Mae codau ymarfer yn rhoi cyfarwyddyd, a gefnogir gan y gyfraith, i helpu pobl a sefydliadau i weithio o fewn y fframwaith newydd a gaiff ei greu gan Ddeddf.
Mae dolenni i'r codau ymarfer a cyhoeddir o dan Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael isod. Mae rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â'r gofynion a geir yn y codau hyn wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
- Côd Ymarfer Rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol)
- Côd Ymarfer Rhan 3 (Asesu Anghenion Unigolion)
- Côd Ymarfer Rhan 4 (Diwallu Anghenion)
- Côd Ymarfer Rhan 4 a 5 (Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol) – daeth y côd diwygiedig yn weithredol ar 8 Ebrill 2019.
- Côd Ymarfer Rhan 6 (Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya) - daeth y côd diwygiedig yn weithredol ar 2 Ebrill 2018
- Côd Ymarfer Rhan 8 ar Swyddogaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol)
- Côd Ymarfer Rhan 10 (Eiriolaeth)
- Côd Ymarfer Rhan 11 (Amrywiol a Chyffredinol)
Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn cyhoeddi'r codau ymarfer uchod.
Gorchmynion Diwrnod Penodedig
Gwnaeth y Gorchymyn hwn penodi 6 Ebrill 2016 fel y diwrnod y daeth y codau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran 145 (1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym.
Gwnaeth y gorchymyn hwn penodi 6 Ebrill 2016 fel y diwrnod daeth y Côd Ymarfer Rhan 8 ar Swyddogaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) i rym.
Codau ymarfer eraill o dan y ddeddf
Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn cyhoeddi'r Côd Ymarfer ar Fesuro Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â'i ddatganiad am osod y Côd Ymarfer gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym Mehefin 2015.
Mae awdurdodau lleol, wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig, yn gorfod ymddwyn yn unol â gofynion y côd ac yn dilyn unrhyw ganllawiau ynddo.