Jump to content
​Codau Ymarfer

Mae codau ymarfer yn rhoi cyfarwyddyd, a gefnogir gan y gyfraith, i helpu pobl a sefydliadau i weithio o fewn y fframwaith newydd a gaiff ei greu gan Ddeddf.

Mae dolenni i'r codau ymarfer a cyhoeddir o dan Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael isod. Mae rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â'r gofynion a geir yn y codau hyn wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn cyhoeddi'r codau ymarfer uchod.

Gorchmynion Diwrnod Penodedig

Gwnaeth y Gorchymyn hwn penodi 6 Ebrill 2016 fel y diwrnod y daeth y codau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran 145 (1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym.

Gwnaeth y gorchymyn hwn penodi 6 Ebrill 2016 fel y diwrnod daeth y Côd Ymarfer Rhan 8 ar Swyddogaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) i rym.

Codau ymarfer eraill o dan y ddeddf

Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn cyhoeddi'r Côd Ymarfer ar Fesuro Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â'i ddatganiad am osod y Côd Ymarfer gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym Mehefin 2015.

Mae awdurdodau lleol, wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig, yn gorfod ymddwyn yn unol â gofynion y côd ac yn dilyn unrhyw ganllawiau ynddo.

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Ebrill 2017
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch