Cafodd y safonau canlynol eu diwygio yn 2011. Roedd yr ymarfer ymgynghori yng Nghymru yn cynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, cynhalwyr, cyflogwyr, ymarferwyr, swyddogion llywodraethol, cynrychiolwyr o addysg bellach ac addysg uwch ac o gyrff proffesiynol.
Mae gan Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol nifer o ddefnyddiau yn y gweithle neu o ran datblygiad yr unigolyn. Mae’r rhain yn cynnwys diffinio rolau yn y gwaith, recriwtio staff, goruchwylio ac arfarnu, nodi anghenion hyfforddiant neu anghenion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), a chynllunio staff. Maent yn helpu i gynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel.
Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn offeryn gwerthfawr i’w ddefnyddio fel meincnodau ar gyfer cymwysterau ac mae’r radd mewn gwaith cymdeithasol wedi’i seilio ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol.
Ardaloedd
-
Map swyddogaethol
-
Rôl allweddol 1 - Cynnal atebolrwydd proffesiynol
-
Rôl allweddol 2 - Ymarfer gwaith cymdeithasol proffesiynol
-
Rôl allweddol 3 - Hybu ymgysylltiad a chyfranogiad
-
Rôl allweddol 4 - Asesu anghenion, risgiau ac amgylchiadau
-
Rôl allweddol 5 - Cynllunio ar gyfer canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
-
Rôl allweddol 6 - Cymryd camau i sicrhau newid