Jump to content
Sut ddewison ni'r adnoddau ar gyfer y ddyfais botensial ddigidol

Ein meini prawf ar gyfer penderfynu pa adnoddau rydyn ni'n tynnu sylw at fel rhan o’n ddyfais botensial ddigidol.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau ein dyfais botensial ddigidol, byddwn ni'n rhoi gwybodaeth i chi am adnoddau gall eich helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol.

Mae’r adnoddau hyn wedi bodloni ein meini prawf ar gyfer cael eu cynnwys, ond dydyn nhw ddim wedi cael eu hasesu na’u cymeradwyo gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Dylai'r adnoddau fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol.

Byddwn ni'n ystyried:

  • adnoddau sy'n cael eu darparu gan sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu lle mae lleoliad cwrs yng Nghymru
  • adnoddau o unrhyw sefydliad addysg bellach neu addysg uwch sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sydd â phresenoldeb yng Nghymru (fel y Brifysgol Agored)
  • adnoddau gan unrhyw un o asiantaethau Llywodraeth y DU, gan gynnwys gweinyddiaethau datganoledig (fel adnoddau sydd wedi'u creu ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr)
  • adnoddau sy'n cael eu cynnig gan sefydliadau .wales/.cymru eraill, gan y gallai’r rhain fod yn sefydliadau sydd wedi’u sefydlu’n benodol i ddiwallu anghenion dysgu pobl sy’n gweithio yng Nghymru
  • adnoddau sy'n cael eu cynnig gan ddatblygwyr offer o safon diwydiant neu sefydliadau dysgu.

Rydyn ni hefyd wedi cynnwys rhai adnoddau perthnasol eraill sy’n bodloni ein hamcanion ac yn darparu dysgu hunangyfeiriedig am ddim.

Os ydyn ni wedi cynnwys adnodd fel rhan o'r ddyfais, nid yw’n golygu bod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi’i gymeradwyo.

Rydyn ni wedi ceisio dewis yr adnoddau’n ofalus, a chan ddarparwyr sy'n cael eu hymddiried, i ddiwallu anghenion pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os ydych chi wedi defnyddio un o’r adnoddau ac nad oedd o’r ansawdd roeddech chi’n ei ddisgwyl, rhowch wybod i ni drwy e-bostio digidol@gofalcymdeithasol.cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Rhagfyr 2024
Diweddariad olaf: 9 Ionawr 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (24.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch