Jump to content
Asesiad gan gyflogwr ar gyfer cofrestru gweithiwr gofal cymdeithasol

Dylai cyflogwyr ddefnyddio’r canllaw hwn i benderfynu a yw gweithiwr gofal cymdeithasol yn addas i ymarfer ac a oes ganddo’r ddealltwriaeth briodol i wneud cais i gofrestru gyda ni.

Mae’r cymwyseddau a restrir wedi’u seilio ar ddealltwriaeth gweithiwr gofal cymdeithasol o egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru, y bydd arno eu hangen i gyflawni ei rôl.

Dylai cyflogwyr ddarllen y rhestr a chymeradwyo cais y gweithiwr os ydynt yn fodlon bod y gweithiwr yn meddu ar y ddealltwriaeth briodol.

Tystiolaeth

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i weithwyr gofal cymdeithasol ddangos tystiolaeth o’u dealltwriaeth fel rhan o’u cais i gofrestru. Bydd y canllaw hwn yn helpu gweithwyr gofal cymdeithasol a’u cyflogwyr i ddarparu’r dystiolaeth briodol.

Caiff Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) weld sampl o’r dystiolaeth a ddefnyddioch i ategu eich penderfyniad, felly dylech sicrhau ei bod ar gael i ni os gofynnwn amdani. Gallwch ddefnyddio’r cofnod tystiolaeth hwn i gofnodi’ch tystiolaeth.

Gallai enghreifftiau o dystiolaeth gynnwys y canlynol (ond nid yw’n gyfyngedig iddynt):

  • adolygiad o gyfnod prawf a gweithgareddau sefydlu
  • cofnodion hyfforddiant neu fynychu cyrsiau
  • tystysgrifau a gafwyd trwy hyfforddiant asesedig, fel symud a thrafod, cymorth cyntaf a hylendid bwyd
  • nodiadau arsylwi, trafodaethau, goruchwyliaeth a/neu arfarnu
  • cyfarfodydd tîm
  • cwblhau’r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd neu Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan
  • adborth gan gydweithwyr a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Sut i gadarnhau asesiad gan gyflogwr

Llenwch yr adrannau perthnasol a rhowch dystiolaeth o sut mae’r gweithiwr gofal cymdeithasol wedi dangos ei ddealltwriaeth briodol.

Yn rhan o’i gais, gofynnir i’r gweithiwr gofal cymdeithasol nodi ei reolwr o restr ar GCCar-lein. Cysylltir â’r rheolwr drwy e-bost i gadarnhau’r cais.

Dyma fideo i gyflogwyr i'w helpu i ddeall sut i reoli ceisiadau asesu cyflogwr rydym yn eu gwneud yn eu cyfrif GCCarlein.

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen asesiad gan gyflogwr a'r cofnod tystiolaeth isod. Nid oes angen i chi anfon eich cofnod tystiolaeth atom gan nad ydym yn gofyn amdano fel rhan o gais. Mae'n bosib y byddwn yn cynnal archwiliadau sampl a gofyn am gopïau o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i wneud eich penderfyniad.

Darllenwch y cwestiynau cyffredin a ofynnir am y newidiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Mai 2022
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (38.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch