Jump to content
Canlyniad: Gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig sydd â hyder y cyhoedd

Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.

Pam ei fod yn bwysig

Rydyn ni’n amddiffyn y cyhoedd drwy wneud yn siŵr bod y gweithlu a reoleiddir yn gofrestredig ac yn addas i ymarfer.

Mae bod ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol (Y Gofrestr) yn rhoi cydnabyddiaeth broffesiynol i ymarferwyr a mynediad at adnoddau hyfforddi a datblygu.

Gall y bobl hynny sy’n dibynnu ar ofal a chymorth fod yn sicr bod gan weithiwr cofrestredig gymwysterau addas a’i fod wedi cytuno i fodloni’r safonau proffesiynol yr ydym wedi’u gosod ar gyfer y sector.

Gall pobl fod yn sicr hefyd y byddwn yn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon am addasrwydd person i ymarfer mewn ffordd deg a thryloyw.

Os oes angen, gallwn wneud iddyn nhw ymgymryd â hyfforddiant pellach neu eu hatal rhag gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ein heffaith

Mae canfyddiadau'r cyhoedd wedi gwella, ac mae mwy o weithwyr proffesiynol bellach wedi cofrestru gyda ni.

Datgelodd yr Arolwg Omnibws Cymru diweddaraf y bu cynnydd yn y cyhoedd â chanfyddiad cadarnhaol o sgiliau a phroffesiynoldeb y gweithlu.



Effaith

Gofynnodd yr arolwg gwestiynau i gael canfyddiad y cyhoedd i ateb y cwestiynau:

Mae gweithwyr gofal a blynyddoedd cynnar bob amser yn fedrus ac yn broffesiynol yn y gwaith y maen nhw’n ei wneud:

  • Gweithwyr cartrefi preswyl a gofal: 67 y cant yn cytuno a chytuno’n gryf. 59 y cant oedd y ffigwr ym mis Mawrth 2020
  • Gweithwyr gofal plant: 69 y cant y cant yn cytuno a chytuno’n gryf. Roedd y ffigwr hefyd yn 69 y cant yn 2020.

Bod gan y cyhoedd hyder yn y gweithlu:

  • Gweithwyr cartrefi preswyl a gofal: 74 y cant yn cytuno a chytuno’n gryf (heb fesur yn 2020).

Rydyn ni am i bobl fod â hyder yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae cofrestru yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddatblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol yn barhaus a chodi statws gweithwyr.

Gyda maint cynyddol y Gofrestr, byddwn ni’n parhau i nodi ffyrdd y gallwn ryngweithio’n well â phobl gofrestredig, gan eu helpu i ddeall y disgwyliadau a’r safonau a osodir gan y Cod Ymarfer Proffesiynol trwy gefnogi eu dysgu a’u datblygiad.

Roedd 35,261 o bobl ar ein Cofrestr ym mis Mawrth 2022. Mae hyn yn gyson â’r nifer ym mis Mawrth 202. Bydd hyn yn cynyddu’n sylweddol yn 2022 gyda chofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cartref i oedolion yn dod yn orfodol.

Rhan ganolog o'n swyddogaeth reoleiddio yw sicrhau bod y rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol yn gymwys ac yn ddiogel i ymarfer. Mae hyn yn gofyn am broses addasrwydd i ymarfer effeithiol ac effeithlon.

Drwy gydol 2021 i 2022 fe wnaethom ni sicrhau bod ein prosesau addasrwydd i ymarfer presennol yn effeithlon ac yn amserol.

Fe wnaethom ni roi argymhellion ar waith yn dilyn ein hadolygiad yn y flwyddyn flaenorol. Edrychodd yr adolygiad hefyd am ffyrdd newydd a gwahanol o gyflawni ein swyddogaethau i wneud y mwyaf o adnoddau.

Cafodd 45 o bobl eu tynnu oddi ar y Gofrestr, gan sicrhau na allent weithio mewn rolau cofrestredig o fewn gofal cymdeithasol mwyach.

Effaith
  • 312 (0.9 y cant o'r Gofrestr) yw nifer y personau cofrestredig y cawsom honiadau yn eu cylch a oedd yn bwrw amheuaeth ar eu haddasrwydd i ymarfer a'u haddasrwydd i aros ar y Gofrestr.
  • 171 o atgyfeiriadau yn ymwneud â phersonau cofrestredig a oedd yn destun prosesau disgyblu.
  • 49 o wrandawiadau terfynol wedi eu cynnal.
  • 45 o bobl wedi eu tynnu oddi ar y Gofrestr.

Tudalen nesaf

Gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sydd â chymwysterau, gwybodaeth a sgiliau addas gyda'r gwerthoedd, yr ymddygiad a'r ymarfer cywir

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 13 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (34.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch