Jump to content
Cymru Iachach: Strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cyflawniadau cam un

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r cynnydd a wnaed ar lefel genedlaethol yn ystod y pedair blynedd gyntaf ers lansio ein strategaeth gweithlu.

Cyflwyniad

Ym mis Hydref 2020, lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gefnogi’r gwaith o weithredu strategaeth Cymru Iachach. Datblygwyd y strategaeth gydag ymgysylltiad a chyfraniadau sylweddol gan staff, partneriaid a rhanddeiliaid, ac mae’n darparu fframwaith a chyfeiriad ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Ers i ni gyhoeddi’r strategaeth, mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu nifer o heriau sydd wedi’u gosod yng nghyd-destun heriau ariannol sylweddol. Bydd pandemig Covid-19 yn parhau i gael effaith barhaol am flynyddoedd i ddod ac mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith negyddol ar gymunedau.

Mae heriau mawr o ran y gweithlu yn parhau yn y ddau sector, gydag anawsterau o ran denu pobl i’r sector, recriwtio digon o staff, a chadw’r gweithlu presennol. Mae hyn yng nghanol y galw cynyddol am wasanaethau.

Er gwaethaf yr heriau parhaus sy’n wynebu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, mae cynnydd wedi’i wneud, a dylid ddathlu’r llwyddiannau a’r gwelliannau hyn. Ni fyddai'r cynnydd wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad partneriaid allweddol gan gynnwys cyflogwyr, undebau, y gweithlu, a chyrff rhanddeiliaid a chenedlaethol. Felly, pan fyddwn yn dweud "ni", rydyn ni’n golygu cyfuniad o bawb yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae hyn yn dangos ein cyfrifoldeb cyfunol i gyflawni uchelgais y strategaeth a chefnogi'r gweithlu.

Pan lansiwyd y strategaeth gweithlu, gwnaethom ni ddenu sylw at y ffaith y byddai rhywfaint o waith yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol, tra byddai rhai yn cael eu cyflawni ar lefel ranbarthol neu hyd yn oed yn lleol. Mae'r cynnydd wedi'i wneud trwy dirwedd gymhleth ac mae llawer o waith yn cael ei gyflawni a'i adrodd drwy ystod o wahanol fecanweithiau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r cyflawniadau allweddol ar lefel genedlaethol.

Mae strategaeth y gweithlu yn hanfodol i'n cadw ni i ganolbwyntio ar gyflawni ein huchelgais "i gael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig a gwerthfawr â chapasiti, cymhwysedd a hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru."

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r cynnydd a wnaed ar lefel genedlaethol yn ystod y pedair blynedd gyntaf ers lansio’r strategaeth o ran ein rhaglenni gwaith unigol ac ein rhaglenni gwaith ar y cyd.

Llesiant, yr iaith Gymraeg a chynhwysiant yw edafedd aur y strategaeth gweithlu sy’n rhedeg drwy ein holl themâu a chamau gweithredu. Maen nhw’n parhau i chwarae rhan hanfodol yn y newid diwylliant sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau modern hanfodol i bobl Cymru.

Rydyn ni wedi gwneud y cynnydd hwn ar yr un pryd â chynnal gwaith ymgysylltu sylweddol ac ymgynghori ar gamau gweithredu a chynnwys cam nesaf y gweithredu a arweiniodd at gyhoeddi Cynllun Cyflawni Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027 a’r Cynllun Gweithredu Gweithlu Cenedlaethol: Mynd i’r Afael â Heriau Gweithlu GIG Cymru. Mae hyn yn unol â’n cyfnod adolygu ffurfiol cyntaf, fel yr addawyd yn y strategaeth wreiddiol.

Mae ein cyflawniadau ni wedi’u strwythuro o dan bob un o saith thema’r strategaeth gweithlu.

  1. Gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach
  2. Denu a recriwtio
  3. Modelau gweithlu di-dor
  4. Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol
  5. Addysg a dysgu rhagorol
  6. Arweinyddiaeth ac olyniaeth
  7. Cyflenwad a siâp y gweithlu

Ar gyfer pob thema rydyn ni wedi crynhoi:

  • ein huchelgais erbyn 2030
  • y prif gyflawniadau a wnaed hyd yma

1. Gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030 ar y thema gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach yw y bydd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi lle bynnag y maen nhw’n gweithio.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae’r canlynol yn gyflawniadau allweddol yng ngham un:

  • datblygu fframweithiau iechyd a llesiant fel y gall cyflogwyr a gweithwyr fesur eu sefydliadau yn erbyn set o safonau y cytunwyd arnynt
  • rhannu arferion da ac adnoddau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i sbarduno gwelliant
  • rhoi mynediad, am y tro cyntaf, at wasanaeth cymorth iechyd meddwl cyffredinol newydd sydd am ddim ar bwynt mynediad i’r gweithlu cyfan ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
  • cynnal yr arolygon gweithlu cyntaf yn y ddau sector sy’n rhoi llinell sylfaen i ni ar ddangosyddion llesiant ac ymgysylltu'r gweithlu yn y sector
  • darparu cynadleddau iechyd a llesiant, sefydlu rhwydweithiau cymheiriaid, darparu adnoddau a mentrau i ffocysu sylw ar bwysigrwydd llesiant y gweithlu a’r cyfraniad mae hynny’n ei wneud i ganlyniadau pobl
  • parhau i weithio tuag at gydnabyddiaeth a gwobrau teg ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
  • cyfrannu at ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a Chynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru a chyfrannu at eu gweithredu a'u cyflawni.

2. Denu a recriwtio

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030 ar y thema denu a recriwtio yw y bydd iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u sefydlu’n dda fel brand cryf a hawdd ei adnabod, a’r sector o ddewis i’n gweithlu yn y dyfodol.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae’r canlynol yn gyflawniadau allweddol yng ngham un:

  • cydweithio i adeiladu ein brandiau presennol, sef Gofalwn Cymru a HyfforddiGweithioByw i ddenu a recriwtio staff i’n sectorau, gan gynnwys ymgyrchoedd wedi’u targedu ar gyfer proffesiynau sy’n profi prinder staff a’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd recriwtio
  • lansio dull digidol o hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy lwyfan Tregyrfa
  • cryfhau cysylltiadau rhwydwaith gyrfaoedd rhwng dulliau gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • sefydlu rhwydwaith gyrfaoedd ar y cyd i rannu arferion da ac adnoddau i sbarduno gwelliant ar draws iechyd a gofal
  • gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gryfhau cysylltiadau a dealltwriaeth rhwng ceiswyr gwaith a’r gyrfaoedd posibl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • cynnal gwaith ymchwil i ddeall recriwtio ac ymddygiad ceiswyr gwaith.

3. Modelau gweithlu di-dor

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030 ar y thema modelau gweithlu di-dor yw mai modelau gweithlu aml-broffesiwn ac aml-asiantaeth fydd y norm.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae’r canlynol yn gyflawniadau allweddol yng ngham un:

4. Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030 ar y thema o adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol yw y bydd galluedd digidol a thechnolegol y gweithlu wedi’i ddatblygu’n dda ac yn cael ei ddefnyddio’n helaeth i wneud y gorau o’n ffordd o weithio, er mwyn ein helpu ni i ddarparu’r gofal gorau posib i bobl.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae’r canlynol yn gyflawniadau allweddol yng ngham un:

  • dylunio fframwaith asesu galluogrwydd digidol ar gyfer iechyd a chomisiynu gwaith i ddatblygu dull i ddeall aeddfedrwydd a llythrennedd digidol y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • gweithio i gynyddu galluogrwydd digidol ar draws ein gweithlu, gan eu galluogi i weithio a dysgu gan ddefnyddio technoleg briodol a ffyrdd digidol o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal
  • lansio’r hyfforddiant diwygiedig ar Atal a Rheoli Heintiau (IPC) sydd wedi’i alluogi’n ddigidol
  • gweithio gyda phartneriaid i gynyddu argaeledd a chatalog o ddatrysiadau dysgu rhithwir, gan gynnwys e-ddysgu, ystafell ddosbarth rithwir ac efelychu
  • comisiynu gwaith ymchwil i ddeall y newid i dechnoleg ddigidol ym maes gofal cymdeithasol a chefnogi newid y sector i dechnoleg ddigidol, drwy dargedu cynnydd mewn cyllid a datblygu modiwlau dysgu cenedlaethol, gan gynnwys asedau dysgu digidol
  • gwneud gwaith i ddeall y ffordd orau o gefnogi arloesi digidol
  • meithrin perthnasoedd â phartneriaid allweddol, gan gynnwys y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Chymunedau Digidol Cymru.

5. Addysg a dysgu rhagorol

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030 ar thema addysg a dysgu rhagorol yw y bydd buddsoddiad mewn addysg a dysgu ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn darparu’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae’r canlynol yn gyflawniadau allweddol yng ngham un:

  • cynorthwyo’r sector i weithredu cymwysterau galwedigaethol iechyd a gofal cymdeithasol newydd a gyflwynwyd yn 2019 a 2020. Yn 2023 a 2024, yn dilyn adborth gan y sector, gwnaed newidiadau i sut mae cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 yn cael eu hasesu er mwyn gwella cyfraddau cyflawni. Mae mwy o waith gwella i ddod ar gymwysterau Lefel 4 a 5
  • gweithio gyda phartneriaid i gefnogi gostyngiad mewn cyrhaeddiad gwahaniaethol ar draws rhaglenni addysg iechyd a gofal
  • creu cyfleoedd gwell i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddarparu adnoddau, gweminarau ac archwilio e-ddysgu wedi’u targedu ar gyfer y gweithlu gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • helpu i ddatblygu gwiriwr Cymraeg newydd er mwyn casglu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg gweithwyr o ran siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu. Mae’r gwiriwr yn helpu gweithwyr i gymryd y cam nesaf yn eu datblygiad a’u defnydd o’r Gymraeg
  • manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau
  • cyllido a datblygu modelau “tyfu eich hun” ar gyfer cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol, wedi eu cyflawni gan awdurdodau lleol. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i’r gweithlu ddysgu wrth ennill cyflog.

6. Arweinyddiaeth ac olyniaeth

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030 ar y thema arweinyddiaeth ac olyniaeth yw y byddarweinwyr yn y maes a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae’r canlynol yn gyflawniadau allweddol yng ngham un:

  • datblygu a chytuno ar egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol a chwmpawd ymddygiad arweinyddiaeth dosturiol, sy’n egluro sut mae creu diwylliannau ac arweinwyr tosturiol ym maes iechyd a gofal
  • cynnal a datblygu rhaglenni arweinyddiaeth i wreiddio egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol
  • datblygu safle Gwella, porth arweinyddiaeth sy’n darparu mynediad at, ac sy’n hyrwyddo, amrywiaeth o adnoddau arweinyddiaeth dosturiol i bawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd rhaglenni arweinyddiaeth eraill ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, fel Climb, academïau dysgu dwys ac Academi Wales.

7. Cyflenwad a siâp y gweithlu

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais erbyn 2030 ar thema cyflenwad a siâp y gweithlu yw y bydd gennym ni weithlu cynaliadwy mewn niferoedd digonol i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ein poblogaeth.

Ers cyhoeddi’r strategaeth gweithlu, mae’r canlynol yn gyflawniadau allweddol yng ngham un:

  • datblygu cynlluniau ar gyfer canolfan ragoriaeth ar gyfer gwybodaeth am y gweithlu er mwyn gwella cysondeb a mynediad at ddata i gefnogi’r gwaith o gynllunio’r gweithlu yn y tymor hir yn y sector iechyd
  • cwblhau gwaith gydag awdurdodau lleol i ddeall eu dull o gynllunio’r gweithlu yn well yn y sector gofal cymdeithasol
  • rhannu dulliau cyffredin o gasglu data am y gweithlu a chynllunio ar draws sectorau i sicrhau ein bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd
  • meithrin capasiti a gallu wrth gynllunio a datblygu’r gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
  • datblygu adnoddau digidol a hyfforddiant ar-lein i gefnogi’r gwaith o gynllunio’r gweithlu ar gyfer darparwyr iechyd a gofal
  • cynnal meysydd ymchwilio penodol, fel ein gwaith i ddeall yn well y cynnydd sylweddol yn nifer y gweithwyr asiantaeth
  • dechrau rhaglen beilot i gefnogi cyflogwyr i gynllunio’r gweithlu, i ddiwallu anghenion pobl sy’n derbyn gofal a chymorth o ran y Gymraeg
  • cynnal asesiad aeddfedrwydd data gyda’r holl awdurdodau lleol, gyda’r canfyddiadau cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi yn 2024
  • datblygu cynlluniau gweithlu ar gyfer grwpiau proffesiynol allweddol (er enghraifft nyrsio, gweithlu iechyd meddwl, gofal uniongyrchol a gwaith cymdeithasol).

Casgliad

Fel sector, rydyn ni’n parhau i anelu at gyflawni uchelgais y strategaeth 10 mlynedd a byddwn ni’n parhau i gefnogi cydweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, rhwng sefydliadau lleol a chyrff cenedlaethol sy’n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

Mae’r gwaith a gyflawnwyd yng ngham un ers lansio’r strategaeth wedi ein galluogi i ennill momentwm y gallwn adeiladu arno yn y dyfodol, yn unol â’n nodau tymor hwy.

Mae’r Cynllun Cyflawni Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027 a Cynllun Gweithredu’r Gweithlu Cenedlaethol yn amlinellu’r set glir o gamau gweithredu ar gyfer cam dau y gwaith o gyflawni’r strategaeth er mwyn i ni allu parhau i gefnogi a datblygu’r gweithlu.

Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Fersiwn Word yr adroddiad

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Awst 2024
Diweddariad olaf: 20 Awst 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (73.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch