Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn o'n cynllun strategol yn ystod 2022 i 2023.
Fel sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol, mae gennym ni gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl o ran sut rydyn ni’n gweithio.
I fod yn sefydliad effeithiol, mae'n rhaid i ni ddeall a helpu i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu pobl sy'n gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar.
Byddwn ni’n parhau i weithio gyda'n cwsmeriaid i sicrhau bod ein gwasanaethau'n diwallu eu hanghenion sy'n newid drwy'r amser. Byddwn ni’n defnyddio adborth i herio a llywio ein busnes, ein prosiectau a'n strategaethau.
Rydyn ni wedi parhau i fod yn agored a thryloyw yn ein penderfyniadau (llywodraethu) o ran sut rydyn ni’n gweithio a sut rydyn ni’n gwario arian cyhoeddus wrth gyflawni ein cynllun pum mlynedd.
Cawsom ni adroddiadau cadarnhaol gan Archwilio Cymru a'n harchwilwyr mewnol am ein trefniadau llywodraethu, yn ogystal ag adborth cadarnhaol gan ein Gweinidog sy'n noddi a'n swyddogion ar ein gwaith i gefnogi'r sector.
Yn 2022 i 2023, fe wnaethon ni gyhoeddi ein:
- Cynllun strategol ar gyfer 2022 i 2027, gyda digwyddiad lansio yn y Senedd ym mis Ebrill 2022
- dull marchnata a chyfathrebu mewnol a strategaeth ddigidol, sy'n amlinellu sut fyddwn ni’n mynd ati i gefnogi ein cwsmeriaid. Rydyn ni am sicrhau bod ein gwasanaethau ar-lein yn cyd-fynd â'n cynulleidfaoedd sy'n tyfua’u bod yn ddiwallu holl anghenion cynnwys, hygyrchedd a phrofiad ein cynulleidfa.
- strategaeth fewnol ar y Gymraeg i'n helpu i gefnogi ein staff i ddysgu Cymraeg a gwella eu sgiliau dwyieithog
- cynllun hyfforddiant a dysgu mewnol i gefnogi datblygiad ein staff
- Cynllun cydraddoldeb strategol, sy'n ategu ein cynllun cydraddoldeb strategol.
Rydyn ni wedi rhoi ein Cynllun gweithredu ar ddatgarboneiddio ar waith ac wedi lleihau ein hôl troed carbon 44 y cant ers 2019.
Mae mwy na 1.8 miliwn o bobl wedi ymweld â'n gwefan.
Mae gennym ni 7,000 a mwy o ddilynwyr ar X (Twitter), 4,500 o ddilynwyr ar ein tudalen Facebook a mwy na 1,200 o ddilynwyr ar LinkedIn.
Ein staff
Erbyn diwedd mis Mawrth 2023, roedd gennym ni:
- 201 aelod o staff
- 52 o weithwyr newydd
- 10.92 y cant o drosiant staff
- 3.6 y cant o gyfradd absenoldeb salwch
- 2.4 y cant o gyfradd absenoldeb salwch, os ydyn ni’n eithrio salwch tymor hir
- tystysgrif archwilio lân a ddangosir yn ein cyfrifon blynyddol statudol.