Jump to content
Canlyniad: Gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n ymgorffori ac yn darparu dulliau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar gryfderau

Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.

Pam ei fod yn bwysig?

Mae rhoi’r unigolyn a’i anghenion yng nghanol eu gofal yn egwyddor allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’n bwysig hefyd i roi llais iddynt, a rheolaeth dros y canlyniadau sy’n eu helpu i gyflawni llesiant.

Pobl yw'r arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain. Wrth weithio gyda gweithwyr proffesiynol, maen nhw’n y sefyllfa orau i ddweud wrthym beth fydd yn cefnogi eu llesiant.

Ein heffaith

Rydyn ni’n darparu offer ac adnoddau ymarferol i gefnogi gweithwyr proffesiynol gydag ymagwedd sy'n seiliedig ar gryfderau.

Mae angen i ni symud tuag at gael ‘sgyrsiau cydweithredol’ grymusol gyda phobl a theuluoedd yr ydym wedyn yn eu cefnogi drwy arferion gwell a phrosesau mwy effeithlon.

Bydd modelau gwasanaeth y dyfodol yn gynyddol seiliedig ar y cysyniad o “beth sy’n bwysig i mi”. Mae hyn yn symud y ffocws o’r hyn y mae gweithwyr proffesiynol yn ei feddwl i’r hyn sydd ei angen ar y person. Mae hyn yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.

Nid yw effaith ein gwaith mewn perthynas â’r canlyniad hwn yn glir ar hyn o bryd gan na fydd y newid hwn mewn arfer yn cael ei gyflawni mewn un flwyddyn.

Hyd yn hyn, rydyn ni wedi darparu cymorth i'r sector drwy Rwydwaith Cymru Gyfan o Fentoriaid, hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i staff awdurdodau lleol ac adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer gweithwyr gofal cartref.

Yn ystod 2022 i 2023, byddwn yn gwerthuso manteision ein cymorth i weithwyr proffesiynol yn y maes hwn.

Tudalen nesaf

Rydyn ni’n darparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy o'r radd flaenaf.

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 28 Mehefin 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (30.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch