Jump to content
Sut i ddefnyddio ein dyfais botensial ddigidol

Canllaw ar sut i ddefnyddio ein dyfais botensial ddigidol.

Cam un: Dod o hyd i’ch dolen

Os ydych chi ar ein Cofrestr, fe wnaethon ni anfon dolen atoch am y ddyfais ar 9 neu 10 Ionawr mewn e-bost o’r enw ‘Dyfais am ddim i'ch helpu i ddeall eich potensial digidol’.

Mae’r ddolen yn yr e-bost hwn yn unigryw i’ch sefydliad chi.

Gwnewch yn siwr taw eich cyflogwr presennol sydd wedi'i enwi yn yr e-bost. Os ydych chi wedi newid cyflogwr, gofynnwch i’r Unigolyn Cyfrifol yn eich sefydliad newydd i rannu dolen y sefydliad gyda chi.

Os nad ydych chi wedi derbyn yr e-bost, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru neu ffoniwch 02920 780656. Edrychwch hefyd yn eich ffolder ‘junk’ am yr e-bost.

Cam dau: Cael mynediad at y cwestiynau

Cliciwch neu tapiwch ar y ddolen yn yr e-bost. Bydd hyn yn mynd â chi i Microsoft Forms, lle gallwch chi ateb cwestiynau am eich sgiliau digidol a’ch hyder eich hun, yn ogystal a pharodrwydd digidol eich sefydliad.

Bydd angen i chi ateb y cwestiynau a phwyso 'cyflwyno' ar ddiwedd y ffurflen er mwyn i ni allu anfon eich canlyniadau a’ch adnoddau defnyddiol atoch.

Angen newid yr iaith?

Mae’r ffurflen Microsoft ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os nad yw’r ffurflen yn eich dewis iaith pan fyddwch chi'n ei hagor, gallwch newid yr iaith drwy ddefnyddio’r ddewislen yn y gornel dde uchaf.

Cliciwch neu tapiwch ar y botwm i ddangos yr opsiynau iaith, ac yna cliciwch neu tapiwch ar eich iaith o ddewis.

Cam tri: Ateb y cwestiynau

Bydd y ddyfais yn gofyn i chi am eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn symudol. Mae hyn er mwyn i ni allu anfon eich canlyniadau a’ch adnoddau atoch.

Sut i ychwanegu eich cyfeiriad e-bost

Cliciwch neu tapiwch ar y bocs unwaith i ddechrau teipio. Rhowch gyfeiriad e-bost dilys os hoffech i ni anfon eich canlyniadau i chi drwy’r dull hwn.

Awgrym

Sicrhewch nad oes bylchau a bod y fformat yn dilyn y strwythur e-bost arferol (er enghraifft, user@domain.com).

Sut i ychwanegu eich rhif ffôn symudol

Cliciwch neu tapiwch ar y bocs unwaith i ddechrau teipio.

Rhowch rif ffôn symudol os hoffech i ni anfon eich canlyniadau i chi drwy’r dull hwn.

Dylai’r rhif ddechrau gyda +44 neu 07. Er enghraifft, +447123456789 neu 07123456789.

Awgrym

Sicrhewch nad ydych chi'n cynnwys unrhyw fylchau na symbolau ychwanegol yn eich rhif ffôn.

Bydd y ddyfais yn gofyn i chi ateb cwestiynau mewn fformatau gwahanol, gan gynnwys cwestiynau dewis lluosog a chwestiynau graddio.

Sut i ateb cwestiynau dewis lluosog

Cliciwch neu tapiwch ar y bocs unwaith wrth ymyl yr opsiwn sy’n disgrifio orau sut hoffech chi ateb.

Os byddwch chi'n clicio’r un anghywir, cliciwch neu tapiwch ar y bocs hoffech chi ei ddewis, a bydd eich ymateb yn newid.

Sut i ateb cwestiynau graddio

Wrth gwblhau’r ddyfais, bydd datganiadau gwahanol yn cael eu cyflwyno i chi. Bydd angen graddio faint rydych chi’n cytuno â’r datganiad, neu pa mor hyderus rydych chi’n teimlo wrth gyflawni’r dasg sy'n cael ei ddisgrifio.

Er enghraifft, ‘Mae fy sefydliad yn darparu’r offer sydd ei angen arnaf’. Os ydych chi'n cytuno’n gryf fod eich sefydliad yn darparu’r offer sydd ei angen arnoch i wneud eich gwaith, cliciwch ar y cylch sydd o dan ‘cytuno’n gryf’ ac ar yr un rhes â’r datganiad hwnnw.

Ar gyfer pob datganiad, dewiswch un ymateb yn unig.

Sut i symud drwy’r ddyfais

Ar waelod pob tudalen, mae bocs sy’n dweud ‘Nesaf’. Unwaith rydych chi wedi ateb yr holl gwestiynau ar dudalen, cliciwch ‘Nesaf’ i symud ymlaen i’r un nesaf.

Cam pedwar: Cyflwyno eich ymatebion

Parhewch drwy’r cwestiynau nes i chi gyrraedd y dudalen lle byddwch chi'n cyflwyno eich ymatebion.

Os oes gennych chi unrhyw beth hoffech chi ei ychwanegu sydd heb gael ei thrafod fel rhan o'r cwestiynau, cliciwch neu tapiwch ar y bocs testun i deipio eich ymateb.

Gallwch chi wedyn glicio neu dapio’r botwm ‘Cyflwyno’ i anfon eich holl ymatebion.

Unwaith rydych chi wedi cyflwyno eich ymatebion, byddwn ni'n anfon e-bost neu neges destun gyda dolen i’ch canlyniadau.

Cam pump: Dod o hyd i’ch dolen canlyniadau

E-bost

Os gwnaethoch chi adael cyfeiriad e-bost ar ddechrau’r cwestiynau, byddwn ni'n anfon e-bost o digidol@gofalcymdeithasol.cymru gyda dolen i’ch canlyniadau.

Ffôn symudol

Os gwnaethoch chi adael rhif ffôn symudol ar ddechrau’r cwestiynau, byddwn ni'n anfon neges destun gyda dolen i’ch canlyniadau.

Awgrym

Er mwyn sicrhau gallwch chi gael mynediad at eich canlyniadau eto, peidiwch â dileu’r e-bost neu’r neges destun o’ch mewnflwch. Os yw eich e-byst neu negeseuon destun yn cael eu dileu’n awtomatig, cadwch y ddolen hon yn rhywle diogel.

Cam chwech: Gweld eich canlyniadau

Unwaith i chi clicio neu dapio ar y ddolen, bydd eich tudalen canlyniadau unigryw yn ymddangos. Bydd hyn yn dangos eich canlyniadau cyffredinol a dadansoddiad o bob adran.

Bydd y dudalen hon hefyd yn argymell ffyrdd defnyddiol o ddefnyddio technoleg yn eich gwaith, gyda dolenni i adnoddau.

Mynediad i dudalen canlyniadau’r sefydliad fel arweinydd

Os gwnaethoch chi ateb y cwestiynau arweinyddiaeth yn y ffurflen, byddwn ni hefyd yn anfon e-bost neu neges destun gyda dolen i ganlyniadau eich sefydliad.

Unwaith i chi clicio neu dapio ar y ddolen, byddwch chi'n gweld tudalen canlyniadau cyffredinol eich sefydliad. Bydd hon yn dangos cyfartaledd o ganlyniadau eich sefydliad a dadansoddiad o bob adran.

Bydd y dudalen hon hefyd yn argymell ffyrdd defnyddiol o ddefnyddio technoleg yn eich gwaith, gyda dolenni i adnoddau a hyfforddiant.

Cam saith: Deall eich canlyniadau

Ar ben dudalen gartref y canlyniadau, byddwch chi'n gweld eich sgôr gyffredinol fel canran. Mae hyn yn ganran sy’n cynrychioli eich sgôr gyfartalog ar draws yr holl adrannau.

O dan hyn, mae siart far yn dangos eich canran ar gyfer pob adran.

Mae’r testun o dan y siart yn egluro ble wnaethoch chi sgorio uchaf a pha feysydd gallech chi eu datblygu. Mae hyn yn seiliedig ar eich atebion am eich hyder a’ch sgiliau digidol.

Archwilio’r gwahanol adrannau

O dan y testun, mae blociau gyda theitl pob adran fe wnaethoch chi eu cwblhau yn y ffurflen. Cliciwch neu tapiwch ar y bloc i weld eich canlyniad cyffredinol ar gyfer yr adran honno, yn ogystal ag adnoddau defnyddiol.

Mae’r adnoddau rydyn ni'n eu cyflwyno i chi yn dibynnu ar eich sgôr ar gyfer yr adran honno. Mae amrywiaeth o adnoddau i’w dewis.

Awgrym

Dewiswch un adnodd gall fod yn defnyddiol i chi yn eich rôl bresennol a rhowch cynnig arni. Efallai gallwch chi ddefnyddio eich canlyniadau a’r adnoddau sy'n cael eu hawgrymu i lywio goruchwyliaeth, neu eu cynnwys yn eich cynllun datblygu personol.

Mynediad i’r adnoddau

Os bydd adnodd yn eich diddori, cliciwch neu tapiwch ar y ddolen. Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen we newydd.

Bydd yr adnoddau hyn bob amser ar gael ar eich tudalen canlyniadau. Os nad oes gennych chi amser i ddysgu mwy ar hyn o bryd, gallwch chi ddychwelyd i’r rhestr adnoddau drwy glicio’r ddolen yn eich e-bost neu neges destun.

Mae’r cyrsiau a’r adnoddau sydd wedi'u rhestri ar y dudalen hon wedi bodloni ein meini prawf ar gyfer cael eu cynnwys, ond dydyn nhw ddim wedi cael eu hasesu na’u cymeradwyo gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Gweld dadansoddiad o’ch ymatebion i bob cwestiwn

O dan yr adnoddau ar gyfer yr adran hon, fe welwch chi'r pennawd ‘Deall eich sgôr’.

Cliciwch neu tapiwch ar y ddolen o dan y pennawd i weld eich ymatebion ar gyfer yr adran hon.

Yma, gallwch chi weld mewn mwy o fanylder ble wnaethoch chi sgorio uchaf a pha feysydd gallwch chi ganolbwyntio arnyn nhw i wella eich hyder a’ch sgiliau digidol.

Gallwch chi hefyd weld yr adnoddau sydd ar gael yn yr adran hon.

Mynediad i ganlyniadau blaenorol

Os ydych chi wedi cwblhau’r ffurflen fwy nag unwaith a hoffech chi weld eich canlyniadau blaenorol, fe welwch chi'r pennawd ‘Eich canlyniadau blaenorol’ ar waelod y dudalen canlyniadau.

Cliciwch neu tapiwch ar y ddolen o dan y pennawd i fynd i dudalen newydd lle mae’ch canlyniadau blaenorol wedi’u storio.

Os na allwch weld unrhyw ganlyniadau blaenorol, mae hyn naill ai’n golygu nad ydych chi wedi defnyddio’r ddyfais o’r blaen, neu eich bod wedi defnyddio cyfeiriad e-bost neu rif ffôn gwahanol wrth gwblhau’r cwestiynau y tro diwethaf.

Deall canlyniadau eich sefydliad (ar gyfer arweinwyr)

Awgrym

Canolbwyntiwch ar un adran lle gallai gwelliant wneud yr effaith fwyaf ac archwiliwch yr adnoddau gyda’ch tîm.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r canlyniadau hyn a’r adnoddau i lywio cynlluniau datblygu tîm, rhaglenni hyfforddi staff neu drafodaethau strategol am dwf sefydliadol.

Angen mwy o wybodaeth?

Os oes unrhyw eiriau neu dermau yn y ddyfais nad ydych chi'n eu deall, efallai bod esboniad yn ein geirfa o dermau digidol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os oes angen cymorth pellach arnoch, anfonwch e-bost i digidol@gofalcymdeithasol.cymru neu ffoniwch 02920 780656.

Cyhoeddwyd gyntaf: 7 Ionawr 2025
Diweddariad olaf: 10 Ionawr 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (41.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch