Mae fy rôl yn amrywio llawer.
Mae dwy rhan i fy’n rôl, Cyfarwyddwr Gwasanaeth ac
Unigolyn Cyfrifol.
Fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth
mae fy rôl yn ymwneud â sicrhau ein bod yn darparu
gwasanaeth gydag ansawdd uchel iawn
i'r teuluoedd rydyn yn eu cefnogi.
Y rhan nesaf yw Unigolyn Cyfrifol,
sy'n ymwneud ag ochr rheoleiddiol
y gwasanaeth,
yn sicrhau ein bod yn saff
a bod ein tîm staff yn teimlo
eu bod yn cael eu cefnogi,
a dwi'n gwneud hyn
ochr yn ochr â'n rheolwr.
Enwebais i Lauren am y wobr hon
oherwydd mae'r
tîm cyfan yn ymddiried ynddi.
Mae'n garedig, meddylgar, angerddol,
mae'n arwain trwy esiampl.
Mae ei ymrwymiad, ei gwaith caled,
ei ymroddiad
wir yn ysbrydoliaeth i'r tîm.
Un peth dwi'n caru fwyaf am fy swydd,
gweld y newidiadau mae'r teuluoedd yn gwneud.
I weld nhw'n dod mewn, efallai ar
atgyfeiriad, lle does dim hyder gyda nhw
neu maen nhw wedi colli ymddiriedaeth
mewn gweithwyr proffesiynol
a gweithio gyda ni'n
ddwys am 14 wythnos,
rydyn ni'n medru gweld nhw'n blodeuo a
gwneud y newidiadau sydd angen
er mwyn i'w plentyn aros gyda nhw.
Mae ganddi amser i bawb.
Mae ganddi amynedd saint.
Mae'n medru rhoi cyngor ar bopeth.
Pryd bynnag dwi'n cael trafferth yn y gwaith
dwi'n mynd at Lauren.