Mae’r cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gynllun ar y cyd rhyngom ni ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae’r cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gynllun ar y cyd rhyngom ni ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Ei nod yw gwireddu amcanion gwasanaethau iechyd meddwl y strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae gan y cynllun 33 gweithred. Mae’r gweithrediadau’n cefnogi datblygiad gweithlu iechyd meddwl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sy’n frwdfrydig, ymgysylltiol ac sy’n cael eu gwerthfawrogi, ac sydd â’r gallu i gwrdd ag anghenion pobl Cymru.
I greu’r cynllun, fe wnaethom ni siarad â phobl yn y sector, gan gynnwys:
- pobl sydd â phrofiad byw o iechyd meddwl
- cyflogwyr
- undebau llafur
- cyrff proffesiynol
- colegau brenhinol
- llywodraeth.
Fe wnaethom ni wrando ar y bobl sy’n darparu ein gwasanaethau iechyd meddwl i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw. Fe wnaethom ni hefyd edrych ar ymchwil, data am y gweithlu a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Y cynllun hwn yw ein ffordd o ddod a newidiadau arwyddocaol a gwelliannau i sut rydyn ni’n datblygu, gwerthfawrogi a chefnogi ein gweithlu iechyd meddwl, mewn cydnabyddiaeth o’u rôl allweddol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â jim.widdett@gofalcymdeithasol.cymru.