Jump to content
Cefnogi iechyd meddwl staff – canllaw i reolwyr
Digwyddiad

Cefnogi iechyd meddwl staff – canllaw i reolwyr

Dyddiad
19 Ionawr 2027 i 17 Chwefror 2027, 9am i 11.30am
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a RCS Wellbeing
Wythnos Llesiant 2027: 18 i 22 Ionawr

Mae hon yn ddigwyddiad Wythnos Llesiant 2027.

Rydyn ni wedi rhannu'r hyfforddiant hwn yn bedair sesiwn. Mae’r sesiwn gyntaf yn rhan o Wythnos Llesiant.

Rydyn ni’n cynnal y sesiynau hyn fel bod rheolwyr yn gallu cael gwybodaeth berthnasol a chyfoes, a bod yn rhan o ofod cymorth ymhlith cyfoedion i rannu sut beth yw cefnogi staff sy’n profi salwch meddwl.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer y rhai sy’n arweinwyr ac yn rheolwyr ar hyn o bryd  neu’n ddarpar arweinwyr a rheolwyr ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cynnwys y sesiwn

Bydd y sesiwn gyntaf yn rhoi cyfle i chi wneud y canlynol:

  • deall iechyd meddwl yn y gweithle’n well
  • sut i adnabod salwch meddwl
  • deall gofynion cyflogwyr o ran cefnogi pobl yn y gweithle
  • dysgu sut i adnabod arwyddion a symptomau iechyd meddwl sy'n amrywio
  • dysgu am ofynion cyflogwyr a rôl y rheolwr wrth gefnogi staff sy'n profi heriau iechyd meddwl.

Gallwch chi ddewis ymuno â ni ar gyfer sesiwn 1 yn unig, neu ar gyfer pob un o'r pedair sesiwn.

Mae sesiwn 2 yn trafod:

Mae sesiwn 3 yn trafod:

Mae sesiwn 4 yn trafod:

Dyddiadau

  • Sesiwn 1: 19 Ionawr, 10am i 11.30am, eto rhwng 6.15pm a 7.45pm
  • Sesiwn 2: 27 Ionawr 10am i 11.30am
  • Sesiwn 3: Chwefror 10am i 11.30am
  • Sesiwn 4: 17 Chwefror 10am i 11.30am

Ynglŷn â’r siaradwr

Rheolwr Hyfforddiant gyda RCS yw Claire. Mae’n hyfforddwraig ddwyieithog brofiadol sydd wedi hyfforddi busnesau ledled Cymru ar bynciau sy'n ymwneud â llesiant yn y gweithle, gan gynnwys iechyd meddwl, rheoli straen, ymwybyddiaeth o’r menopos, a sgyrsiau anodd. Mae’n Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwys. 

Drwy gyfuno gwahanol ddulliau a fformatau dysgu, mae Claire wastad yn derbyn adborth gwych am gynnal sesiynau sy'n broffesiynol, yn rhyngweithiol ac yn apelgar.