Llesiant gwell ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar.
Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn o'n cynllun strategol yn ystod 2022 i 2023.
Mae eich llesiant yn bwysig
Mae llesiant y gweithlu yn ganolbwynt allweddol i'n gwaith. Rydyn ni am i'r gweithlu fod yn hapus, yn iach a chael cefnogaeth, fel eu bod yn eu tro yn cefnogi llesiant y bobl sydd dan eu gofal.
Clywsom ni gan 1,000 a mwy o bobl a ddywedodd fod iechyd a llesiant y gweithlu yn hollbwysig ac mae'n ganolbwynt allweddol i strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
Y llynedd oedd ein hail flwyddyn lawn o gyflawni'r strategaeth ac fe barhaodd yn gyfnod heriol i'r sector. Er gwaethaf heriau sylweddol y tair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud cynnydd ac ar yr un pryd wedi dechrau ystyried cam nesaf gweithredu'r strategaeth, o 2023 ymlaen.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethon ni gyhoeddi dri chynllun i gefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth y gweithlu. Y rhain yw:
Fframwaith iechyd a llesiant
Ym mis Hydref 2022, cyflwynwyd ein fframwaith iechyd a llesiant cyntaf ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
Mae'n disgrifio llesiant da yn y gweithle a sut i greu gweithleoedd sy'n cefnogi llesiant staff.
“Dwi wedi bod yn defnyddio'r model fframwaith i rannu'r hyn a ddysgwyd ag arweinwyr yn fy awdurdod lleol.”
– Rheolwr y gweithlu
Cymorth gan gymheiriaid
Yn 2022 i 2023, buom ni’n cynnal sesiynau cymorth cymheiriaid ar-lein bob pythefnos ar gyfer rheolwyr gofal cartref a sesiynau deufisol ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal:
- roedd 93 y cant o'r rhai a gymerodd ran yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n emosiynol ac yn cefnogi eraill
- dywedodd 69 y cant eu bod yn teimlo’n llai ynysig yn eu swydd.
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli gymaint oeddwn i angen y sesiynau hyn nes i mi ddechrau arnyn nhw, o bosib un o'r ychydig bethau positif i ddeillio o'r pandemig."
– Rheolwr gofal cymdeithasol
Cymuned llesiant
Dywedodd y gweithlu wrthyn ni yr hoffent allu cysylltu a siarad ag eraill sy'n cefnogi llesiant yn y gweithlu, a chanfod beth sy'n gweithio.
Felly, fe wnaethon nil lansio ein cymuned ymarfer llesiant ar-lein yn ystod y flwyddyn, lle gall pobl siarad ag eraill am gefnogi llesiant yn y gwaith, a dysgu beth sy'n gweithio. Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd gennym ni 95 o aelodau ac mae'r gymuned yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Yn 2022 i 2023, fe wnaethon ni ddatblygu adnoddau i gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, ac ymwelodd mwy na 7,000 â'r wybodaeth a’r adnoddau ar ein gwefan.