Mae ein prosiect Born into Care yn gydweithrediad
rhwng ein timau cynllunio gofal a chymorth,
felly timau gwaith cymdeithasol statudol
ein gwasanaeth Jig-So, gwasanaeth sy'n cefnogi teuluoedd ifanc
ac ein bwrdd iechyd.
Roeddem yn edrych i gefnogi rhieni yn ystod y fil o ddyddiau cyntaf eu bywydau,
yn llenwi'r bylchau rhwng bydwreigiaeth a Dechrau'n Deg yn Abertawe.
A dros y blynyddoedd rydyn wedi datblygu mewn i, symud mewn i ofal cymdeithasol
ac wedi datblygi i fod yn dîm diogelu, gan gefnogi
rhieni ifanc neu agored i niwed yn ystod y mil o ddyddiau cyntaf eu bywyd.
Mae wedi rhoi llawer fwy o hyder i ni.
Rydym wedi dysgu llawer ac wedi dysgu llawer am fod yn rhieni ac am fabanod,
hebddo, dwi'n meddwl y bydden yn llawer mwy ar goll
neu ail ddyfalu ein hunain.
Mae wedi mynd â ni allan ac o gwmpas llawer mwy hefyd,
rydyn ni'n rhyngweithio â llawer mwy o bobl,
lle byddem wedi bod yn sownd yn y tŷ,
dal i gael trafferth gyda'n pryder.
Felly mae wedi bod o gymorth mawr gyda’n hiechyd meddwl hefyd yn dydy.
Roedd y gefnogaeth yn anhygoel.
Hd yn oed nawr, pan mae hi'n 18 mis oed
maen nhw dal yno ar gyfer pan fydd eu hangen arnaf.
Dwi a fy nheulu yn hapus, fy nheulu bach,
ac rydw i mewn rhan dda iawn o fy mywyd
ac mae hynny oherwydd y prosiect.