Jump to content
Geirfa o dermau digidol

Wrth gwblhau ein dyfais botensial ddigidol, efallai byddwch chi'n dod ar draws geiriau neu dermau sy’n newydd i chi.

Mae'r eirfa hon yn helpu i egluro rhai o'r termau gallech chi ddod o hyd i yn y ddyfais.

Os dewch chi o hyd i air neu derm yn y ddyfais nad ydych chi'n deall ac nad yw ar y rhestr hon, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.

Rydyn ni wedi rhestru'r geiriau a'r termau yn nhrefn yr wyddor.

A

Ansawdd data

Pa mor fanwl gywir, cyflawn ac addas yw'r data at ei ddiben penodol.

Anifeiliaid anwes robotig

Robotiaid sydd wedi’u dylunio i ddarparu cymdeithas a chefnogaeth emosiynol, fel cath robotig.

Arloesi digidol

Chwilio am atebion digidol i broblemau penodol fel rhan o brosiectau sefydliadol.

Atebion digidol

Y defnydd o dechnoleg i ddatrys problemau neu i optimeiddio prosesau, fel meddalwedd amserlennu ar gyfer rheoli staff.

Awtomeiddio proses

Y defnydd o dechnoleg, rhaglenni neu brosesau i wneud tasgau'n haws, gyda llai o waith llaw.

B

Bwrdd gwyn ar-lein

Bwrdd gwyn rhithwir sy'n galluogi pobl i rannu syniadau, gwneud cynlluniau mwy gweledol, a nodi meddyliau.

C

Canolfan derbyn larwm

Canolfan sy'n derbyn ac yn prosesu rhybuddion gan breswylwyr trwy eu dyfeisiau. Mae'r math o ddata maen nhw’n derbyn yn dibynnu ar y math o ddyfais a'r math o system. Er enghraifft, galwad am gymorth gan ddyfais rhywun ar ôl cwympo.

Casglu data personol

Yn y cyd-destun hwn, rydyn ni’n cyfeirio at gofnodi gwybodaeth. Er enghraifft, mewn cofnodion gofal, neu ofyn i bobl adael eu manylion ar ffurflen.

Cofnod gofal electronig (ECR)

System ddigidol sy’n cael ei ddefnyddio i reoli gofal person yn lle cofnodion papur.

Cofnodion gofal digidol

Casgliad o nodiadau am berson sy'n defnyddio gofal a chymorth. Mae’r cofnodion yn cael eu cadw gan ddefnyddio offer digidol fel rhaglen gyfrifiadurol neu ap.

Cyfarfod ar-lein

Cyfarfodydd rhithwir sy'n galluogi pobl i gysylltu a chymryd rhan heb fod yn yr un lleoliad.

Cyfathrebu trwy dechnoleg

Y defnydd o blatfformau, offer neu ddyfeisiau fel Microsoft Teams neu WhatsApp i rannu gwybodaeth a chydweithio.

Cyfryngau cymdeithasol

Platfformau fel Facebook, Instagram a LinkedIn, lle gall pobl rwydweithio, rhannu cynnwys, a chysylltu ag eraill.

Cynllun gofal

Nodiadau sy’n ymwneud â’r person sy’n defnyddio gofal a chymorth yn egluro pam mae’r person yn derbyn gofal a’r canlyniadau disgwyliedig.

D

Dewis gwybodus

Darparu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys risgiau a chanlyniadau, i helpu unigolion i wneud penderfyniadau.

Diogelu

Y broses o warchod iechyd, hawliau a llesiant unigolion.

Diogelu data

Y broses o ddiogelu gwybodaeth bersonol sensitif rhag niwed, colled neu lygredd.

Dilysu dau ffactor

Mesur diogelwch sy'n gofyn am ddau fath o ddilysu cyn caniatáu mynediad. Er enghraifft, cyfrinair a chod gwirio.

Dogfennau a chyflwyniadau ar y cyd ar-lein

Ffeiliau y gall nifer o bobl weithio arnyn nhw ar yr un pryd gan ddefnyddio offer fel Google Drive neu Microsoft OneDrive.

Dyfeisiau gwisgadwy

Technoleg sy’n cael ei gwisgo ar y corff ac sy’n cael ei defnyddio i fonitro iechyd neu lefelau gweithgaredd, fel oriorau clyfar.

Dyfeisiau therapi rhyngweithiol

Dyfeisiau sy'n helpu’r person sy’n defnyddio gofal a chymorth i ffynnu’n emosiynol ac yn wybyddol. Er enghraifft, dyfeisiau sy’n helpu’r person i gofio a rhannu eu hatgofion drwy ddefnyddio cliwiau sain a gweledol, neu ddyfais sy'n rhoi cwtsh. Gweler hefyd 'technoleg therapiwtig'.

Dyfais meddyginiaeth

Dyfais sy’n rhyddhau neu’n atgoffa unigolion i gymryd meddyginiaeth, fel dosbarthwr pils.

Dyfais symudol

Dyfais fach, gludadwy fel ffôn neu dabled sy’n cael eu defnyddio ar gyfer tasgau gwaith neu bersonol.

G

GDPR (Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data)

Deddfwriaeth sy'n diogelu hawliau a rhyddid unigolion drwy reoleiddio prosesu data personol.

Gofal yn y cartref

Gofal sy’n cael ei ddarparu yn nhŷ unigolyn ei hun.

Gosodiad caledwedd

Dyfeisiau ac offer mae sefydliad yn eu defnyddio, fel gliniaduron, tabledi neu gyfrifiaduron.

Gwe-rwydo (phishing)

Ymosodiad seiber lle mae unigolion yn cael eu twyllo i ddatgelu gwybodaeth sensitif trwy gyfathrebu twyllodrus.

Gweithiwr asiantaeth

Gweithiwr proffesiynol nad yw'n aelod parhaol o'r staff.

M

Meddalwedd

Rhaglenni sy'n perfformio tasgau penodol, fel anfon e-byst neu fonitro gofal pobl.

Meddalwedd gwrth-firws a maleiswedd

Rhaglenni wedi'u dylunio i ganfod a thynnu bygythiadau diogelwch fel firysau neu faleiswedd.

Meddalwedd rheoli meddyginiaeth

Offer sy’n cael eu defnyddio i oruchwylio a monitro gweinyddu meddyginiaethau.

Monitro sŵn

Dyfeisiau, fel meicroffonau, sy’n cael eu defnyddio i fonitro am synau annisgwyl sy'n dangos newid mewn ymddygiad.

O

Offer

Dyfeisiau sydd eu hangen i gwblhau tasgau, fel gliniaduron neu ffonau symudol.

Offer deallusrwydd artiffisial (AI)

Mae offer AI yn rhaglenni cyfrifiadurol sy'n gallu gwneud tasgau fel ateb cwestiynau, datrys problemau, neu greu pethau fel lluniau neu destun. Er enghraifft, ChatGPT, Microsoft Copilot a Grammarly.

Maen nhw’n gweithio trwy ddysgu o set o ddata neu enghreifftiau. Ond nid yw offer AI bob amser yn cael pethau'n iawn ac mae angen i bobl gywiro eu hallbynnau.

Offer digidol

Offer, rhaglenni neu apiau sy’n gysylltiedig â gwaith. Er enghraifft, ap ar gyfer diweddaru cofnodion gofal.

Offer hygyrchedd

Gosodiadau penodol sy'n gwneud dyfeisiau'n haws i'w defnyddio. Er enghraifft, newid maint testun, cael testun wedi'i ddarllen yn uchel, neu ddangos is-deitlau.

Offer negeseuon

Apiau sy’n galluogi cyfathrebu rhwng aelodau tîm, fel Microsoft Teams neu Slack.

P

Platfform

Meddalwedd neu wasanaeth sy’n cefnogi cwblhau tasgau neu gael mynediad at wasanaethau. Er enghraifft, platfformau cyfryngau cymdeithasol, gemau neu blatfformau ffrydio fideo fel Netflix.

S

Seiberddiogelwch

Mesurau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu dyfeisiau, systemau a gwybodaeth bersonol rhag mynediad heb ganiatâd, fel gan hacwyr.

Seinydd clyfar

Dyfais wedi’i reoli gan lais ac sy'n gallu gwneud tasgau fel chwarae cerddoriaeth, gosod larymau neu ateb cwestiynau.

Sgiliau digidol

Yr ystod o alluoedd i ddefnyddio dyfeisiau digidol, apiau cyfathrebu a rhwydweithiau i gael mynediad at a rheoli gwybodaeth.

Strategaeth ac arweinyddiaeth ddigidol

Cynllunio ac arweinyddiaeth sefydliadol sy’n canolbwyntio ar wella gweithrediadau a gwasanaethau gan ddefnyddio offer a systemau digidol.

Synhwyrydd cadair

Pad pwysau sy’n monitro symudiadau person mewn cadair i ganfod symudiadau anarferol, fel cwymp allan o’r gadair.

Synhwyrydd gwely

Pad pwysau sy’n cael ei ddefnyddio i fonitro symudiadau person mewn gwely, gan ganfod symudiadau anarferol.

Synhwyrydd symudiadau

Dyfeisiau fel camerâu neu badiau pwysau sy'n monitro symudiadau i ganfod ymddygiad anarferol.

System larwm galwadau

Dyfais sy’n cael ei defnyddio i hysbysu gofalwyr pryd mae angen cymorth. Er enghraifft, os oes cwymp wedi digwydd yn y cartref.

System TG

Casgliad o offer, rhaglenni ac adnoddau sy'n cefnogi gweithrediadau sefydliad.

Systemau adloniant (rhyngweithiol)

Technoleg sy’n ymgysylltu ac yn diddanu, fel consolau gemau neu sgriniau cyffwrdd.

T

Teleiechyd

Technoleg sy’n monitro iechyd o bell, fel dyfeisiau sy’n monitro pwysedd gwaed neu lefelau ocsigen.

Teleofal

Technoleg sy’n cefnogi byw’n annibynnol trwy ddyfeisiau fel synwyryddion cwymp a larymau brys.

Technoleg therapiwtig

Offer neu gyfarpar sy’n helpu pobl yn emosiynol, fel dyfeisiau therapi rhyngweithiol neu anifeiliaid anwes robotig.

Tor diogelwch data

Digwyddiad lle mae gwybodaeth breifat yn cael ei datgelu i unigolion sydd heb ganiatâd i'w weld.

Trawsnewid digidol

Newid yn y ffordd mae sefydliad yn gweithio ac yn meddwl, gan ganolbwyntio ar ddod o hyd i atebion digidol i broblemau ac ar wella effeithlonrwydd.

U

Unigolyn Cyfrifol

Person sydd â dyletswyddau a chyfrifoldebau dros oruchwylio darparu gwasanaethau a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau.

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Rhagfyr 2024
Diweddariad olaf: 9 Ionawr 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch