Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ar 6 Ebrill 2016.
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr sydd angen cymorth arnynt, ac am drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Darllenwch y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Gallwch hefyd darllen cynnwys y Ddeddf drwy ddefnyddio fersiwn hawdd i’w ddarllen a chrynodeb i bobl ifanc.
Mae'r ddogfen gwybodaeth hanfodol yn rhoi trosolwg o'r Ddeddf a'i fframwaith cyfreithiol ehangach.
Mae gwybodaeth ar gael am y rheoliadau a chodau ymarfer ac arweiniad statudol sydd yn cefnogi'r Ddeddf.
Darllenwch y diweddariad a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2016 gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar weithredu'r Ddeddf.
Cefndir
Amlygodd y Papur Gwyn, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, a gyhoeddwyd yn 2011, nifer o heriau sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau demograffig, disgwyliadau uwch gan bobl sy’n derbyn gofal a chymorth yn ogystal â realiti’r wasgfa economaidd.
Mae’r Ddeddf yn bwriadu dod i’r afael â’r materion uchod. Wrth wneud hynny, bydd yn rhoi mwy o ryddid i bobl i benderfynu ar wasanaethau tra’n hyrwyddo gwasanaethau cyson, o safon uchel ledled y wlad.
Bydd hi’n drawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, gan hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais cryf a rheolaeth iddynt.
Darganfyddwch ddolennau i'r holl ddeddfwriaeth sylfaenol allweddol sy'n ymwneud a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar y wefan Cyfraith Cymru.
Egwyddorion
Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:
Llais a rheolaeth – rhoi unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddyn nhw er mwyn cyrraedd y canlyniadau sy’n creu llesiant.
Atal ac ymyrryd yn gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn cymunedau er mwyn lleihau’r dirywiad i anghenion brys
Llesiant – cynorthwyo pobl i greu eu llesiant eu hunain a mesuro llwyddiant gofal a chymorth.
Cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran mewn cynllunio a throsglwyddiad gwasanaethau.
Troi’r Bil yn Ddeddf
Dilynwch hynt y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), o’i chyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol 28 Ionawr 2013 i bryd daeth hi’n Ddeddf ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol 1 Mai 2014. Yma, cewch weld y Memorandwm Eglurhad, sy’n rhoi esboniad bras o’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys y rhannau gwahanol i gyd.
Plant a phobl ifanc
Ar 30 Mehefin 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford datganiad ysgrifenedig sy'n trafod sut bydd y Ddeddf yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc.
Yn y fideo hwn, a ffilmiwyd yn y Gynhadledd Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yng Nghaerdydd yn Ionawr 2016, mae Ruth Henke QC yn rhoi cyflwyniad ar gyfrifoldebau awdurdodau lleol o dan y Ddeddf dros blant sy'n cael eu lletya (Saesneg yn unig)