Jump to content
Cynllun newydd i gefnogi cyflogwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn eu sefydliadau
Newyddion

Cynllun newydd i gefnogi cyflogwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn eu sefydliadau

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n lansio cynllun newydd i helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg o fewn eu sefydliadau.

Byddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg i gynnig cymorth gyda chynllunio’r gweithlu i ddiwallu anghenion iaith Gymraeg pobl sy’n derbyn gofal a chymorth.

Rydyn ni’n chwilio am tua 20 o gyflogwyr i ymuno â’r cynllun peilot. Byddwn ni’n asesu’r sefyllfa bresennol o fewn eich sefydliad ac yn defnyddio ein pecyn cymorth iaith Gymraeg i gynnig cefnogaeth a chreu cynllun gweithredu pwrpasol i gwrdd â’ch nodau. Gall y cynllun hyn ganolbwyntio ar feysydd fel sut i recriwtio mwy o staff sy’n siarad Cymraeg neu sut i helpu staff presennol i feithrin eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd Sandie Grieve, ein Swyddog Arweiniol Datblygu a Chysylltu’r Sector: “Rydyn ni’n awyddus i helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddiwallu anghenion pobl sydd am gael mynediad at ofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Trwy weithio’n agos gyda chi a chreu cynlluniau penodol ar gyfer eich sefydliad gallwn ni helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau rydych chi’n eu hwynebu o ran recriwtio a hyfforddi.”

I gofrestru ar gyfer y rhaglen neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch sandie.grieve@socialcare.wales erbyn dydd Gwener, 20 Hydref.