Jump to content
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP)

Yma ceir manylion am Raglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP).

Beth yw'r grant SCWWDP?

Sut mae'r grant yn cael ei reoli?

Faint o gyllid a ddarperir?

Beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer y grant?

Prif ganfyddiadau o fonitro diwedd blwyddyn y Rhaglen datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) 2024 i 2025

Prif ganfyddiadau 2024 i 2025 yw:

  • yn gyffredinol, mae cyfanswm y gwariant ar SCWWDP wedi cynyddu 0.5 y cant (£61,542) o £12,694,344 i £12,755,886.
  • mae’r buddsoddiad ychwanegol a nodwyd gan awdurdodau lleol (yn ychwanegol at eu 30 y cant o gyllid cyfatebol disgwyliedig) wedi cynyddu 4.2 y cant

Bu i’r grant SCWWDP:

  • gefnogi rhaglenni dysgu a datblygu ym mhob un o’r saith rhanbarth yng Nghymru
  • helpu 2,486 o ddysgwyr cymwysterau galwedigaethol, cynnydd o 31.6 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • helpu 693 o bobl ar hyfforddiant cymhwyso mewn gwaith cymdeithasol, cynnydd o 2.2 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • helpu 416 o bobl gyda hyfforddiant ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol, gostyngiad o 3.7 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • helpu 171 o bobl â dyfarniadau arbenigol ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol, er enghraifft, ymarfer galluogi, asesydd budd pennaf a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP). Roedd hyn yn ostyngiad o 8.6 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • ddarparu 134,526 o leoedd hyfforddi, gyda lefelau presenoldeb o 86.2 y cant
  • helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n dilyn hyfforddiant a phresenoldeb gan y sectorau gwirfoddol a phreifat.

Gallwch ddarllen adroddiad themâu a chanfyddiadau SCWWDP 2024 i 2025 yma

Mae’r adroddiad themâu a chanfyddiadau cenedlaethol yn nodi sut y buddsoddwyd grant SCWWDP gan ranbarthau rhwng 2024 a 2025.

Beth yw datblygiadau’r dyfodol ar gyfer Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP)?

Cael mynediad at yr hyfforddiant a datblygiad a ariennir gan SCWWDP

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael mynediad i'r hyfforddiant a datblygiad a ariennir gan SCWWDP, cysylltwch â'ch tîm datblygu gweithlu lleol

Gallwch ddarllen adroddiad themâu a chanfyddiadau SCWWDP 2023 i 2024 yma

Mae’r adroddiad themâu a chanfyddiadau cenedlaethol yn nodi sut y buddsoddwyd grant SCWWDP gan ranbarthau rhwng 2023 a 2024.