1
00:00:07,680 --> 00:00:11,130
Y cam cyntaf ar gyfer y prosiect oedd
lansio arolwg ymgysylltu â gweithwyr,
2
00:00:11,130 --> 00:00:15,219
a oedd yn cynnwys llawer o gwestiynau
am sut beth yw gweithio yma
3
00:00:15,219 --> 00:00:18,270
i ganfod barnau a theimladau pobl ynglŷn
â Seren Support Services –
4
00:00:18,270 --> 00:00:19,890
y da, y drwg a'r hyll.
5
00:00:19,890 --> 00:00:23,160
Yna gwnaethom ni ddadansoddi'r canlyniadau
gan chwilio am bethau diriaethol
6
00:00:23,160 --> 00:00:25,210
y gallwn eu cymhwyso at brosiectau.
7
00:00:25,210 --> 00:00:28,990
Y peth cyntaf i'w wneud oedd cyfathrebu canlyniadau’r
arolwg gyda phobl
8
00:00:28,990 --> 00:00:31,600
i ddangos ein bod wedi gwrando arnynt.
9
00:00:31,600 --> 00:00:36,430
Nesaf, yr ail ran oedd adnabod
beth yn union roedden nhw am i ni weithio
10
00:00:36,430 --> 00:00:38,450
arno
ac roedd un o'r pethau allweddol a gododd
11
00:00:38,450 --> 00:00:42,982
yn gysylltiedig â datblygu gyrfa,
a deall pa gyfleoedd oedd ar gael o fewn y
12
00:00:42,982 --> 00:00:45,240
sefydliad hwn
i bobl gael gyrfa — ac nid swydd yn unig.
13
00:00:45,240 --> 00:00:52,170
Y bobl yw ein hased mwyaf yma yn Seren Support,
felly roedden ni wir am ganolbwyntio ar recriwtio
14
00:00:52,170 --> 00:00:54,900
a chadw staff,
achos dyma ffactorau hollbwysig i ni
15
00:00:54,900 --> 00:00:59,268
ac rydyn ni’n frwdfrydig ynglŷn â helpu
i ddatblygu unigolion.
16
00:00:59,268 --> 00:01:02,480
Mae gennym ni unigolion sy’n gweithio ar
lefel prentisiaeth
17
00:01:02,480 --> 00:01:07,310
gyda’r cymhwyster addas
ac felly dyna gyfle ynddo’i hun.
18
00:01:07,310 --> 00:01:10,850
Hefyd, bydd ein cefnogaeth ychwanegol, hyfforddiant
a mentora
19
00:01:10,850 --> 00:01:16,360
yn eu helpu nhw yn y dyfodol.
20
00:01:18,000 --> 00:01:21,715
Mewn sector lle cynigir cyfraddau cyflog tebyg
iawn
21
00:01:21,715 --> 00:01:24,567
a lle mae'r holl rolau'n debyg iawn hefyd,
rydyn ni am fod yn wahanol
22
00:01:24,567 --> 00:01:28,040
ac am ddangos i bobl y gallwn ni gynnig gyrfaoedd
yn y sector.
23
00:01:28,040 --> 00:01:32,983
Rydyn ni am geisio annog pobl i aros yma
achos ein bod ni'n gyflogwr sy'n trin pobl
24
00:01:32,983 --> 00:01:35,920
yn dda ac yn deg,
ac sy’n buddsoddi yn eu datblygiad.
25
00:01:35,920 --> 00:01:39,919
Dylai fod gan bawb lwybrau gyrfa clir.
26
00:01:39,919 --> 00:01:44,701
Cadw staff yw'r agwedd fwyaf y gallwn ni ganolbwyntio
arno
27
00:01:44,701 --> 00:01:49,666
yn ystod y cyfnod heriol hwn,
achos os ydych chi’n dechrau fel gweithiwr
28
00:01:49,666 --> 00:01:52,709
gofal,
gallwch chi hefyd fynd ymlaen yn eich gwaith
29
00:01:52,709 --> 00:01:56,929
a dwi’n credu mai dyna sy'n rhoi eglurder, cymhelliant ac uchelgais i bawb.