Rydyn ni’n parhau i adeiladu ar frand Gofalwn Cymru i ddenu, recriwtio a chadw pobl yn y sector gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.
Rydyn ni wedi datblygu ein ymgyrch cenedlaethol a phorth swyddi Gofalwn Cymru ymhellach, sy'n cael ei werthfawrogi a'i ddefnyddio gan fwy o ddarparwyr. Rydyn ni wedi cyflwyno cynllun cyfweliad gwarantedig ac wedi adeiladu ar weithio mewn partneriaeth i wella ein rhaglenni Cyflwyniad i ofal cymdeithasol a gofal plant yn barhaus.
Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi sy'n cael eu postio ar ein porth swyddi ac yn nifer y ceisiadau uniongyrchol.
Mae'r porth swyddi yn ffordd hawdd i gyflogwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar hysbysebu eu swyddi gwag ac i bobl weld y swyddi gwag sydd ar gael yn eu hardal.