Jump to content
Canlyniad: Gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr

Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.

Pam ei fod yn bwysig

Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn hanfodol i lesiant pobl o bob oed mewn cymunedau ledled Cymru.

Maen nhw hefyd yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd yng Nghymru. Mae mwy na dwy ran o dair yn meddwl eu bod yn gwneud gwaith da a bron i dri chwarter â hyder ynddynt.

Ac eto mae gweithwyr gofal, ar gyfartaledd, yn cael eu talu llawer llai na gweithwyr allweddol eraill.

Ein heffaith

Rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddarparu tystiolaeth a defnyddio ein dylanwad i alluogi gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Mae canfyddiadau wedi newid i'r cadarnhaol. Amlygodd Arolwg Meincnodi Gofalwn Cymru 2020 fod ymwybyddiaeth y cyhoedd a chanfyddiadau wedi gwella.

Yn benodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gwelwyd cynnydd yn yr effaith gadarnhaol ar ddatblygiad plentyn o wyth y cant (2018) i 47 y cant (2020).

Yn yr un modd, ar gyfer gofal cymdeithasol, cynyddodd y farn bod y sector yn gwella ansawdd bywyd o dri y cant (2018) i 28 y cant (2020).

Mae sgiliau ac ymroddiad ein gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn haeddu gwobr deg sy’n adlewyrchu’r rhan hollbwysig y maent yn ei chwarae yn llesiant pobl a’n cymunedau.

Mae hyn yn rhywbeth a gydnabyddir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.

Fel aelodau o’r fforwm, byddwn yn parhau i ddylanwadu ac ymrwymo i wreiddio gwaith teg a gwella telerau ac amodau ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Bydd y fersiwn newydd o'r Cerdyn Gweithiwr Gofal a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar weithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Byddant yn elwa o gerdyn arian yn ôl, yn ogystal ag ystod eang o gynigion manwerthu, trwy ddarparwr gostyngiadau penodol, Discounts for Gofalwyr.

Mae gan ddeiliaid cardiau hefyd fynediad at drefniadau siopa ffafriol mewn rhai archfarchnadoedd lle mae'r rheini'n dal i fod yn berthnasol.

Cawsant hefyd fynediad at adnoddau, megis cymwysiadau symudol, y gellir eu defnyddio i'w helpu i gynnal eu lles corfforol a meddyliol.

Byddwn yn gwerthuso manteision y Cerdyn Gweithiwr Gofal ac yn treialu opsiynau eraill i gydnabod gweithwyr proffesiynol yn ystod 2022 i 2023.

Mae’r cerdyn yn cynnig manteision i weithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, p’un a ydynt wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ai peidio.

Effaith
  • Mae 26,740 o ddeiliaid Cerdyn Gweithwyr Gofal
  • Y grŵp mwyaf â chardiau yw gweithwyr gofal cartref, sef 11,743

Tudalen nesaf

Ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar arloesi, ymchwil a data o'r radd flaenaf, a mathau eraill o dystiolaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 28 Mehefin 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (32.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch