Jump to content
Gweminar: presenoldeb arweinwyr a dilysrwydd
Digwyddiad

Gweminar: presenoldeb arweinwyr a dilysrwydd

Dyddiad
18 Ionawr 2027, 9.30am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Altriss
Wythnos Llesiant 2027: 18 i 22 Ionawr

Mae hon yn ddigwyddiad Wythnos Llesiant 2027.

Gall arweinyddiaeth ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn gymhleth ac yn heriol yn emosiynol. 

Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddatblygu mwy o hunanymwybyddiaeth a dilysrwydd yn eich rôl arweinyddiaeth.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer y rhai sy’n arweinwyr ac yn rheolwyr ar hyn o bryd  neu’n ddarpar arweinwyr a rheolwyr ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cynnwys y sesiwn

Ar ddechrau’r sesiwn hon, bydd Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sarah McCarty, a Taryn Stevens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn agor yr Wythnos Llesiant.

Yna, bydd Altriss yn ymuno â ni i sgwrsio am bresenoldeb arweinwyr a dilysrwydd.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn:

  • deall sut mae eich presenoldeb fel arweinydd a’ch ymddygiad o ddydd i ddydd yn dylanwadu ar lesiant a phrofiadau pobl eraill
  • meddwl am sut mae'r ymddygiadau rydych chi'n eu harddel drwy eich gweithredoedd, cyfathrebu ac ymatebion i herio, yn effeithio ar gydweithwyr, timau a rhanddeiliaid
  • archwilio sut mae dilysrwydd, hunanymwybyddiaeth a gwerthoedd yn cefnogi arweinyddiaeth effeithiol a thosturiol
  • cydnabod y rôl y mae arweinwyr yn ei chwarae wrth greu diwylliannau o fewn y gweithle sy'n cefnogi llesiant, ymddiriedaeth a diogelwch seicolegol
  • dod o hyd i ffyrdd ymarferol o ddysgu o brofiad a chryfhau eich ymarfer arweinyddiaeth yn barhaus
  • ystyried sut mae eich ymddygiad yn cyfrannu at ymddiriedaeth, diogelwch seicolegol, llesiant a diwylliannau positif yn y gwaith
  • meddwl am eich dylanwad ar ddiwylliant y gweithle drwy eich ymddygiadau, cyfathrebu ac ymatebion i herio o ddydd i ddydd
  • ffyrdd ymarferol o gefnogi eich llesiant eich hun, a llesiant y bobl rydych chi'n eu harwain.