Sut i gofrestru drwy asesiad gan gyflogwr.
Mae asesiad gan gyflogwr yn ffordd i chi gofrestru gyda ni os nad oes gennych chi’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer eich rôl.
Gall eich cyflogwr asesu eich dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd, ac os ydyn nhw’n fodlon gallwch chi wneud y gwaith, gallan nhw gadarnhau eich cais i gofrestru.
Pan fyddwch chi'n gwneud cais i gofrestru, bydd angen i chi ddewis y person a fydd yn cwblhau eich asesiad cyflogwr o restr o unigolion cymeradwy posibl ar gyfer eich cyflogwr.
Byddwn ni’n anfon e-bost atyn nhw i roi gwybod fod eich asesiad gan gyflogwr yn aros i gael ei gwblhau yn eu cyfrif GCCarlein.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eu bod nhw’n cwblhau eich asesiad, fel gallwn ni fwrw ymlaen â'ch cais.
Os nad oes unigolyn cymeradwy gan eich cyflogwr i gwblhau eich asesiad gan gyflogwr, neu os nad ydych chi’n credu bod unrhyw un o'r unigolion ar y rhestr yn addas, dylech chi drafod gyda'ch rheolwr.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi gwblhau un o'r opsiynau cymhwyster a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Mae gennych chi hyd at chwe blynedd i gael eich cymhwyster.