Y rheswm cafodd y prosiect ei gychwyn oedd
oherwydd bod rhanddeiliaid allweddol wedi nodi
bod bwlch yn ein darpariaeth,
o ran adnabod yr argyfwng sydd o gwmpas
plant sy'n derbyn gofal a darpariaethau
gofal ar gyfer plant yn yr awdurdod lleol.
Rydyn ni'n darparu ystod eang o
ymyriadau o gyn-geni hyd at lencyndod.
Felly mae gennym ni wasanaeth cyn-geni, gwasanaeth
ymateb cyflym, gwasanaeth therapiwtig,
ac mae wedi mynd o nerth
i nerth.
A nod yr holl wasanaethau hyn yw
i leihau, yn ddiogel, nifer y plant
sy'n derbyn gofal yng Nghasnewydd.
Dwi wedi elwa o gael
cefnogaeth 100 y cant pryd bynnag
dwi wedi bod angen
rhywun i ymddiried ynddo. Hyd yn oed siarad am
ryw fath o broblemau
a heriau dwi wedi mynd drwyddynt
ers cael plant.
Mae Natalie bob amser ar ddiwedd y ffôn
yn cynnig cyngor i mi, esbonio i mi
pam bod y plant yn
gwneud y pethau hyn, a
beth alla i fod yn sbarduno,
a sut alla i helpu,
technegau gwahanol,
ac mae hi wedi bod yn wych.
Fe wnaethon nhw fy helpu i drwy gyfnod
lle roeddwn i'n teimlo'n unig,
ond roedd angen i mi fod 100 y cant
ar gyfer y plant,
felly roeddwn i angen y 100 y cant hwnnw i fi
ac fe ges i e. Ni fyddwn i wedi gallu ei wneud hebddyn nhw.
Maen nhw mynd yr ail filltir a
bydden nhw’n gwneud unrhyw beth i wneud yn siŵr
bod y plant a fi’n iawn.
Maen nhw'n wych.
Ni alla i ofyn am dîm gwell.