Jump to content
Prif ganfyddiadau o’r monitro diwedd flwyddyn 2024 i 2025 ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP)

Prif ganfyddiadau

Prif ganfyddiadau 2024 i 2025 yw:

  • yn gyffredinol, mae cyfanswm y gwariant ar SCWWDP wedi cynyddu 0.5 y cant (£61,542) o £12,694,344 i £12,755,886
  • mae’r buddsoddiad ychwanegol a nodwyd gan awdurdodau lleol (yn ychwanegol at eu 30 y cant o gyllid cyfatebol disgwyliedig) wedi cynyddu 4.2 y cant.

Bu i’r grant SCWWDP:

  • gefnogi rhaglenni dysgu a datblygu ym mhob un o’r saith rhanbarth yng Nghymru
  • helpu 2,486 o ddysgwyr cymwysterau galwedigaethol, cynnydd o 31.6 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • helpu 693 o bobl ar hyfforddiant cymhwyso mewn gwaith cymdeithasol, cynnydd o 2.2 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • helpu 416 o bobl gyda hyfforddiant ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol, gostyngiad o 3.7 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • helpu 171 o bobl â dyfarniadau arbenigol ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol, er enghraifft, ymarfer galluogi, asesydd budd pennaf a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP). Roedd hyn yn ostyngiad o 8.6 y cant o’i gymharu â’r llynedd
  • ddarparu 134,526 o leoedd hyfforddi, gyda lefelau presenoldeb o 86.2 y cant
  • helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n dilyn hyfforddiant a phresenoldeb gan y sectorau gwirfoddol a phreifat.

Datblygiadau'r dyfodol 

Rydyn ni wedi nodi meysydd gwaith penodol i’w gwella neu eu datblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac sy’n cael eu disgrifio’n fwy manwl yn yr adroddiad llawn, gan gynnwys:  

  • adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol
  • ymchwilio ac ymateb i heriau cymhwyso
  • gwella mynediad at ddata’r gweithlu
  • gwaith cymdeithasol
  • adeiladu darlun llawnach o ddatblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymru

Mae’r adroddiad llawn ar gael mewn fformat Microsoft Word isod.

I gael gwybod mwy am y cyfleoedd i ddatblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yn eich ardal leol, cysylltwch â thimau datblygu’r gweithlu yn eich awdurdod lleol.

Yr adroddiad llawn mewn fformat Microsoft Word