Fe wnaethon ni ddarganfod lefelau uchel o sgiliau digidol sylfaenol ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o ymatebwyr yn teimlo'n hyderus gyda thasgau digidol sylfaenol fel mynd ar-lein (92 y cant), chwilio am wybodaeth (95 y cant) ac ymuno â chyfarfodydd rhithwir (93 y cant).
Dywedodd staff sy'n darparu gofal a chefnogaeth uniongyrchol bod ganddyn nhw hyder uchel wrth helpu'r bobl maen nhw’n eu cefnogi i ddefnyddio offer digidol bob dydd, fel ffonau symudol, galwadau fideo a chyfryngau cymdeithasol.
Ar draws y rhan fwyaf o rolau a mathau o ddarparwyr, mae pobl eisiau dysgu sgiliau digidol newydd ac mae ganddyn nhw’r hyder i wneud hynny. Rhannodd 78 y cant eu bod yn hyderus yn dysgu sut i ddefnyddio offer a thechnolegau digidol newydd.
Yn gyffredinol, nododd staff ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru hyder da mewn diogelwch sylfaenol. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr (96 y cant) yn teimlo o leiaf rhywfaint yn hyderus wrth gadw systemau, dyfeisiau a data yn ddiogel yn eu gwaith.
Ond nododd yr adroddiad hefyd rai bylchau sgiliau pwysig, gan gynnwys:
- datrys problemau technegol – dywedodd staff ar draws pob grŵp gweithlu eu bod yn cael trafferth datrys problemau technegol o ddydd i ddydd, hyd yn oed os ydyn nhw’n gyfforddus yn defnyddio offer digidol ar gyfer tasgau eraill
- technolegau arbenigol ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn – dim ond 45 y cant o staff sy'n teimlo'n hyderus yn defnyddio technoleg ar gyfer llesiant, fel dyfeisiau therapi rhyngweithiol
- deall a defnyddio offer AI – mae 41 y cant yn adrodd hyder isel neu ddim hyder yn y maes hwn, gyda llawer ddim yn ei weld yn berthnasol i'w rôl. Clywon ni hefyd gan 39 y cant sydd 'byth' yn defnyddio offer AI.
O ran seilwaith digidol, dywedodd 87 y cant o'r staff fod ganddyn nhw’r dechnoleg sydd ei hangen arnyn nhw i weithio'n effeithiol, gydag 84 y cant yn cytuno bod eu hoffer yn cael ei gynnal a'i ddiweddaru'n dda.
Mae dibynadwyedd rhyngrwyd swyddfa yn uchel (95 y cant), ond mae cysylltedd mewn lleoliadau cymunedol yn amrywio. Yn galonogol, mae arferion seiberddiogelwch yn gryf ar draws pob sefydliad, gydag 88 y cant o staff TG 'bob amser' neu 'weithiau' yn gwneud yn siŵr bod amddiffyniad malware neu antivirus yn cael ei osod a'i ddiweddaru ar bob dyfais.
Ond dywedodd staff TG fod cael gwahanol systemau i weithio gyda'i gilydd yn dal i fod yn her, gyda dim ond 35 y cant yn cytuno'n gryf bod eu gwahanol systemau yn cysylltu ac yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol.
Gwelon ni hefyd, er bod gan 34 y cant o sefydliadau preifat a thrydydd sector gynlluniau digidol clir ar waith, mae hyn yn gostwng i 16 y cant ar gyfer awdurdodau lleol.
Mae rhannu dysgu ar drawsnewid digidol gyda sefydliadau eraill yn faes arall i'w wella. Dim ond 53 y cant o sefydliadau sy'n gwneud hyn o leiaf 'weithiau'