Jump to content
Cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027

Mae'r Cynllun cyflawni gofal cymdeithasol 2024 i 2027 yn cynnwys ein uchelgeisiau ar gyfer ail gyfnod y Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rhagair Gweinidogol

Mae'n bleser gennyf gymeradwyo cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027 pwysig hwn. Roedd hi’n fraint cael fy mhenodi’n y Gweinidog newydd dros Ofal Cymdeithasol yn ddiweddar, ac rwy’n edrych ymlaen at ysgogi’r newid y gwyddom fod y gweithlu gofal cymdeithasol hwn ei angen ac yn ei haeddu.

Mae darparu iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru yn gwbl ddibynnol ar ein gweithlu. Mae llesiant y gweithlu yn hynod o bwysig, i bobl sy'n darparu ac yn derbyn gofal. Mae gofal tosturiol o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu orau gan unigolion sy'n bositif am eu rôl a'r sefydliad y maent yn gweithio ynddo. Rydyn niwedi ymrwymo i gefnogi'r sector ac eisiau llesiant wrth galon ein cynlluniau ar gyfer y gweithlu.

Ers cyhoeddi’r Strategaeth Gweithlu, rydyn ni wedi, ac rydyn ni’n parhau i wynebu heriau sylweddol megis pandemig Covid 19, yr argyfwng costau byw a’r galw cynyddol parhaus am ofal a chymorth. Gyda chefndir sy'n newid yn barhaus, bu'n rhaid i'r sector arloesi ac addasu. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i adolygu'r polisïau a'r camau gweithredu yn ein holl gynlluniau gweithlu i sicrhau dysgu o'r dulliau yr ydym wedi'u cymryd, adeiladu ar lwyddiannau'r sector a sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir i gefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol.

Gan adeiladu ar y Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae Gofal Cymdeithasol Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, bellach wedi datblygu’r Cynllun Cyflawni hwn ar gyfer 2024 i2027 gan ganolbwyntio ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma ac yn amlinellu meysydd datblygu pellach yn seiliedig ar ymgysylltu â'r sector. Cyhoeddwyd y cynllun cyflawni drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori o dri mis yn 2023, gan sicrhau bod llais y gweithlu, rhanddeiliaid a’r rhai sy’n derbyn gofal yn llywio’r cynnwys yn uniongyrchol.

Y llynedd, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru arolwg o’r gweithlu sy’n rhoi cyfle unigryw i’r gweithlu gofal cymdeithasol adlewyrchu ymhellach ar eich profiadau a rhoi barn ar ystod o faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnoch chi. Tynnodd sylw’n glir at ymrwymiad rhagorol ein gweithlu gofal cymdeithasol a’r rôl anhygoel yr ydych yn ei chwarae wrth gefnogi ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Er ein bod yn falch o weld nifer o ganfyddiadau positif, rydyn ni’n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud i sicrhau bod ein gweithlu'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddyn nhw’r cymorth gorau posibl. Rwy'n falch bod yr arwyddion cynnar yn awgrymu bod y nifer sydd wedi cyfrannu at yr arolwg gweithlu eleni ar ddechrau 2024 wedi cynyddu, sy'n golygu bod hyd yn oed mwy ohonoch chi wedi manteisio ar y cyfle i rannu eich profiadau a'ch safbwyntiau a fydd yn parhau i lywio ein gwaith wrth symud ymlaen.

Gwyddom y bydd y galw am ofal cymdeithasol yn parhau i dyfu, felly mae'n hanfodol bod gennym ni systemau cynllunio gweithlu effeithiol ar waith i ateb y galw hwn. Rydyn ni’n cydnabod nad oes unrhyw ffyrdd cyflym a hawdd o wneud y newid cynaliadwy yr ydyn niei eisiau, ond gyda’n hymrwymiad, gweithio mewn partneriaeth, y gweithlu ymroddedig a medrus sydd eisoes ar waith, rwy’n hyderus ein bod yn goresgyn ein heriau presennol.

Hoffwn ddiolch i Gofal Cymdeithasol Cymru am ddatblygu’r cynllun hwn ac i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriadau, arolygon ac adborth cyffredinol sydd wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar gynnwys y cynllun hwn. Mae fy niolch mwyaf a'm diolch diffuant yn mynd i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud yn cefnogi pobl heddiw, ond hefyd yn plannu hadau a fydd yn tyfu i ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r hyn a wnewch yn cael effaith nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydych chi'n cael eich gwerthfawrogi ac mae'r hyn rydych chi'n ei wneud yn hanfodol i greu Cymru well.

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol

Cyflwyniad

Rydyn ni am i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol gael ei ysgogi, ei ymgysylltu a’i werthfawrogi, gyda’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl Cymru.

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn barod, fel y gwelwch yn ein hadroddiad blynyddol ar y cynllun cyflawni. Ond mae gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu heriau mawr o ran y gweithlu. Mae’n anodd denu pobl i’r sector, recriwtio digon o staff a chadw’r gweithlu presennol.

Mae’r gweithlu wedi ymrwymo i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i blant ac oedolion, a’u gofalwyr ar draws pob cymuned yng Nghymru. Ond rydych ci wedi dweud wrthym eich bod yn teimlo pwysau parhaus i gadw gwasanaethau i fynd, i gadw pobl yn ddiogel ac i ateb y galw cynyddol. Mae llesiant staff hefyd yn cael ei effeithio gan lefelau uwch o straen, blinder a gorweithio, ynghyd ag amodau gweithio gwael tybiedig a diffyg cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol.

Mae’n flaenoriaeth i’r holl randdeiliaid i weithio efo’i gilydd i ddatrys y materion hyn. Rhaid i ni weithredu’n gyflym i ddelio â’r heriau presennol a denu pobl newydd i’r gweithlu. Mae angen i ni greu’r amodau cywir i ganiatáu i bobl ddarparu gwasanaethau o safon.

Drwy gydol y gwaith ymgysylltu ac ymgynghori, ac yn yr arolwg o’r gweithlu, clywsom yn gyson fod angen gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu cyflogedig. Mae hyn yn cynnwys tâl, ond hefyd telerau ac amodau ehangach fel gweithio hyblyg a pholisïau ar gyfer meysydd fel teithio, hyfforddiant, salwch ac absenoldeb mamolaeth. Clywsom hefyd fod angen gwella statws y sector fel ei fod yn cael ei weld yn yr un ffordd ag iechyd. Mae angen llais cyfunol ar bob lefel ar hyn.

Mae’r cynllun cyflawni gweithlu hwn yn nodi amrywiaeth eang o gamau gweithredu i adeiladu ar y momentwm sydd wedi ei ddechrau.

Cyd-destun

Mae’r Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlinellu, am y tro cyntaf, gynllun 10 mlynedd o flaenoriaethau ar gyfer y gweithlu yng Nghymru. Mae’r cynllun cyflawni gweithlu 2024 i 2027 hwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma ac mae’n cynnwys datblygiadau sy’n seiliedig ar adborth a gawsom drwy ymgysylltu â’r sector, ein ymgynghoriad a'r arolwg o'r gweithlu. Mae’r cynllun yn disgrifio’r camau gweithredu a fydd yn helpu i symud y gweithlu gofal cymdeithasol yn ei flaen dros y tair blynedd nesaf.

Rydyn ni eisiau gwella gwasanaethau yng Nghymru yn unol ag uchelgeisiau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a chynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i ddarparu gofal yn nes at adref ac i wella ansawdd y gefnogaeth i blant ac oedolion o bob oed.

Roedd y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar y gweithlu ac ar ein cymunedau, yn enwedig y rheini sy’n dibynnu ar ofal a chymorth o ansawdd da, a’u gofalwyr. Mae mwy o bwysau ar y sector o ganlyniad i fwy o deuluoedd yn byw mewn tlodi, a mwy o alw oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio a disgwyliad oes uwch. Fe wnaethom ni ddysgu o’r arolwg cyntaf o’r gweithlu bod y pwysau hyn yn effeithio ar lefelau straen pobl yn y gwaith. O’r rhai a holwyd, dywedodd 28 y cant hefyd bod poeni am bethau y tu allan i’r gwaith yn achosi straen iddyn nhw wrth wneud eu gwaith.

Cyflogir y gweithlu gofal cymdeithasol gan amrywiaeth o ddarparwyr statudol, preifat a gwirfoddol, sy’n hanfodol i ddarparu gwasanaethau o safon. Mae gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl hefyd yn hanfodol ac yn chwarae rôl helaeth. Mae’r camau gweithredu sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun cyflawni gweithlu hwn, lle bo hynny’n berthnasol, yn berthnasol i ofalwyr maeth, gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl, cymaint ag y maent yn berthnasol i’r gweithlu mwy traddodiadol. Bydd angen i ni weithio gyda sefydliadau cenedlaethol ar gyfer gofalwyr maeth, gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl i fanteisio i’r eithaf ar botensial y camau hyn ochr yn ochr â rhaglenni gwaith presennol eraill.

Egwyddorion sylfaenol

Mae’r cynllun cyflawni gweithlu hwn yn adeiladu ar uchelgais y strategaeth i sicrhau cyfleoedd teg a chyfartal ar gyfer y gweithlu. Mae hefyd yn croesawu’r argymhellion a nodir yn adroddiad A yw Cymru’n Decach? y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Fe wnaethom ni sicrhau bod egwyddorion sylfaenol o ran llesiant y gweithlu, yr iaith Gymraeg a chynhwysiant wedi cael eu cynnwys yn holl gamau gweithredu’r strategaeth. Ein nod yw bod y tri pheth hyn yn parhau i fod wrth wraidd y camau yn y cynllun cyflawni gweithlu hwn.

Llesiant

Pan wnaethom ni ddatblygu’r strategaeth yn 2019, roedd tystiolaeth gynyddol a chryf eisoes yn cysylltu llesiant, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol â chanlyniadau gwell i’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth. Fe wnaeth y pandemig gynyddu lefel y pryder ynghylch llesiant y gweithlu ac mae ymdrechion sylweddol wedi cael eu gwneud yn ystod y tair blynedd diwethaf i ddarparu cymorth i staff.

Mae chwarter y camau gweithredu yn y cynllun cyflawni gweithlu hwn yn perthyn i’r thema gyntaf o weithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach. Mae’n amlwg o’r hyn a glywsom yn ystod ein gwaith ymgysylltu a’n hymgynghoriad, yn ogystal ag ystyried cymorth, bod angen i ni hefyd feddwl am sut rydyn ni’n creu’r amgylchedd cywir ar gyfer ymarfer. Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â materion pwysig fel llwythi gwaith, staffio digonol, a chynllunio’r gweithlu.

Gan hynny, mae llesiant dal wedi ei wreiddio ar draws holl themâu’r cynllun cyflawni gweithlu hwn ac mae’n cael ei gefnogi gan ‘Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu'.

Y Gymraeg

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydy hi i unigolion a’u gofalwyr gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith, ac mae gennym ni lawer o enghreifftiau cadarnhaol o bob rhan o’r gweithlu. Roedd eich adborth am y Gymraeg yn glir. Mae angen i ni newid canfyddiad pobl y dylai eu Cymraeg fod yn berffaith, a rhaid i ni helpu pobl i fagu hyder i siarad Cymraeg, heb boeni y byddant yn cael eu barnu am beidio â bod o safon digon uchel. Rydych chi am i ddysgu Cymraeg gael ei ystyried yn gyfle cadarnhaol a hwyliog sy’n gallu gwneud cyfraniad pwysig i’ch gwaith ac i’r bobl sy’n cael gofal a chymorth.

Yn yr un modd â’r egwyddorion pwysig eraill, sef cynhwysiant a llesiant, bydd y Gymraeg yn ganolog i'r ffordd y mae’r rhan fwyaf o weithredoedd yn cael eu cyflawni, felly bydd yn dod yn rhan o’r datrysiad yn hytrach nag yn ddatrysiad ar wahân.

Bydd y cynllun cyflawni gweithlu yn adeiladu ar ac yn adlewyrchu sylfeini Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), a Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, i greu gweithlu sy’n ymgysylltu, iach, hyblyg, ymatebol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol sy’n adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru, ei hunaniaeth ddiwylliannol a’r iaith Gymraeg.

Ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), roeddem yn rhan fawr o’r gwaith o ddatblygu camau gweithredu ar gyfer y gweithlu yn y cynllun pum mlynedd Mwy na Geiriau ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y gweithlu’n defnyddio’r Gymraeg cymaint â phosibl o ddydd i ddydd. Mae’r cynllun cyflawni gweithlu yn nodi’r camau y dylen ni eu cymryd i gefnogi’r uchelgais hwn ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei gwblhau i gefnogi gweithlu dwyieithog. Mae’r rhain yn cynnwys ein hymgyrch Gofalwn Cymru am y Gymraeg yn y gwaith, data am y gweithlu i ddeall yn well y sgiliau sydd eisoes yn bodoli yn y gweithlu, a’r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i gefnogi defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.

Cynhwysiant

Mae’r adborth a gawsom yn ystod ein gwaith ymgysylltu yn cadarnhau bod gwaith i’w wneud o hyd i wneud yn siŵr bod y sector gofal cymdeithasol yn gwbl gynhwysol. Mae angen i ni wneud mwy i gyrraedd y lleisiau nas clywir yn aml yn ein gweithlu, ac mae angen i ni hyfforddi ac addysgu pobl ar bob lefel am yr hyn y mae gwir gynhwysiant yn ei olygu.

Roedd llawer o ganfyddiadau cadarnhaol yn yr arolwg o’r gweithlu. Mae gan rai o’r grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli fwyaf, fel dynion, pobl o dan 35 oed a’r rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, y dyhead mwyaf i ddod yn arweinwyr y dyfodol. Ond, gwelsom hefyd fod 37 y cant o bobl gofrestredig wedi cael eu bwlio, eu gwahaniaethu neu eu harasio yn y gwaith. Rydyn ni’n gweithio i gael rhagor o wybodaeth am y profiadau hyn a sut gallwn ni ddarparu cymorth.

Rydyn ni wedi cyfrannu at nifer o gynlluniau ac wedi ymateb iddynt, a bydd hyn yn ein helpu i ddod yn sector mwy cynhwysol a thosturiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae’r cynllun cyflawni gweithlu hwn yn ategu uchelgeisiau’r cynlluniau a restrir uchod. Nod pob cam gweithredu yw helpu i greu diwylliant o gynhwysiant a thegwch ar draws ein gweithlu.

Proffil y gweithlu gofal cymdeithasol

Ffeithiau a ffigurau

Ein gweithlu gofal cymdeithasol yw ein hased mwyaf. Mae’n hanfodol bod gennym wybodaeth gyflawn o ansawdd uchel am y gweithlu, er mwyn helpu i wella’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd cynllunio gwell yn gwella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Rydyn ni’n cydnabod bod angen i ni wella ein dealltwriaeth o’n gweithlu a bydd angen i ni ddatblygu dulliau dadansoddi a thechnegau modelu mwy soffistigedig i gefnogi’r gwaith o gynllunio, datblygu a chynhyrchiant y gweithlu ar draws gofal cymdeithasol. Ymdrinnir â’r gwaith hwn yn Thema 7: Cyflenwad a siâp y gweithlu.

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ddefnyddio data o’r casgliad data diweddaraf am y gweithlu. Oni nodir yn wahanol, mae’n giplun o fis Mawrth 2022.

Demograffeg y gweithlu

  • Ym mis Mawrth 2022, cyfanswm y gweithlu gofal cymdeithasol oedd 84,134 o bobl. Mae hyn saith y cant yn llai na 2021.
  • Ym mis Mawrth 2024, roedd 60,600 o bobl yn rhan o’r gweithlu proffesiynol sy’n cael ei reoleiddio.
  • Mae’r gweithlu’n parhau i fod yn ferched yn bennaf (82 y cant), gyda gweithwyr gwrywaidd yn parhau i fod yn lleiafrif (18 y cant).
  • Mae proffil oedran y gweithlu yn cael ei ddosbarthu drwy’r amrediad oedran bywyd gwaith gyfan, gyda’r gyfran uchaf (25 y cant) yn 46 i 55 oed.
  • Dim ond wyth y cant o’r gweithlu sydd rhwng 16 a 25 oed. Mae tri y cant yn 65 oed neu’n hŷn.
  • Mae gan ddarparwyr gwasanaethau a gomisiynir weithlu iau yn gyffredinol o’i gymharu â darparwyr awdurdodau lleol.
  • O safbwynt cynllunio’r gweithlu, gall gweithwyr dros 55 oed ymddeol o fewn y deng mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd mae’r categori oedran hwn yn cyfrif am bron i chwarter (23 y cant) y gweithlu gofal cymdeithasol.
  • Mae ethnigrwydd y gweithlu gofal cymdeithasol yn adlewyrchu poblogaeth Cymru yn fras. Yr eithriad yw cyfran y gweithwyr Du (neu Ddu Prydeinig), sydd oddeutu dwywaith a hanner yn fwy nag ym mhoblogaeth Cymru gyfan.
  • Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol bellach yn llai amrywiol o ran ethnigrwydd, gyda 95 y cant o weithwyr yn dweud eu bod yn wyn yn 2022, o’i gymharu ag 89 y cant yn 2021.
  • Mae tua 29 y cant o’r gweithlu’n gallu deall rhywfaint o Gymraeg, sy’n debyg iawn i boblogaeth Cymru gyfan. Mae data a gasglwyd o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn 2022 yn nodi bod 26 y cant o’r boblogaeth yng Nghymru sy'n 16 oed neu’n hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Cyflogaeth

  • Cyflogir y rhan fwyaf (80 y cant) o’r gweithlu ar gontractau parhaol ac maen nhw’n gweithio’n llawn amser (48 y cant). Diffinnir amser llawn fel 36 awr neu fwy yr wythnos, at ddibenion casglu data am y gweithlu.
  • Mae cyfran ychydig yn uwch o weithwyr yn gweithio hyd at 16 awr yr wythnos yng ngwasanaethau awdurdodau lleol (18 y cant) o’i gymharu â gwasanaethau a gomisiynir (11 y cant). 
  • Cyflogir un ar ddeg y cant o’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gontractau dim oriau.

Recriwtio a chadw staff

  • Roedd 5,323 o swyddi gwag yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn 2022, a oedd yn cynrychioli naw y cant o gyfanswm y gweithlu.
  • Mae amcangyfrif o nifer y swyddi gwag yn y gweithlu wedi gostwng pedwar y cant ers 2021, pan oedd y ffigwr yn 5,581.
  • Er bod y rhan fwyaf o swyddi gwag (62 y cant) ymysg darparwyr wedi eu comisiynu, mae’r swyddi gwag a brofir gan awdurdodau lleol (38 y cant) wedi cynyddu chwech y cant o’i gymharu â 2021.
  • Mae’r swyddi gwag hyn yn gefndir i’r twf disgwyliedig sydd ei angen i ateb y galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol oherwydd y newid ym mhroffil demograffig pobl sy’n byw’n hirach, a ffocws ar ddarparu mwy o ofal yn nes at adref.

Gweithwyr gofal

  • Ym mis Mawrth 2022, roedd 31,344 o weithwyr gofal yn gweithio yng Nghymru, a oedd yn cyfrif am 51 y cant o’r holl swyddi llawn yn y sector gofal cymdeithasol.
  • Mae’r rhan fwyaf yn gweithio mewn gwasanaethau preswyl (47 y cant) a gofal cartref (30 y cant), gydag 17 y cant yn gweithio mewn gwasanaethau byw â chefnogaeth a chwech y cant mewn gwasanaethau dydd.
  • Nid oedd pob darparwr a gomisiynwyd yn cymryd rhan yn y gwaith o gasglu data gweithlu blynyddol (roedd cyfradd ymateb o 68 y cant), felly mae nifer y gweithwyr gofal a nodwyd yn yr arolwg blynyddol yn sicr o fod yn is. O’i gymharu, 45,000 oedd nifer y gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ym mis Mai 2023.
  • Mae’r rhaniad rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr gofal yn cyfateb yn fras i’r hyn a welwn ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan yng Nghymru, gyda menywod yn llenwi’r rhan fwyaf o swyddi (81 y cant). Ond, mae'n ddwbl y gyfran gyfartalog o ddynion sy’n gweithio mewn lleoliadau neu wasanaethau gofal preswyl i blant (38 y cant).
  • Yn gyffredinol, mae proffil oedran gweithwyr gofal wedi ei ddosbarthu’n gyfartal drwy’r amrediad oedran bywyd gwaith, 26 i 65 oed. Mae cyfran is o dan 25 oed (11 y cant) a thros 65 oed (tri y cant). O ran y math o wasanaeth/lleoliad, mae proffil gweithiwr gofal iau o fewn lleoliadau/gwasanaethau gofal preswyl i blant, gyda mwy na thraean (37 y cant) o weithwyr gofal rhwng 26 a 35 oed.
  • Mae’r rhan fwyaf o weithwyr gofal yn gweithio’n rhan-amser, hyd at 35 awr yr wythnos (65 y cant). O’i gymharu â 2021 (59 y cant), mae’r gyfran sy’n gweithio’n rhan-amser wedi cynyddu ychydig.
  • Cyflogir dros dri chwarter (77 y cant) ar gontract parhaol, sydd yr un fath â 2021.
  • Mae cyfran y gweithwyr gofal sy’n gweithio ar gontract dim oriau wedi gostwng ychydig o 19 y cant yn 2021 i 16 y cant yn 2022.
  • Yn 2022, roedd 3,205 o swyddi gwag ar gyfer gweithwyr gofal, sy’n cynrychioli cyfradd swyddi gwag o 10 y cant o’r gweithlu gweithwyr gofal. O’r swyddi gwag hyn, roedd 91 y cant yn swyddi gwag i’w llenwi a chafodd naw y cant eu gadael yn fwriadol heb eu llenwi gan y cyflogwr.
  • Mae’r data’n awgrymu bod 5,329 o weithwyr gofal wedi ymuno â’r sector yn 2022 a 5,595 wedi gadael, gan roi gostyngiad net o 266 o staff.
  • Mae gan 75 y cant o weithwyr gofal y cymwysterau sydd eu hangen i weithio yn y sector, mae 22 y cant yn gweithio tuag at y cymwysterau gofynnol ac mae pedwar y cant yn gweithio drwy brentisiaeth.

Gweithwyr cymdeithasol

  • Ym mis Medi 2023, roedd 6,736 o weithwyr cymdeithasol wedi cofrestru gyda ni. Mae hyn yn gynnydd o 185 o bobl, neu dri y cant, o’i gymharu â mis Medi 2022.
  • Mae’r twf sylweddol yn nifer y gweithwyr cymdeithasol cofrestredig yn cyd-fynd â buddsoddiad awdurdodau lleol mewn ‘datblygu eu gweithwyr cymdeithasol eu hunain’.
  • Mae cymharu nifer y gweithwyr cymdeithasol a gofrestrwyd yng Nghymru â nifer y gweithwyr cymdeithasol o’r casgliad data gweithlu blynyddol yn awgrymu mai dim ond tua 62 y cant o weithwyr cymdeithasol cofrestredig sy’n ymarferwyr a rheolwyr sy’n gweithio ar achosion.
  • Mae’r rhaniad rhwng y rhywiau yn achos gweithwyr cymdeithasol yn cyfateb yn fras i’r hyn a welwn ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan yng Nghymru. Roedd menywod yn gweithio yn y rhan fwyaf o swyddi ym mis Medi 2023, sef 83 y cant.
  • Oedran cyfartalog gweithiwr cymdeithasol cofrestredig yw 46 oed. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol (55 y cant) rhwng 40 a 60 oed, sy’n llai nag yn 2021 (57 y cant). Mae traean (33 y cant) o dan 40 oed, ac mae 12 y cant dros 60 oed.
  • O ran ethnigrwydd, mae’r mwyafrif (89 y cant) yn wyn, pump y cant yn Ddu, dau y cant yn Asiaidd a dau y cant o ethnigrwydd cymysg.
  • Awdurdodau lleol sy’n cyflogi’r rhan fwyaf (66 y cant). Cyflogir deuddeg y cant gan asiantaethau a chyflogir saith y cant arall gan asiantaethau yn ychwanegol at eu prif gyflogaeth.
  • Ym mis Mawrth 2022, roedd tua un rhan o bump (22 y cant) o’r holl weithwyr cymdeithasol yn cael eu cyflogi’n rhan-amser, sydd yr un fath ag yn 2021. Roedd y mwyafrif (90 y cant) yn cael eu cyflogi ar gontract parhaol.
  • Ym mis Mawrth 2022, roedd 562 o swyddi gwag i weithwyr cymdeithasol, sy’n cynrychioli cyfradd swyddi gwag o 13 y cant o’r gweithlu gweithwyr cymdeithasol ac yn gynnydd canrannol o 17 y cant o’i gymharu â 2021. O’r swyddi gwag hyn, roedd 145, neu 26 y cant, yn cael eu cadw’n wag, sy’n golygu eu bod yn cael eu gadael yn fwriadol heb eu llenwi gan y cyflogwr. Mae hyn yn gynnydd bach (dau y cant) ers y flwyddyn flaenorol.
  • Mae’r data’n awgrymu bod 584 o weithwyr cymdeithasol wedi ymuno â thimau gwaith cymdeithasol ym mis Mawrth 2022 a bod 631 wedi gadael, gan roi gostyngiad net o 47 o staff.
  • Dywedodd bron i hanner (46 y cant) yr holl weithwyr cymdeithasol eu bod wedi cymhwyso ers tair blynedd neu fwy. Roedd 17 y cant arall mewn rolau uwch ymarferwyr a 18 y cant mewn rolau rheoli. Gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yw pedwar y cant o gyfanswm y gweithwyr cymdeithasol cofrestredig a gyflogir mewn gwasanaethau rheng flaen.  
  • Mae gan 49 y cant o weithwyr cymdeithasol cofrestredig rywfaint o allu yn y Gymraeg. Mae’r ffigwr hwn wedi codi dau y cant ers 2021.
  • Dyma beth ddywedodd gweithwyr cymdeithasol wrthym am eu swydd yng ngwanwyn 2023:
    • dechreuodd 76 y cant weithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl
    • mae 38 y cant yn anfodlon â’u swydd bresennol
    • dywed 77 y cant fod cael gormod o waith neu beidio â chael digon o amser i'w wneud yn achosi straen yn y gwaith
    • mae 34 y cant o’r farn bod y staff iawn yn eu lle i ddarparu gwasanaethau
    • nid yw 24 y cant yn teimlo’n ddiogel yn y gwaith
    • mae 40 y cant o’r farn bod rhwystrau rhag cael mynediad i hyfforddiant.

Sut byddwn ni’n cyflawni’r cynllun hwn

Mae’r cynllun cyflawni gweithlu wedi’i strwythuro o dan bob un o saith thema’r strategaeth gweithlu.

  1. Gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach
  2. Denu a recriwtio
  3. Modelau gweithlu di-dor
  4. Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol
  5. Addysg a dysgu rhagorol
  6. Arweinyddiaeth ac olyniaeth
  7. Cyflenwad a siâp y gweithlu

Ar gyfer pob thema rydyn ni wedi crynhoi:

  • y prif faterion
  • y cynnydd a wnaed hyd yma
  • ein huchelgais
  • y prif feysydd rydyn ni’n disgwyl gweld effaith arnynt
  • y camau pwysicaf i wireddu ein huchelgais ar gyfer 2030 a sut byddwn yn eu monitro.

Cyn pob set o gamau gweithredu, rydyn ni wedi crynhoi’r hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym ni yn ystod ein gwaith ymgysylltu, ein hymgynghoriad a’n harolwg o’r gweithlu, felly mae’n gosod y cyd-destun ar gyfer y camau gweithredu. Pan fyddwn ni’n dweud “ni”, neu “chi”, rydyn ni’n golygu pawb yn y sector gofal cymdeithasol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae hyn yn dangos cyfrifoldeb ar y cyd i gyflawni uchelgeisiau’r strategaeth.

Mae'r cynllun cyflawni gweithlu yn uchelgeisiol a bydd angen i ni weithio gydag eraill i gyflawni’r camau gweithredu a nodwyd. Mae llawer yn adeiladu ar gamau gweithredu presennol ac mae’n amlwg o fewn cylch gwaith sefydliadau, i’w cefnogi a helpu i’w symud ymlaen. Mae rhai camau gweithredu’n newydd ac wedi cael eu nodi fel rhai sy’n hanfodol er mwyn cyflawni’r uchelgais 10 mlynedd. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd ac mewn partneriaeth ar bob lefel. Mae’r cynnydd a wnaed hyd yma wedi’i seilio ar gydweithio effeithiol mewn amrywiaeth o feysydd, a fydd yn parhau drwy gam nesaf y ddarpariaeth.

Rydyn ni eisiau parhau i ganolbwyntio ar effaith.

Cipolwg ar ein uchelgeisiau

Edrychwch ar ein uchelgeisiau cyffredinol, a gwelwch sut gall arweinwyr strategol fonitro i weld a ydym yn gwneud cynnydd.

Byddwn ni’n sefydlu grŵp gweithredu strategol cenedlaethol i:

  • oruchwylio effaith ac ychwanegu mesurau pellach
  • cadw trac ar gynnydd
  • datrys heriau
  • nodi sut mae bwrw ymlaen â chamau gweithredu newydd a phwy sy’n gallu gwneud hyn.

Bydd y grŵp hwn hefyd yn penderfynu ar flaenoriaethau, os yw capasiti neu adnoddau ariannol y sector yn golygu na allwn fwrw ymlaen â’r holl gamau gweithredu o fewn yr amserlenni a gynlluniwyd.

Mae’r camau gweithredu yn adeiladu ar feysydd y gallwn eu datblygu’n effeithiol mewn partneriaeth â’n cydweithwyr ym maes iechyd. Mae’r meysydd cydweithio hyn yn cynnwys llesiant y gweithlu, cynllun iechyd meddwl y gweithlu, arweinyddiaeth, a datblygu’r gweithlu i gefnogi gofal a chymorth integredig.

Mae camau gweithredu’r strategaeth gweithlu hefyd wedi arwain at ddatblygu cynlluniau gweithlu penodol ar gyfer:

Mae’r cynlluniau hyn yn helpu i gefnogi nodau’r strategaeth gweithlu ac mae ganddyn nhw gamau gweithredu’n gyffredin, fel dulliau llesiant, denu a recriwtio. Maen nhw hefyd yn cynnwys camau gweithredu sy’n benodol i rannau perthnasol o’r sector.

Dogfennau technegol

Mae’r dogfennau isod, sydd ar gael ar gais, yn cynnwys gwybodaeth gefndir a fu o gymorth i ni wrth ddatblygu’r cynllun cyflawni gweithlu.

  • Ymgysylltu ac ymgynghori – sut y buom yn gweithio gyda’r sector i ddeall eu blaenoriaethau a sut mae wedi helpu i lunio’r camau gweithredu yn y cynllun hwn.
  • Sganio’r gorwel – y fframweithiau polisi a deddfwriaethol a ystyriwyd gennym wrth bennu’r camau gweithredu yn y cynllun.

Rydyn ni’n cydnabod y bydd rhai cydweithwyr am gael cynlluniau gweithredu manylach, felly byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol sy’n cynnwys gwybodaeth am y gweithgareddau sy’n cael eu datblygu. Mae’r fersiwn ddiweddaraf ar gael ar dudalennau gwe ein strategaeth gweithlu.

1. Gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Mae’r sector gofal cymdeithasol wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi lle bynnag mae’n gweithio. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod cymorth a mesurau diogelu ar waith er mwyn i bobl allu dod yn aelodau o weithlu cynhwysol a pharhau i fod yn aelodau gwerthfawr ohono.

Yn ystod ein gwaith ymgysylltu i ddatblygu’r cynllun cyflawni gweithlu hwn, clywsom alwadau cryf i wella diwylliannau yn y gweithle fel bod gofal cymdeithasol yn weithle cynhwysol a chyfartal, lle nad yw gwahaniaethu yn cael ei oddef o gwbl. Mae hyn yn cynnwys cael cynigion contract sy’n ystyried y patrymau gwaith a’r amgylchiadau sydd orau gan bobl, gan gefnogi’r hyn sy’n bwysig i unigolion sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r Cynllun Gweithredu LHDTCi Gymru, Cymraeg 2050 a thrwy waith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.

Pa gynnydd sydd wedi ei wneud?

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym

Ein huchelgais erbyn 2030

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2024 a 2027

Sut byddwn ni’n mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu

2. Denu a recriwtio

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Mae strategaeth y gweithlu yn disgrifio ein huchelgais i newid yn gadarnhaol sut mae’r cyhoedd yn gweld gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ac i’r sector gofal cymdeithasol fod yn gyflogwr enghreifftiol. Dechreuodd 63 y cant o’r gweithlu weithio yn y sector oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae’r gwerthoedd hyn yn hanfodol ar gyfer darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Rydyn ni eisiau denu amrediad digonol ac amrywiol o bobl i yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, sy’n adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt. Rydyn ni hefyd eisiau cefnogi uchelgais Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau, ac i ofal cymdeithasol barhau i fod yn rhan bwysig o’r economi sylfaenol ledled Cymru.

Mae cyflogwyr yn dal i adrodd am heriau o ran recriwtio a chadw’r gweithlu. Yn arolwg gweithlu Gofal cymdeithasol 2023, dywedodd 71 y cant ei bod yn anodd recriwtio ymgeiswyr i’r sector oherwydd niferoedd isel ac ansawdd y ceisiadau. Yn yr adroddiad ar ddata’r Gweithlu a gynhaliwyd yn 2022, roedd 5,323 o swyddi gwag yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn cynrychioli naw y cant o gyfanswm y gweithlu. Ar gyfer yr un cyfnod, mae’r data’n awgrymu bod 5,329 o weithwyr gofal wedi ymuno â’r sector a 5,595 wedi gadael, gan roi gostyngiad net o 266 o staff. Ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, y ffigurau oedd 584 o weithwyr cymdeithasol yn ymuno â thimau gweithwyr cymdeithasol a 631 yn gadael, gan roi gostyngiad net o 47 o staff.

Pa gynnydd sydd wedi ei wneud?

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym

Ein huchelgais erbyn 2030

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2024 a 2027

Sut byddwn ni’n mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu

3. Modelau gweithlu di-dor

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ein huchelgais yng Nghymru yw darparu gofal mor agos â phosibl at y cartref, fel y disgrifir mewn datblygiadau polisi gan gynnwys Cymru Iachach ac Ailgydbwyso gofal cymdeithasol. Mae hi wedi bod yn anodd cyflawni hyn gan fod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n cael eu hatgyfeirio ac sy’n aros yn yr ysbyty, yn ogystal â mwy o alw am wasanaethau mewn cymunedau.

I oedolion sy’n byw yn ein cymunedau, mae cysylltiad hollbwysig rhwng gofal cymdeithasol a gwasanaethau fel gofal iechyd sylfaenol a thai, sy’n caniatáu i unigolion fyw bywydau mor annibynnol â phosibl.

Ar gyfer plant sy’n agored i niwed, y prif nod bob amser fydd helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn dibynnu ar yr holl wasanaethau cyhoeddus sy’n cynorthwyo teuluoedd. Lle nad yw’n bosibl i deuluoedd aros gyda’i gilydd, mae angen amgylchedd diogel a chariadus ar blant a phobl ifanc i’w alw’n gartref, yn ogystal â mynediad at gymorth therapiwtig. Mae rhaglen trawsnewid gwasanaethau plant sylweddol ar y gweill sy’n ceisio cael gwared ar elw, datblygu cynnig eiriolaeth cyson, darparu arferion mwy cyson a gwella rôl rhieni corfforaethol.

Wrth i’r gwaith hwn esblygu, byddwn ni’n parhau i nodi datrysiadau ar gyfer y modelau a’r cynlluniau gwasanaeth newydd hyn. Mae’n debygol y bydd y newid hwn o ran diwylliant a darparu gwasanaethau yn digwydd gam wrth gam. Ond, mae angen i ni fod yn barod i gael gweithlu a gwirfoddolwyr digonol a medrus ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i wneud newidiadau, i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i unigolion sy’n defnyddio gofal a chymorth a’u gofalwyr.

Pa gynnydd sydd wedi ei wneud?

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym

Ein huchelgais erbyn 2030

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2024 a 2027

Sut byddwn ni’n mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu

4. Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Strategaeth ddigidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sydd â’r tri phrif nod, sef:

  • trawsnewid ein sgiliau digidol a’n partneriaethau
  • adeiladu llwyfannau digidol sy’n diwallu anghenion Cymru
  • gwneud gwasanaethau’n ddigidol yn gyntaf.

Mae’r nod y “bydd gan ein gweithlu y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i wneud y gorau o wasanaethau digidol ac i wella gofal” yn cyd-fynd ag uchelgais strategaeth y gweithlu i greu gweithlu sy’n barod ar gyfer y byd digidol.

Yn ei adroddiad “Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru” cydnabu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Iechyd a Gofal Cymdeithasol anhawster a chymhlethdod y sector gofal cymdeithasol a’r heriau y mae’n eu hwynebu o ran sgiliau digidol a chapasiti digidol. Mae angen i ni barhau i feithrin a datblygu dealltwriaeth a hyder y gweithlu wrth ddefnyddio atebion digidol, gan gadw ffocws clir ar y risg o allgáu digidol os nad ydym yn adlewyrchu ar anghenion unigol.

Pa gynnydd sydd wedi ei wneud?

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym

Ein huchelgais erbyn 2030

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2024 a 2027

Sut byddwn ni’n mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu

5. Addysg a dysgu rhagorol

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Er mwyn darparu gofal a chymorth o safon, mae angen gweithlu medrus a chymwys arnom ni. Mae hyn yn golygu ein bod angen llwybrau addysg a hyfforddiant clir, sy’n ddeniadol ac yn hygyrch i’n poblogaeth a’n cymunedau i ymuno â’r proffesiwn. Mae angen i ni hefyd gefnogi’r gwaith parhaus o ddysgu a datblygu’r gweithlu i wella eu sgiliau, gan gefnogi eu datblygiad a’u cadw yn y sector.

Mae Cymru wedi ymrwymo i wella’r ddarpariaeth ddysgu. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yn cael ei lansio yn 2024 ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r comisiwn i ddatblygu addysg a dysgu rhagorol ar gyfer y sector.

Yn yr arolwg o’r gweithlu 2023, dywedodd 79 y cant o’r rhai a ymatebodd eu bod nhw’n cael yr hyfforddiant priodol i’w cynorthwyo yn eu rôl. Mae 80 y cant o’r gweithlu’n awyddus i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth, ac mae angen i ni gefnogi dysgu a datblygu parhaus.

Pa gynnydd sydd wedi ei wneud?

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym

Ein huchelgais erbyn 2030

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2024 a 2027

Sut byddwn ni’n mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu

6. Arweinyddiaeth ac olyniaeth

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Mae arweinyddiaeth yn hanfodol er mwyn creu’r amgylchedd cywir i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydyn ni’n gwybod bod gan sefydliadau gofal cymdeithasol sy’n ymarfer ac yn sefydlu arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol ar bob lefel weithlu sy’n ymgysylltu mwy, ac mae hyn yn arwain at well canlyniadau i bobl.

Mae angen i raglenni dysgu a datblygu helpu arweinwyr i lywio drwy systemau cymhleth i greu’r amgylcheddau iawn i bobl weithio’n ddiogel ac yn effeithiol i ymateb i anghenion unigolion mewn cymunedau.

Mae angen i ni gefnogi darpar reolwyr i gael mynediad at ddysgu a datblygu sy’n helpu i ddatblygu gyrfa ac uwchsgilio, gan gydnabod bod mesurau cyni wedi cael gwared ar haenau o sefydliadau y gallai darpar reolwyr fod wedi eu llenwi. Mae angen i ni ystyried sut rydyn ni’n cyflwyno dull arbrofol o ddatblygu rheolaeth ac arweinyddiaeth.

Pa gynnydd sydd wedi ei wneud?

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym

Ein huchelgais erbyn 2030

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2024 a 2027

Sut byddwn ni’n mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu

7. Cyflenwad a siâp y gweithlu

Eicons addurniadol ar gyfer strategaeth y gweithlu

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru ganolbwyntio ar y tymor hir a gweithio’n well gyda phobl a chymunedau. Rydyn ni’n gwybod y bydd angen i fwy o bobl ddefnyddio gofal cymdeithasol dros yr 20 mlynedd nesaf, felly mae’n rhaid gwreiddio gwasanaethau ataliol, er mwyn i ni allu ymateb yn well i anghenion pobl a lleihau’r galw. Mae hefyd angen systemau cynllunio gweithlu effeithiol i ateb y galw hwn, yn seiliedig ar gynllunio a modelu gwasanaethau.

Nid yw hyn yn ymwneud â chyflogaeth yn unig. Bydd ffyrdd gwell o gynllunio’r gweithlu yn ein helpu i benderfynu sut rydyn ni’n comisiynu cyfleoedd addysg a dysgu. O ganlyniad, byddwn ni’n gallu recriwtio o boblogaeth sy’n bodoli eisoes a bydd gennym ddigon o bobl yn y system addysg i ateb gofynion y dyfodol.

Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o wella sut rydyn ni’n casglu ac yn adrodd ar ddata’r gweithlu, a sut mae’r data’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau, a phenderfyniadau polisi i ategu’r gwaith o gynllunio’r gweithlu yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Ceir cynlluniau uchelgeisiol ar lefel leol a rhanbarthol i ddatblygu gofal seiliedig ar le sy’n canolbwyntio ar y dinesydd. Ochr yn ochr â’r rhain, mae ymrwymiadau cenedlaethol fel y datganiad ansawdd integredig: Pobl hŷn a phobl sy’n byw gydag eiddilwch ac ymrwymiadau fel rhan o’r rhaglen Trawsnewid gwasanaethau plant, yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar gynllunio’r gweithlu ledled Cymru, er mwyn i ni allu ymateb i anghenion a newidiadau yn ein cymunedau.

Mae angen i’n cynlluniau i'r gweithlu allu cefnogi ac ymateb i’r newidiadau hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth yn Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi a datblygu’r defnydd o ddata yn y sector.

Pa gynnydd sydd wedi ei wneud?

Beth wnaethoch chi ddweud wrthym

Ein huchelgais erbyn 2030

Camau gweithredu’r strategaeth gweithlu rhwng 2024 a 2027

Sut byddwn ni’n mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu

Fersiwn Word Cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027

Mae'r cynllun cyflawni gweithlu hefyd ar gael fel dogfen Word. Gallwch ei lawrlwytho isod.

Cyhoeddwyd gyntaf: 6 Mehefin 2024
Diweddariad olaf: 7 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (187.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch