Jump to content
Ymarfer a pholisi sy'n seiliedig ar arloesi, ymchwil a data

Ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar arloesi, ymchwil a data o'r radd flaenaf, a mathau eraill o dystiolaeth.

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn o'n cynllun strategol yn ystod 2022 i 2023.

Rydyn ni wedi parhau i arwain y gwaith o gwmpas y:

Rydyn ni hefyd wedi weithio'n agos gydag ystod o bartneriaid i gefnogi cymunedau ymarfer ymchwil, meithrin gallu, rhannu ymarfer a chefnogi gwaith arloesi.

Adroddiad data'r gweithlu gofal cymdeithasol

Ym mis Mehefin 2022, fe wnaethon ni gyhoeddi adroddiad data y gweithlu gofal cymdeithasol, sy'n rhoi darlun clir o'r gweithlu ar 31 Mawrth 2021.

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ddata gan bob un o'r 22 awdurdod lleol a 2,173 o leoliadau neu ddarparwyr.

Porth data cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol

Ym mis Mai 2022, fe wnaethon ni lansio porth data newydd, sydd â data am ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae'r porth ar gael i bawb, er mai'r prif gynulleidfa yw cynllunwyr, comisiynwyr awdurdodau lleol, ymchwilwyr a phobl sy'n arwain gwasanaethau.

Yn 2023, byddwn ni’n ychwanegu mwy o ddata ar y porth i gefnogi cynllunio'r gweithlu.

Cymorth arloesi gofal cymdeithasol

Dechreuom ni raglen hirdymor yn edrych ar sut allwn ni gefnogi arloesi gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fe wnaethon ni sefydlu cymuned ymarfer i gefnogi'r defnydd o dystiolaeth wrth ddylunio gwasanaethau gofal cymdeithasol, sydd â mwy na 60 o aelodau.

Strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol

Yn ystod y flwyddyn, daethom ni â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i gefnogi datblygiad strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn adeiladu ar strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol 2018 i 2023, mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Rydyn ni am greu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol. Yn 2023 i 2024, rydyn ni am glywed eich barn am y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma.

Cyhoeddwyd gyntaf: 3 Ionawr 2024
Diweddariad olaf: 18 Ionawr 2024
Diweddarwyd y gyfres: 18 Ionawr 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (35.2 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (99.2 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch