Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.
Pam ei fod yn bwysig
Er mwyn bodloni gofynion y presennol a’r dyfodol, mae angen dysgu a datblygu o ansawdd uchel ar y gweithlu.
Bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a’r ymagwedd gywir iddynt i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd da yn y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar. Mae hon yn thema allweddol yn y Strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae addysg a hyfforddiant yn hanfodol i gyflenwad y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar
Maen nhw hefyd yn bwysig o ran cefnogi cyflogwyr i reoli neu ddatblygu gwasanaethau a chynhyrchu arweinwyr cydweithredol a thosturiol.
Rhaid inni barhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant a dysgu yng Nghymru ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Yn ogystal â chynyddu’r niferoedd sy’n gweithio o fewn y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, mae angen i’n buddsoddiad ddarparu’r math o addysg, dysgu a hyfforddiant sy’n cefnogi anghenion y dyfodol a modelau gwasanaeth newydd.
Ein heffaith
Mae buddsoddiad mewn dysgu a datblygu wedi cynyddu, gyda mwy o bobl yn ennill cymwysterau ac yn mynychu digwyddiadau dysgu.
Mae ein hadroddiad proffil blynyddol ar y gweithlu cofrestredig yn rhoi dadansoddiad o'r cymwysterau sydd gan y rhai sy'n darparu gofal a chymorth.
Mae Cofrestr sy'n seiliedig ar gymwysterau yn elfen hanfodol o sicrhau bod gweithwyr cofrestredig yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth briodol.
Mae'r niferoedd cynyddol ar y Gofrestr yn rhoi data i ni am yr holl lefelau gwahanol o gymwysterau sydd gan y gweithlu.
Rydyn ni wedi cefnogi pobl sy'n cael eu cyflogi yn y gweithlu gofal cymdeithasol i ddatblygu eu sgiliau a thyfu yn eu gallu i gefnogi pobl yn effeithiol a darparu gofal.
Fe wnaethom ni fuddsoddi mewn cefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol, fel bod ganddyn nhw’r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a’r ymagwedd gywir i ddarparu gofal a chymorth da.
Roedd hyn yn cynnwys £7,149,350, a dalwyd i awdurdodau lleol drwy Grant Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) ac a gafodd arian cyfatebol gan £3,064,007 o gyllid awdurdodau lleol.
Yn ogystal, gwnaethom ariannu grant hwyluso rhanbarthol nad yw’n denu arian cyfatebol. Yn 2021 i 2022 roedd hyn yn £1,172,000.
Cymwysterau a gefnogir drwy gyllid SWWDP:
- Fframwaith sefydlu Cymru gyfan = 172
- Cymwysterau galwedigaethol cymeradwy lefel 2/3 = 441
- Cymhwyster galwedigaethol cymeradwy lefel 4/5 = 80
- Lefel 3/4 dyfarniadau aseswr = 27
- Rhaglen ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol = 63
- Gradd gwaith cymdeithasol – dysgwyr parhaus = 175
- Dyfarniadau gwaith cymdeithasol ôl-gymhwyso = 559
Yn ystod 2021 i 2022 fe wnaethom ni dreialu cwrs dysgu ar-lein Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol, wedi’i dargedu’n benodol at y rhai nad oeddent yn gyfarwydd â’r sector gofal cymdeithasol.
Fe wnaethom ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r cynllun peilot i ddatblygu dull Cymru gyfan ar gyfer 2022 i 2023.
Tudalen nesaf
Gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n denu, recriwtio a chadw pobl â'r gwerthoedd cywir i ddiwallu anghenion y rhai sydd angen gofal a chymorth