Buom yn gweithio gyda Practice Solutions i lunio adroddiad sy’n edrych ar sut mae pethau ar hyn o bryd o ran cynllunio gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru a beth sydd ei angen yn y dyfodol.
Cefndir i'r adroddiad
Mewn deng mlynedd, bydd y boblogaeth ledled Cymru a’r gwasanaethau sydd eu hangen i’w chynnal yn wahanol iawn i heddiw, oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio a mwy o alw am ofal cymdeithasol. Rydyn ni am i’r gweithlu gofal cymdeithasol allu darparu gwasanaethau ac addasu, cryfhau a gwella’n barhaus i ddarparu modelau newydd o ofal a chymorth.
Er mwyn cyflawni hyn, mae cynllunio gweithlu yn hollbwysig. Mae angen cynllunio gweithlu gofalus arnom i gyflawni amcanion ein cyd-Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a lansiwyd gennym gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn 2020, ac uchelgeisiau ehangach Cymru Iachach. Rhaid inni hefyd wneud yn siŵr bod y gweithlu’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi i ymdrin â galw heriol a chynyddol.
Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau gweithlu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu gofal uniongyrchol, y proffesiwn gwaith cymdeithasol ac mewn partneriaeth ag AaGIC, y gweithlu iechyd meddwl. Ond, roeddem am ddeall dulliau o gynllunio'r gweithlu yn lleol ac yn rhanbarthol. Felly, buom yn gweithio gyda Practice Solutions i lunio adroddiad sy’n edrych ar sut mae pethau ar hyn o bryd a beth sydd ei angen yn y dyfodol ar gyfer cynllunio gweithlu effeithiol.
Ynghyd â chanfyddiadau’r ymchwil, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion am welliannau posibl ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu
Mae’r adroddiad yn dangos:
- mae cynllunio'r gweithlu yn amrywio ledled Cymru o ran sut mae'n cael ei gynllunio, ei weithredu a'i gyflawni
- mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar amcanion cynllunio’r gweithlu
- gall cynllunio, llywodraethu a rheoli’r gweithlu fod yn llwyddiannus pan fydd strategaethau corfforaethol a gwasanaethau cymdeithasol yn ymochri a thimau’n cydweithio gyda ffocws clir ar faterion gweithlu sy’n gysylltiedig â chylch y gyllideb
- lle mae cynllunio gweithlu wedi'i ddatblygu'n dda, mae tystiolaeth o dechnegau ac arferion cynllunio gweithlu mwy soffistigedig. Roedd hyn yn bennaf mewn awdurdodau lleol mwy
- mae sawl awdurdod lleol yn gweithio mewn ffordd ad hoc gydag ychydig o ddulliau strwythuredig o gynllunio'r gweithlu. Byddai’r awdurdodau lleol hyn yn croesawu cymorth ac ymyrraeth i ychwanegu capasiti ac adnoddau i ddatblygu eu dulliau cynllunio’r gweithlu
- mae angen symudiad sylweddol o gynllunio gweithlu gweithredol i strategol. Mae angen buddsoddiad a chefnogaeth sylweddol ar gyfer hyn yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
- nid oes cynllunio tymor canolig i hir gan ddefnyddio'r offer, systemau, prosesau, adnoddau a modelau llywodraethu cywir
- caiff cynllunio’r gweithlu ei rwystro gan lawer o ffactorau, gan gynnwys modelau llywodraethu lleol, cyfyngiadau technoleg, capasiti, gallu, fframweithiau cyllideb anhyblyg a pholisïau, prosesau ac arferion adnoddau dynol sydd yn aml wedi dyddio.
Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei argymell
Mae’r adroddiad yn argymell:
- creu hwb adnoddau ar-lein canolog sy'n cysylltu â chanllawiau, offer a thempledi
- sefydlu rhwydwaith cynllunio gweithlu i annog cydweithio, cefnogaeth a chyngor rhwng cymheiriaid, ac i rannu profiadau
- cymorth ac ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer awdurdodau lleol sy’n cynllunio gweithlu ad hoc ar hyn o bryd
- adolygu rôl arweinwyr, rheolwyr ac arweinwyr tîm wrth yrru cynllunio gweithlu strategol
- adolygu swyddogaeth a galluoedd timau Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP), i wneud yn siŵr bod ymochri strategol â chynllunio’r gweithlu ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
- hyrwyddo manteision dull model busnes adnoddau dynol
- adolygu rôl Byrddau Partneriaeth Ranbarthol wrth gynllunio a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol
- gweithredu a lansio mentrau a chynhyrchion cenedlaethol newydd yn ymwneud â chynllunio a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol
- ystyried dull cenedlaethol at gynllunio gweithlu strategol
- cynnwys cyfeiriadau penodol at gynllunio gweithlu ar y cyd a rhannu gwybodaeth berthnasol yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu a Chymorth.
Beth rydyn ni'n mynd i'w wneud
Rydym yn croesawu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.
Rydyn ni'n mynd i ystyried pa gamau gweithredu ac adnoddau sydd eu hangen yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn gallu ymateb yn effeithiol a chytuno ar y rheini gyda'r partneriaid a'r rhanddeiliaid perthnasol.
Darganfod mwy
I gael gwybod mwy am ganfyddiadau’r adroddiad neu i gael copi llawn o’r adroddiad, e-bostiwch: strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru