Mae rhoi enw i’r
prosiect yn un anodd
achos mae o wedi tyfu dros
sawl blwyddyn. Mae o wedi bod yn newid diwylliant
a baswn i’n mynd mor bell
a deg mlynedd yn ôl cyn
i ni gychwyn y gwaith ‘ma lle wnaethon ni
wir sylweddoli
bod yna lot o faterion iechyd meddwl
a materion corfforol
doedden ni ddim yn ymateb i.
Heblaw bod y ffordd
rydyn ni wedi cael pethau yn eu blaenau
baswn ni byth wedi gwneud beth rydyn ni’n gwneud rwan.
Mae’r Antur yn rhywbeth ofandwy o
hudol i bawb yma, a mae o’n,
mae yna adegion lle ti’n gweld hyn,
lle ti’n gweld digwyddiadau ti ddim yn disgwyl gweld.
Ond digwyddiadau da.
Rydyn ni’n rhoi sesiynau lles i staff,
rydyn ni’n rhoi sesiynau cwnsela,
sesiynau ffisiotherapi, seisynau
cyngor ariannol,
achos mae dyled yn gallu
cael effaith sylweddol.
Rydyn ni’n delio hefo surgeries lleol,
rydyn ni’n cymryd perthynas agos efo nhw.
Rydyn ni’n cydweithio hefo iechyd.
Mae gennym ni
gonselydd arbenigol sydd
yn gwneud stwff o gwmpas trawma.
Rydyn ni wedi creu strwythur datblygu.
Dwi ddim yn gwneud hwnna fy hun.
Mae dîm llawn yn gwneud hyn o adnoddau dynol,
i rheolwyr, i uwch reolwyr, i wasanaethau allanol
sydd yn cefnogi ni.
Gweld y hogiau’n joio,
rydyn ni’n cael dipyn o laugh,
lot o laughs yn digwydd ar y joban.
Mae’n liffto confidence fi
ac y hogiau hefyd, ti’n gwybod,
gweithio hefo’r hogiau, a weithiau
genethod. Dwi’n cael lot o gymorth.
Mae’r staff yn helpu chdi allan,
yn brilliant.
Mae pawb yn gweithio hefo’i gilydd yma.