia y gellir dibynnu ar Linda, sy’n 71 oed, bob amser, ni waeth beth, a gwyddom ei bod wedi cerdded i gartrefi'r bobl y mae'n darparu gofal a chymorth iddynt yn yr eira a'r rhew i sicrhau eu bod yn cael eu hymweliad.
Er bod Linda wedi gweithio ym maes gofal ers blynyddoedd, dywed Cynthia fod Linda yn dal yn awyddus i ddysgu pethau newydd ac i rannu ei gwybodaeth ag eraill. Gwerthfawrogir hyn gan ei chydweithwyr sy'n awyddus i ddysgu o'r esiampl mae Linda yn ei gosod. Dywed Cynthia fod pobl wedi sylwi ar barodrwydd Linda i wirfoddoli i weithio bob Nadolig fel y gall ei chydweithwyr dreulio amser gyda'u teuluoedd.
Dywed Cynthia fod “ymroddiad, empathi ac ymrwymiad Linda i'w gwaith yn ysbrydoliaeth i bawb” a'i bod “wir yn cael ei gwerthfawrogi”. Ychwanega un o'r bobl mae Linda yn darparu gofal iddo fod Linda yn “weithiwr arbennig o dda. Mae gyda’r gorau.”
Tra bod aelod o deulu person arall y mae Linda yn darparu gofal a chymorth iddi’n ei disgrifio fel person “caredig, gofalgar [a] threfnus” a dywed ei bod “yn gallu dibynnu'n llwyr arni. Alla i ddim diolch digon iddi. Mae gwybod bod fy mam mewn dwylo mor ddiogel yn golygu cymaint i mi.”
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Nichola Wilcox, Arweinydd Dementia yng Nghartref Gofal Preswyl Bloomfield yn Abertawe
Enwebwyd gan Sue Evans. Roedd ei mam yn breswylydd yn y cartref gofal.
Dywed Sue mai’r “cyfuniad o broffesiynoldeb a rhinweddau personol sy'n gwneud Nichola mor arbennig”.
Wrth ddisgrifio Nichola dywed Sue ei bod yn cadw golwg ar ei mam a oedd yn byw gyda dementia “gyda gofal gwirioneddol, anwyldeb a phroffesiynoldeb” a dywed ei bod “yn amlwg bod [fy mam] yn teimlo'n ddiogel ac yn teimlo ei bod hi'n cael ei charu”.
Dywed Sue fod Nichola a'i thîm yn sicrhau bod y cartref yn lle hapus, croesawgar a bywiog gydag awyrgylch dawel sy’n dangos parch pan fo angen, ond sydd hefyd yn fywiog ac yn hwyl i breswylwyr hefyd. Dywed Sue fod yr awyrgylch y mae Nichola yn ei greu gyda'i staff yn seiliedig ar barch, dealltwriaeth a gweithio gyda chryfderau a diddordebau’r preswylwyr. Mae Nichola hefyd yn canolbwyntio'n fawr ar y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth, fel hylendid personol ac edrych yn daclus.
Pan ddirywiodd golwg mam Sue, byddai Nichola yn dod yn nes ati ac yn drych i lygaid mam Sue wrth siarad â hi. Helpodd hyn i greu “perthynas arbennig” rhyngddynt. Dywed Sue fod y teulu hefyd yn gwerthfawrogi'r holl luniau y byddai Nichola yn eu hanfon o fam Sue yn mwynhau ei hun yn y cartref.
Rachel Hunt, Swyddog Cyswllt Gofal Plant yng Nghyngor Bro Morgannwg
Enwebwyd gan Claire Urch, Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghyngor Bro Morgannwg.
Cafodd Rachel ei henwebu gan Claire am ei gwaith yn dod o hyd i ddarpariaeth gofal plant addas sy'n diwallu anghenion plant a theuluoedd. Yn ystod ei hymweliadau, dywed Claire y bydd Rachel yn edrych ar anghenion cyfannol y teulu ac y bydd yn eu cyfeirio at wasanaethau perthnasol eraill er mwyn cael cymorth ychwanegol.
Ychwanega Claire, pan fydd Rachel yn nodi bod angen cymorth ychwanegol, bydd yn gweithredu ar unwaith i gefnogi'r teulu a bydd yn cadw mewn cysylltiad â nhw i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn. Mae Rachel hefyd yn gallu rhannu talebau banc bwyd i deuluoedd sy’n agored i niwed y mae'n eu gweld yn ystod ei hymweliadau cartref.
Mae Rachel wedi sefydlu prosesau gydag amserlenni tynn ar gyfer cysylltu ac ymweld â theuluoedd ar gyfer y tîm er mwyn helpu i sicrhau bod rhieni yn cael mynediad i'w hawl i ofal plant wedi'i ariannu. Mae Rachel hefyd yn gofyn am adborth gan rieni ac ysgolion i ddarganfod sut y gall wella'r broses leoli a chefnogi'r broses o bontio o ofal plant i'r ysgol.
Mae Claire yn disgrifio Rachel fel person “tawel, gofalgar a diymhongar”, a dywed ei bod wedi helpu Rachel i “feithrin perthynas arbennig gyda'r teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol y mae'n gweithio gyda nhw”. Ychwanega Claire fod “Rachel yn mynd y filltir ychwanegol wrth ymweld â theuluoedd” ac “mae hi bob amser yn llawn cymhelliant ac yn angerddol dros ben”.
Victoria Jones, gweithiwr cymdeithasol yn nhîm Rheoli Gofal Plant ag Anableddau Cyngor Sir Penfro
Enwebwyd gan Paul Regimbal, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd Cyngor Sir Penfro.
Mae gan Victoria, sy’n weithiwr cymdeithasol plant, lwyth achos cymhleth o deuluoedd â phlant ag anableddau sy'n profi anawsterau sylweddol.
Dywed Paul fod Victoria wedi treulio oriau o'i hamser ei hun mewn rôl broffesiynol yn diwallu anghenion y bobl ifanc sy’n agored i niwed y mae'n eu cefnogi. Gall y cymorth hwn amrywio o gwblhau adroddiadau llys, i wirfoddoli, i ddarparu gofal mewn ysbytai pan fydd angen oedolyn yn bresennol ar berson ifanc i ddiwallu ei anghenion o ran diogelwch a llesiant.
Dywed Paul fod Victoria wedi bod yn dyst i natur elyniaethus rhieni wrth geisio diogelu eu plant, ond ei bod yn ymateb i’r heriau gyda thosturi, empathi a pharch. Mae Victoria bob amser yn parhau i fod yn broffesiynol ac yn barod i gefnogi pob aelod o'r teulu, yn unigol ac yn gyffredinol.
Dywed Paul fod “Victoria yn mynd y filltir ychwanegol bob dydd” ac fe’i disgrifia fel person “ymroddgar, cydwybodol, gofalgar, ymroddedig a phenderfynol” i sicrhau bod y plant y mae'n gweithio gyda nhw yn cael eu diogelu, yn hapus ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Gweithio mewn partneriaeth
Noddir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Enillydd:
Partneriaeth Strategol Casnewydd
Mae’r bartneriaeth hon rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardo’s Cymru yn rhoi cymorth i deuluoedd sydd â phlant sydd ar ffiniau gofal neu sydd mewn perygl o leoliad yn methu. Mae’r bartneriaeth yn gweithio ochr yn ochr â mwy na 650 o blant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u timau gwaith cymdeithasol i sicrhau newid cadarnhaol. Mae ei ymyriadau arbenigol yn cynnwys gwasanaethau sy’n cefnogi rhieni beichiog y mae eu babanod mewn perygl o gael eu geni mewn gofal, tîm ymateb cyflym sy’n helpu i atal teuluoedd rhag chwalu, a fforymau lle mae’r bobl ifanc a’r rhieni y mae’n eu cefnogi yn gallu chwarae rhan i gyd-gynhyrchu datblygiadau’r bartneriaeth.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Meicro-Ofal, Cyngor Sir y Fflint
Mae’r dull arloesol hwn yn helpu mentrau bach i ddarparu gofal a chymorth yn ardal Sir y Fflint. Mewn partneriaeth â Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, mae’r prosiect yn cefnogi pobl sydd wedi dangos diddordeb mewn rhedeg eu busnes gofal cymdeithasol eu hunain drwy ddarparu cyngor ymarferol am weithredu yn y sector gofal cymdeithasol, cymorth i ddod yn feicro-ofalwr achrededig a chyngor busnes arbenigol. Mae’r prosiect wedi cryfhau’r farchnad ofal leol drwy ddarparu gwahanol opsiynau gofal a chymorth, megis gwasanaethau dydd wedi’u teilwra, seibiant, gofal uniongyrchol a chymorth llesiant.
Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu
Partneriaeth rhwng dinasyddion, chwe awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, a’i nod yw trawsnewid gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a gwella eu bywydau. Mae ei weithgareddau’n cynnwys cynorthwyo pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith cyflogedig a chael mynediad at dechnoleg bob dydd, yn ogystal â datblygu ac ariannu gweithgareddau i bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd i wella llesiant a chynyddu cysylltiad cymunedol. Mae wedi cyd-gynhyrchu gwiriad iechyd dan arweiniad cymheiriaid hefyd sy’n cyflogi pobl ag anableddau dysgu i hyrwyddo gwiriadau iechyd i bobl eraill ag anableddau dysgu a’u teuluoedd.
Gweithio yn unôl ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau
Enillydd:
Becky Evans, Arweinydd Tîm Powys yn Credu
Enwebwyd gan Sally Duckers, Arweinydd Tîm Gofalwyr Ifanc WCD a Chydlynydd Ymgyrchoedd Credu.
Cafodd Becky ei henwebu oherwydd “ei hangerdd dros hybu ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau yn y sefydliad”. Mae Sally’n dweud bod Becky wedi defnyddio dull seiliedig ar gryfderau yn ei holl ryngweithio â rheolwyr, ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, comisiynwyr a chyllidwyr y sefydliad.
Yn ogystal, mae Sally’n dweud bod Becky wedi addasu systemau’r sefydliad i gipio straeon gofalwyr di-dâl, yn enwedig eu cryfderau, a diolch i’w gwaith hi, mae lleisiau gofalwyr yn ganolog i waith y sefydliad yn awr. Mae Becky wedi creu ‘The Carers’ Story’ hefyd, astudiaeth achos sy’n arddangos effaith gwaith y sefydliad gyda gofalwyr di-dâl, a chydnabod y cryfderau a’r rhwydweithiau cymorth y mae teuluoedd yn eu cynnig i’w straeon eu hunain.
Ychwanegodd Sally fod Becky wedi helpu i sicrhau bod hyfforddiant cyfathrebu cydweithredol y sefydliad mor hwylus â phosibl i bobl gyfranogi ynddo. Mae hi hefyd yn arwain ar brosiect seibiant creadigol, sy’n canolbwyntio ar y pethau mae gofalwyr di-dâl a’u hanwyliaid yn gallu eu gwneud, ac yn eu helpu i gael gafael ar gyfleoedd seibiant.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Joey Ayris, Partner Cymunedol Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot yn Mencap Cymru
Enwebwyd gan Charlotte Ede, Arweinydd Datblygu Cymunedol Mencap Cymru.
Mae Joey’n gweithio’n ddiflino gyda chartrefi gofal, meithrinfeydd a gwasanaethau dydd ar draws Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu’n ganolog i weithgarwch cymunedol a gwneud penderfyniadau fel eu bod nhw’n gallu byw bywydau hapus ac iach.
Mae Joey’n dod i adnabod y bobl y mae’n eu cynorthwyo fel unigolion, gan sicrhau bod ganddyn nhw blatfform i rannu eu doniau a’u sgiliau. Yn ôl Charlotte, mae Joey wedi cael effaith enfawr ar y bobl y mae’n eu cefnogi drwy eu cynnwys wrth gynhyrchu gweithgareddau cymunedol newydd a hygyrch. Mae’r rhain yn cynnwys y Saundersfoot Social, digwyddiad cymdeithasol wythnosol sy’n dod â sefydliadau ac aelodau o’r gymuned ynghyd. Mae Joey’n gweithio’n galed i sicrhau bod pobl sydd â phrofiad uniongyrchol yn gallu manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol hefyd.
Mae hi wedi gweithio gyda mwy na 10 o sefydliadau bach lleol i’w helpu i ddod o hyd i gyllid i roi hwb i syniadau newydd. Mae’r syniadau hyn wedi cynnwys grŵp drymio, gwersi syrffio cynhwysol, clwb chwarae gemau, teithiau dydd a sesiynau cerdd.
Pan ddaeth sesiynau pwll nofio ar gyfer pobl ag anabledd dysgu i ben, dywed Charlotte fod Joey wedi cysylltu â sefydliad sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a bod hwnnw wedi cytuno i ariannu’r sesiynau er mwyn iddyn nhw allu ailgychwyn. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar fynychwyr y sesiynau, a oedd wedi gweld eu colli ac wedi dioddef tarfu ar drefn eu bywydau.
Tîm Prosiect RITA, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Enwebwyd gan Steve Latham-White, Comisiynydd Arweiniol Dros Dro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae Tîm Prosiect RITA (sef ‘reminiscence interactive therapy activity’) yn system therapi ddigidol sy’n rhoi cyfle i bobl sy'n derbyn gofal a chymorth wella eu llesiant drwy gyrchu apiau, gemau, cerddoriaeth, lluniau a gweithgareddau eraill ar ddyfais sgrin gyffwrdd.
Mae’n bosib teilwra’r dyfeisiau ar gyfer pob unigolyn i ddarparu gweithgareddau ystyrlon yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei hoffi – o gân dawns gyntaf eu priodas i luniau o deulu a ffrindiau.
Mae’r dyfeisiau wedi’u rhoi i holl gartrefi gofal Wrecsam ac maen nhw ar gael bellach mewn ambiwlansys, yn yr ysbyty lleol, y ganolfan llesiant ac mewn rhai lleoliadau gofal dydd fel bod elfen gyfarwydd ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal a chymorth pan fyddan nhw’n newid o un amgylchedd i’r llall. Mae’n helpu staff sy’n dod i gysylltiad â’r unigolyn i’w deall yn well hefyd.
Mae staff wedi sylwi bod hwyliau a lefelau rhyngweithio pobl wedi gwella’n gadarnhaol, ac mae unigolion nad oedden nhw’n gallu canolbwyntio am gyfnodau hir fel arfer yn cymryd mwy o ddiddordeb wrth ddefnyddio’r dyfeisiau.
Ein noddwyr
Prif noddwr
Hugh James
Mae Hugh James yn un o’r 100 cwmni cyfreithiol gorau yn y DU sy’n cynnig gwasanaeth llawn, ac mae ei bencadlys yng Nghaerdydd.
Mae ein tîm bellach yn cynnwys dros 700 o gyfreithwyr a staff cymorth, a dros 90 o bartneriaid, sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o arbenigeddau cyfreithiol, ond rydyn ni’n dal yn weithgar iawn yn y sector gofal yng Nghymru.
Mae gwaith y cwmni yn y sector yn cynnwys:
- darparu cyngor a chynrychiolaeth i awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru mewn achosion yn y Llys Gwarchod ac achosion sy’n ymwneud â’r Ddeddf Plant
- cynghori awdurdodau cyhoeddus, cyrff chwaraeon a llawer o sefydliadau eraill ar ddiogelu
- gweithredu ar ran darparwyr gofal mewn materion corfforaethol, masnachol, rheoleiddiol ac eiddo
- gweithredu ar ran rheoleiddwyr y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru.
Noddwyr categori
BASW Cymru
Noddwr y categori ‘Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu’
BASW Cymru, sef Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol Prydain (Cymru), yw’r brif gymdeithas broffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.
Fel sefydliad aelodaeth, ein rôl yw cefnogi aelodau yn eu hymarfer o ddydd i ddydd, ymgyrchu ar faterion allweddol sy’n ymwneud â gwaith cymdeithasol, a dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth ar hyd a lled Cymru. Ni yw’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Noddwr y categori ‘Gweithio mewn partneriaeth’
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n gyrru’r gwaith o ddatblygu a defnyddio arloesi gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni’n gweithredu fel rhyngwyneb deinamig, gan gysylltu arloeswyr gwyddorau bywyd â phartneriaid ymchwil, cyfleoedd am gyllid ac, yn y pen draw, y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a’r defnyddwyr. Oherwydd ein bod yn cael deialog yn gyson gyda’r holl grwpiau hyn, rydyn ni’n gallu sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl drwy gefnogi datblygiadau arloesol sy’n mynd i’r afael â’r anghenion mwyaf hanfodol.
Yn y pen draw, mae ein gwaith yn helpu gyda llesiant meddyliol a chorfforol pobl sy’n byw yng Nghymru ac yn rhoi hwb i ddefnyddio arloesiadau newydd yn y brif ffrwd, yn ogystal â sbarduno twf, swyddi a ffyniant ledled ein gwlad.
Gofalwn Cymru
Noddwr y 'wobr Gofalwn Cymru'
Mae Gofalwn Cymru yn fenter amlgyfrwng fawr ddwyieithog a ddatblygwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru, gan weithio ag ystod eang o sefydliadau cenedlaethol a lleol sy’n ymwneud â gwahanol agweddau o ofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, a denu mwy o bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn rolau gofalu gyda phlant ac oedolion.
Nod Gofalwn Cymru yw dangos yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd dilyniant gyrfa sydd ar gael. Trwy ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, mae’n canolbwyntio ar yr heriau sy’n eu hwynebu, yn ogystal â’r hyn sy’n gwneud eu gwaith yn wobrwyol ac yn werth chweil.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.