Jump to content
Adroddiad newydd yn helpu i lunio ein cefnogaeth i arloesi digidol
Newyddion

Adroddiad newydd yn helpu i lunio ein cefnogaeth i arloesi digidol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad newydd wedi tynnu sylw at fylchau yn y gefnogaeth bresennol i arloesi digidol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fe wnaethom gomisiynu Basis i gynhyrchu’r adroddiad i helpu i arwain ein camau gweithredu i gefnogi arloesedd yn y sector.

Mae Basis yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau anllywodraethol ac elusennau i'w helpu i oresgyn heriau cymhleth, trwy ymgynghori, anogaeth a hyfforddi.

Treuliodd Basis dri mis yn gweithio gyda ni a’n partneriaid i gael gwell syniad o’r cymorth presennol ar gyfer arloesi digidol yng Nghymru a ledled y DU. Adolygodd yr hyn sydd wedi gweithio a ble mae’r bylchau yng Nghymru.

Defnyddiodd yr adroddiad ddadansoddiad yn seiliedig ar ymchwil desg, cyfweliadau â rhanddeiliaid ac arbenigwyr, a ‘chronfa ddata ddigidol’ newydd o'r cymorth sydd ar gael. Fe wnaethom greu'r gronfa ddata i gefnogi'r adolygiad hwn.

Beth ddysgon ni

  • Mae diffyg arweinyddiaeth strategol yn rhwystro arloesi digidol mewn gofal cymdeithasol, gyda thuedd tuag at fentrau sy'n canolbwyntio ar iechyd ac adnoddau cyfyngedig mewn gofal cymdeithasol.
  • Nid oes gan y gweithlu gofal cymdeithasol y sgiliau digidol sydd eu hangen i wneud y gorau o'r technolegau sydd ar gael.
  • Mae angen gwell prosesau cydgysylltu ac adolygu i osgoi dyblygu ymdrech, ac i hyrwyddo defnydd ehangach o dechnolegau digidol.
  • Mae cynhwysiant digidol yn hanfodol, a dylai rhanddeiliaid a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth fod yn rhan o’r gwaith o lunio a chefnogi twf arloesi digidol.

Argymhellion

Mae gennym rôl bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a chefnogi arloesi digidol yn y sector. Mae'r adroddiad yn argymell ein bod yn:

  • blaenoriaethu cynhwysiant digidol a sicrhau bod holl feysydd gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys yn ddigidol
  • cryfhau ein rôl wrth lunio ac annog arloesi digidol drwy nodi’r problemau mwyaf a chynnwys staff gofal cymdeithasol a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth
  • defnyddio’r hyn yr ydym yn ei ddysgu o ddata i arwain ein gwaith ar arloesi digidol
  • defnyddio’r gronfa ddata ddigidol newydd i asesu a datblygu’r system o gymorth ar gyfer arloesi digidol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru ac eraill i fynd i’r afael â bylchau sgiliau’r gweithlu drwy archwiliad sgiliau a rhaglenni hyfforddi priodol
  • hyrwyddo cyfranogiad rhanddeiliaid a chyd-gynhyrchu mewn mentrau arloesi digidol yn y dyfodol.

Darganfod mwy

Cysylltwch ag ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech gopi o adroddiad llawn Basis.

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddarllen blog am gynhwysiant digidol, a ysgrifennwyd gan Aimee Twinberrow, ein harweinydd arloesi digidol.