Y gwaith dwi’n gwneud.
Yn syml, dwi’n
mynd i weld pobl hyn yn gyffredinol,
sydd eisiau aros yn eu cartrefi.
Mae angen cymorth arnynt
i aros yn eu cartrefi.
Dydyn nhw ddim eisiau symud.
Eu cartref nhw ydy o
a mae’n rhaid parchu hynny iddynt.
Enwebais Linda oherwydd
mae hi’n ysbrydoliaeth mawr
i’r cwmni ac i ofal.
Mae ei hethos gwaith yn rhyfeddol.
Dwi’n gwneud hyn fel bod y pobl yma,
boed yn bobl iau
neu’n henoed, yn gallu aros yn y lle
mae nhw isio bod.
A dwi’n meddwl eu bod yn haeddu gallu
aros yno.
Fedrwch chi ddim gwneud y swydd yma
oni bai eich bod chi’n ei garu,
a mae hi’n caru ei swydd.
Mae’n ymddangos yn ei gwaith,
a gan adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth,
mae nhw’n meddwl y byd ohoni.
Mae hi’n mynd un cam ymhellach bob tro.
Os maent yn teimlo’n isel un diwrnod,
bydd hi’n aros ychydig yn hirach
i gael sgwrsio gyda nhw am ychydig.
Mae hi’n gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu bywydau.
Gwahaniaeth enfawr.
Mae’n rhoi boddhad mawr.
Dyma’r swydd fwyaf gwerthfawr erioed.
Wir.