Jump to content
Cwrs dysgu Cymraeg am ddim i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol
Newyddion

Cwrs dysgu Cymraeg am ddim i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru nawr ddysgu Cymraeg am ddim, diolch i gwrs ar-lein newydd.

Rydyn ni wedi creu’r cwrs Camau mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn arbennig ar gyfer bobl sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol.

Mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Mae'r modiwl Mynediad yn addas i ddechreuwyr ac mae wedi rannu yn dair rhan o rhyw 20 awr o hunan astudio i bob rhan.

Mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.

Cofrestru

Gallwch gofrestru ar gyfer y cwrs Mynediad drwy wefan Dysgu Cymraeg. Mae dau gwrs ar gael, yn defnyddio tafodiaith y gogledd neu’r de.Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif gallwch gychwyn y cwrs yn syth trwy fynd i ‘Fy Nysgu’ o fewn eich cyfrif ar dysgucymraeg.cymru.

Cofrestrwch ar gyfer: