Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.
Pam ei fod yn bwysig
Mae’r blaenoriaethau o’r Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol yn rhoi cyfle unigryw i Gymru helpu i wella llesiant pobl drwy gymhwyso polisïau, arferion a modelau gwasanaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.
Byddwn ni’n parhau i arwain y strategaeth ddata genedlaethol, y set ddata gofal cymdeithasol a’r Strategaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol Genedlaethol. Byddwn ni’n gweithio’n agos ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi cymunedau ymarfer ymchwil, datblygu gyrfa, arfer arloesol a lledaenu tystiolaeth. sy'n seiliedig ar arfer drwy'r agenda hyfforddi.
Ar hyn o bryd, efallai nad yw’r sector gofal cymdeithasol yn gwneud y defnydd gorau o ddatblygiadau mewn technoleg i helpu gyda ffyrdd arloesol o wneud pethau, gan gynnwys dysgu. Mae'r un peth yn wir am y defnydd o ddata a thystiolaeth i wella arfer.
Pan rydyn ni’n sôn am ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, rydyn ni’n golygu bod penderfyniadau ynghylch sut i ddarparu gofal a chymorth yn cael eu llywio gan ddealltwriaeth o’r dystiolaeth orau sydd ar gael am yr hyn sy’n gweithio.
Ein heffaith
Ein rôl yw cefnogi gweithwyr proffesiynol i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddiogelu a chefnogi dinasyddion ac rydym wedi sefydlu rhai blociau adeiladu allweddol.
Fe wnaethom ni gynnal ymchwil ac ymgysylltu â phobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gael gwybod am y rhwystrau a'r galluogwyr i ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth.
Mewn ymateb, fe wnaethom ni ddatblygu cynnig tystiolaeth sy'n amlinellu ein dull gweithredu a fydd yn cael ei gyflawni dros y tair blynedd nesaf.
Bydd effaith y gwaith hwn yn dod yn fwy amlwg dros amser a byddwn yn addasu ein hymagwedd wrth i ni ddysgu o'n profiadau, gan ddefnyddio dull gweithredu ystwyth.
Fe wnaethom hefyd gwblhau ymchwil i nodi ffyrdd o rannu tystiolaeth a gwella gweithio mewn partneriaeth. Mae’r gwaith yma ag ymchwilwyr ac eraill a all ein helpu i gefnogi'r defnydd o ymchwil ac arloesi mewn polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol.
Fe wnaethom ni gynnal prosiect blaenoriaethu ymchwil, gan ddefnyddio methodoleg Cynghrair James Lind, yn canolbwyntio ar bobl hŷn. Mae hwn wedi'i rannu â chyllidwyr ymchwil i alluogi ymchwil newydd yn y maes hwn. Byddwn yn canolbwyntio ar flaenoriaethau ar gyfer plant yn ystod 2022 i 2023.
Mae data o ansawdd gwell a mwy o rannu data yn hollbwysig nid yn unig i gynllunio ar gyfer anghenion gofal pobl ond i ddeall a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym mhrofiad pobl o ofal a mynediad ato.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth helpu pobl â’r ystod lawn o nodweddion gwarchodedig sy’n dibynnu ar ofal a chymorth. Mae’n bwysig hefyd i wneud yn siŵr bod gofal cymdeithasol yn lle diogel, effeithiol a theg i bawb weithio ynddo.
Defnyddiwyd yr ymchwil i ddechrau sefydlu'r mecanweithiau sydd eu hangen i wella'r gwaith o gydgysylltu ymchwil a data ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn yn datblygu hyn ymhellach yn 2022 i 2023.
Mae ymarferoldeb gwell y Porth Data yn gam pwysig. Bydd yn helpu i sicrhau ein bod yn ehangu defnyddioldeb ac yn dechrau cynnig mwy o fewnwelediad i ddata presennol.
Bydd y porth darganfod yn galluogi defnyddwyr i ryngweithio â data mewn ffyrdd newydd a greddfol i ddarganfod mwy o fewnwelediadau a dealltwriaeth a gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r bylchau data a nodwyd gan y sector.
Tudalen nesaf
Gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig sydd â hyder y cyhoedd