Rwy'n gweithio mewn gwasanaeth dydd
i bobl ag anableddau dysgu,
ac am y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi
bod yn gweithio gyda phobl ag anableddau
dysgu eithaf cymhleth.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio
gyda phobl ifanc yn ei chyfnod pontio.
Pobl sydd yn un o'r
ysgolion anghenion arbennig lleol
ac yn gweithio gyda nhw yn eu
blwyddyn olaf yn yr ysgol
i'w paratoi nhw mewn gwirionedd
ar gyfer trosglwyddiad esmwyth i fywyd oedolyn.
Enwebais Julie ar gyfer y wobr hon
oherwydd ei bod yn wych yn yr
hyn y mae'n ei wneud.
Mae hi'n wirioneddol ysbrydoledig
ac yn arweinydd yn ei maes.
Mae’r gwaith mae Julie yn ei wneud
wir yn gwneud gwahaniaeth enfawr
i unigolion, yn y gymuned
ac yn eu gwasanaethau.
Mae hi wedi ysbrydoli tîm cyfan o staff.
Mae ganddi angerdd a brwdfrydedd
a gwerthoedd craidd sy'n cadw pobl
yng nghanol popeth y mae hi'n ei wneud.
Gwneud gwahaniaeth
i fywyd rhywun arall,
rwy'n meddwl mai dyna sy'n
fy nghodi yn y bore.
Yr hyn sy'n fy ysgogi mewn gwirionedd yw,
y teimlad fel eich bod chi
wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
i fywyd rhywun arall.
A gall hwnnw fod y person ifanc,
ond gall hefyd yn fod y teulu.
Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i
wneud yr hyn rwy'n ei wneud.
Mae gen i'r swydd orau yn y byd
oherwydd yr hyn rydw i'n ei weld
yw pobl yn byw eu bywydau,
yn byw eu bywydau gorau.
Deall sut beth yw bywyd da fel
oedolyn i'r person ifanc hwnnw
a gweithio gyda fy nhîm i
wneud i hynny ddigwydd
gyda'r person ifanc
hwnnw yw'r peth gorau.
Swydd orau yn y byd.